Mae teulu ffermio o Geredigion yn herio’r dull traddodiadol o symud ymlaen yn y sector llaeth yng Nghymru. Mae Arwel a Mary Davies a’u mab, Hywel, sy’n godro 400 o wartheg Holstein Friesian ar dri daliad, yn cynnig cyfle i greu menter ar y cyd fel rhan o raglen Mentro Cyswllt Ffermio. Mae Mr a Mrs Davies, a ddechreuodd eu busnes ffermio gyda 55 erw, yn barod i gymryd cam yn ôl o reolaeth y fenter o ddydd i ddydd.

“Rydym ni eisiau cael cyfle i fwynhau pethau eraill, ond nid ydym yn dymuno gadael y diwydiant ffermio yn gyfan gwbl,” eglurodd Arwel.

Eu hymateb yw ffurfio menter ar y cyd gydag unigolyn sy’n awyddus i symud ymlaen yn y diwydiant amaeth. Mae’r teulu’n dymuno denu rhywun a fyddai’n dod â syniadau newydd a brwdfrydedd i’r busnes, gan rannu'r llwyddiannau a'r cyfrifoldebau a ddaw law yn llaw gyda fferm laeth.

hywel davies 0
Dywed Hywel mai bwriad y newid yw sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ar gyfer pawb sy'n rhan ohono. “Mae maint y busnes yn ddigon mawr i gefnogi dau berson i wneud penderfyniadau.”

Mae angen i’r rôl ymestyn tu hwnt i weithiwr fferm meddai, felly mae'r teulu wedi dechrau chwilio am rywun i ymuno â nhw yn y busnes. Er mwyn cynorthwyo gyda’r chwilio, maent wedi cofrestru gyda Mentro, platfform cyfleoedd ar y cyd blaengar Cyswllt Ffermio sy'n hwyluso symudedd o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru.

Daeth y teulu Davies yn ymwybodol o’r fenter hon ar ôl darllen amdano fel rhan o lenyddiaeth Cyswllt Ffermio a gwrando ar gyflwyniad yn ystod cyfarfod undebau ffermwyr yn ddiweddar.

Mae Mentro’n cadw cronfa ddata o ‘geiswyr’ neu newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gael mynediad i’r diwydiant a ‘darparwyr' - ffermwyr neu dirfeddianwyr sydd eisiau darparu’r cyfle.

Mae Hywel yn hyderus y bydd Mentro’n darparu’r arweiniad sydd ei angen ar y fferm er mwyn llunio menter ar y cyd.

“Mae hyn i gyd yn newydd i ni felly mae derbyn cefnogaeth a chyngor sy'n annibynnol ac yn rhad ac am ddim yn help mawr. Fydden ni ddim eisiau derbyn neb heb wybod yr hyn y maent yn gallu ei wneud.”

Mae’r teulu’n ffermio dwy uned yn Nhalgarreg - Pantswllt a Blaenglowon - ac un arall ym Mhlwmp. Mae’r fuches yn lloia mewn dau floc - yn y gwanwyn a’r hydref. Maent yn bwriadu diweddaru'r cyfleusterau godro ym Mlaenglowon trwy osod parlwr cylchdro yn hwyrach yn y flwyddyn.

Bydd menter ar y cyd yn cynnig cyfle i rywun sydd eisiau symud ymlaen yn y diwydiant, meddai Hywel.

“Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn rhywun sydd eisiau rhannu’r cyfrifoldeb yn ogystal â’r llwyddiannau, rhywun sy'n dymuno adeiladu cyfalaf eu hunain. Rydym ni’n hyblyg ynglŷn â’r math o drefniant, cael y person iawn yw’r peth pwysicaf i ni."

Mae mentrau ar y cyd yn cynnwys ffermio ar gontract, llogi gwartheg, partneriaethau ecwiti a threfniadau godro cyfran.

“Er mor effeithlon ydych chi, mae bob amser lle i wella ac mae pobl newydd yn dod â syniadau newydd,” meddai Arwel.

Mae platfform Mentro Cyswllt Ffermio'n casglu data gan ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n ystyried menter ar y cyd ac yn eu paru gydag ymgeiswyr posib megis newydd ddyfodiaid, gweithwyr fferm, gofalwyr buches neu'r rhai sydd eisoes yn ffermio sy'n dymuno tyfu a datblygu eu busnes. 

Unwaith y bydd par addas wedi’u canfod, bydd cefnogaeth wedi’i deilwra’n cael ei ddarparu i’r ddwy ochr trwy ystod o wasanaethau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori, sy'n darparu cyngor arbenigol wedi'i ariannu'n llawn i sefydlu'r strwythur busnes newydd a'r cytundebau.

Os bydd y teulu Davies yn canfod yr ymgeisydd iawn, mae Arwel a Mary’n bwriadu cymryd agwedd mwy pwyllog tuag at fywyd.

Os ydych chi’n credu eich bod yn ymgeisydd addas ar gyfer y teulu Davies, neu os hoffech glywed am gyfleoedd arall sydd ar gael drwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio, cysylltwch ag Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora ar 01970 636297 neu e-bostiwch einir.davies@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites