16 Ionawr 2018

 

Mynychodd dros 70 o ffermwyr ddigwyddiad gan Cyswllt Ffermio ble bu Natural Wagyu a Capestone Organics o Sir Benfro yn datgelu eu strategaethau ar gyfer datblygu eu marchnadoedd.

 

will prichard rob cumine justin scale and carys thomas 0

Mae partneriaid Natural Wagyu, Rob Cumine a Will Prichard, yn awyddus i gynyddu’r cyflenwad o Wagyu i gwsmeriaid o chwe anifail yr wythnos i 40 tra bod Justin Scale o Capestone Organics yn chwilio am bobl i fagu cannoedd ar filoedd o ddofednod maes organig.

Dywedodd Carys Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol y de orllewin gyda Cyswllt Ffermio, fod y cyfleoedd hyn yn wahanol i gysyniadau traddodiadol eraill ar gyfer arallgyfeirio ar y fferm.

“Mae mwy a mwy o ffermwyr yn edrych am gyfleoedd i arallgyfeirio er mwyn ychwanegu at eu ffrydiau incwm presennol, ond yn hanesyddol mae’r rhain wedi canolbwyntio ar ddarparu llety, twristiaeth ac ychwanegu gwerth at gynnyrch bwyd.

“Mae arallgyfeirio i gynhyrchu mathau gwahanol o dda byw yn rhoi cyfle arall ac yn defnyddio sgil sydd gan ffermwyr yn barod.” 

Mae Capestone Organics ar y trywydd iawn ar gyfer cynhyrchu 250,000 o dyrcwn ar gyfer marchnad y Nadolig eleni, yn ogystal â’r 50,000 o ieir maes organig sy’n cael eu cynhyrchu bob wythnos.

Dywedodd Mr Scale bod lle i ddatblygu yn y sector maes wrth i’r galw am ieir o les uwch gynyddu. Er mwyn cwrdd â gofynion marchnad y dyfodol mae Mr Scale wedi lansio cynllun ‘cynhyrchwyr allanol’.

“Rydym ni wedi magu’n ieir ein hunain erioed, ond unwaith i chi gyrraedd 200 o staff a’r lefelau cynhyrchu sydd gennym ni, mewn busnes fel hwn mae pethau’n dechrau mynd yn drwsgl,” dywedodd wrth y ffermwyr yn y digwyddiad yng ngwesty Nantyffin Hotel, Llandysilio.

“Mae’n ddewis cynaliadwy er mwyn i ni amrywio ein dewisiadau bridio.”

Mae Mr Scale yn cynnig dau ddewis i gynhyrchwyr posib, sef i fagu adar organig neu adar maes.

Byddai gofyn am wariant sylweddol - bydd angen buddsoddiad o £600,000 ar gyfer isadeiledd yn yr opsiwn dofednod maes- ond, bydd Capestone yn cynnig cytundeb 10 mlynedd i’r cynhyrchwyr. 

Dywedodd Mr Scale y gallai ffermwyr greu menter amrywiol sy’n gwneud elw ac a fyddai’n ychwanegu’n sylweddol at eu helw net a hynny ar ardal weddol fychan o tua 15 erw ar gyfer yr opsiwn maes a 5 erw ar gyfer yr opsiwn organig.

Bydd ffermwyr yn derbyn ymrwymiad oddi wrth y cwmni fel cydnabyddiaeth am eu buddsoddiad. “Rydym ni’n edrych am gytundebau tymor hir os yw ffermwyr yn cyfrannu’r cyfalaf wrth adeiladu siediau,” dywedodd Mr Scale.

“Bydda i’n hapus iawn os bydd 10 safle yn eu lle blwyddyn nesaf.”

Mae angen i Natural Wagyu gynyddu eu cyflenwad o wartheg Wagyu sydd wedi’u bwydo ar y borfa er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol. 

Dywedodd Mr Cumine fod y cynnig yn rhoi cyfle i ffermwyr fod yn agosach at eu cwsmeriaid.

Mae Mr Cumine yn credu bod Brexit wedi rhoi cyfle i gynhyrchwyr Wagyu gan fod grid EUROP yn un o’r prif rwystrau ar gyfer y brîd.

“Mae system raddio EUROP wedi bod yn rhwystr i’r Wagyu felly gorau gyd po gynted y byddwn ni’n anghofio’r system ar gyfer y Wagyu oherwydd y blas a’r braster drwy’r cig sy’n bwysig ar gyfer y brîd hwn.”

Mae Natural Wagyu yn edrych ar sefydlu grŵp cynhyrchu fydd yn defnyddio geneteg wedi’i ddarparu gan y cwmni.

Disgrifiodd Mr Cumine y fformiwla fel dehongliad cyfoes ar fenter gydweithredol gyda Natural Wagyu yn rhannu’r risg a’r wobr gyda’r cynhyrchwyr.

Mae gan Cyswllt Ffermio ystod eang o wasanaethau ar gyfer cefnogi’r broses arallgyfeirio gan gynnwys cymorth un i un, y Gwasanaeth Cynghori neu aelodaeth gyda grŵp Agrisgôp er mwyn datblygu syniadau gyda phobl o’r un meddylfryd.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n ystyried arallgyfeirio i ddefnyddio’r gwasanaeth sydd ar gael, trwy edrych ar ein gwefan neu gysylltu â’u swyddog datblygu lleol,”dywedodd Carys Thomas.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal dau seminar arallgyfeirio i’ch helpu chi i ddysgu mwy am da byw amgen. Dewch i’n gweld yn:

  • The Fforest Inn, Llanfihangel-nant-Melan – 21/02/2018 am 19:30.
  • The Hand Hotel, Llangollen – 22/02/2018 am 19:30.

Ceir mwy o wybodaeth yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn