Bydd trydydd cyfnod Mynegi Diddordeb Creu Coetir Glastir yn agor ar 30 Awst 2016 ac yn dod i ben am hanner nos 14 Hydref 2016.

Mae Glastir Creu Coetir yn neilltuo cymorth ariannol ar gyfer cynnal gwaith plannu newydd. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd ar gyfer plannu coed ar dir sy’n parhau I gael ei bori fel rhan o system Amaeth-Goedwigaeth h.y sy’n cyfuno amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Oherwydd ansicrwydd ynglyn a ariannu yn y dyfodol unwaith fydd yr DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn bresennol, ni fedrwn gadarnhau y cynnig o taliadau incwm colliant a chynhaliaeth. O ganlyniad, fe fydd Llywodraeth Cymru ond yn medru cadarnhau y cynnig o taliadau sefydlu a gwaith cyfalaf cysylltiedig. Fe fydd cyllideb o £1.7milliwn ar gael I’r nod hyn. Fe fydd diweddariadau ar gael pan fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn fwy o wybodaeth yn ymwneud a ariannu yn y dyfodol.

I fod yn gymwys i fynegi diddordeb yn ystod y trydydd cyfnod bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu cwblhau’r holl waith cyfalaf a phlannu erbyn 31 Mawrth 2018.

Rhaid cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb Adfer Coetir Glastir drwy RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi'ch cofrestru gydag RPW Ar-lein ac nad oes gennych god defnyddio, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynllun Creu Coetir Glastir ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu e-bostiwch RPWOnline@wales.gsi.gov.uk

Mae map cyfleoedd Glastir Creu Coetir, sydd yn dangos rhwystredigaethau sensitifeddau sydd yn gysylltiedig a’r safle plannu ar gael ar Wefan Lle. Mae canllawiau sut i ddefnyddio ar gael yn yr ardal ddogfennau ar wefan Llywodraeth Cymru.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites