Mae Cyswllt Ffermio yn annog y rheiny sy’n ystyried dechrau ffermio moch, sydd eisoes yn ffermio moch a’r rheiny sy’n cadw moch fel diddordeb, i ymweld â Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru eleni ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 19 a 20 Mai 2018.
Bydd Cyswllt Ffermio, sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, yn cynnal cyfres o arddangosiadau ymarferol dyddiol sydd wedi’u targedu at ffermwyr moch, mewn menter ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Hybu Cig Cymru.
Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes sy’n darparu gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn disgwyl amser prysur iawn yn y digwyddiad blynyddol hwn sy’n llawn gweithgareddau.
“Byddwch chi’n gweld staff Cyswllt Ffermio mewn sawl lle eleni gan gynnwys yr adran foch, stondin ‘Dechrau Arni/Getting Started’ yn y Ganolfan Tyddynwyr ac yn Adeilad Lantra. Ein nod yw annog unigolion cymwys i ddefnyddio cymaint â phosib o’r holl wasanaethau a digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth sydd ar gael yn y rhaglen bresennol.
“Dylai unrhyw un sydd eisiau paratoi ei fusnes ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’i flaen yn y cyfnod heriol hwn yn economaidd, ddod i siarad â’n staff.”
Bydd sylw yn cael ei roi i iechyd a lles anifeiliaid, gan gynnwys bioddiogelwch ac ymwybyddiaeth o Dwymyn y Moch Affrica, trwy gydol yr ŵyl yn yr Adran Foch yn ogystal â chyngor gan y milfeddyg adnabyddus moch, a Hybu Cig Cymru.
“Mae HCC yn edrych ymlaen at gefnogi Cyswllt Ffermio yn yr Ŵyl Wanwyn eleni,” meddai Swyddog Datblygu’r Diwydiant HCC, Kirstie Jones. “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gymaint o gynhyrchwyr cig moch ag sy’n bosib, wrth roi cyngor am frandio a thrafod cyfleoedd y platfform marchnata Porc.Wales. Byddwn hefyd yn rhoi ein cardiau ryseitiau newydd allan er mwyn rhoi syniadau newydd i bobl ar sut i goginio’r porc cymreig gwych yma”
Dros y penwythnos bydd Bob Stevenson yn arwain seminarau rhyngweithiol ar ddethol genetig a’r amrywiaeth o fridiau moch. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddysgu am iechyd moch, hwsmonaeth a marchnata.
“Fy thema sylfaenol fydd gwella iechyd eich moch gan hybu eu lles ar yr un pryd. Yn ogystal, gyda’r moch o’n blaenau, byddaf yn sefydlu’r manteision o fridio pur, croesfridio syml mewn un cam, a‘r moch croesryw/ tair rhywogaeth sydd wedi’u datblygu. Trwy hyn i gyd, byddwn yn trafod gofynion penodol eich moch a chithau.”
Gallai’r rheiny sydd am ddysgu mwy am y negeseuon fydd yn cael eu rhannu dros y penwythnos gymryd mantais o’r modiwl e-ddysgu newydd ‘Bioddiogelwch moch ar gyfer tyddynwyr’.
Bydd Jodie Roberts, Swyddog Technegol Moch a Dofednod Cyswllt Ffermio, ar gael trwy gydol y penwythnos i ddarparu gwybodaeth i unrhyw unigolyn sy’n edrych am gyngor pellach ac arweiniad.
“Yn yr Ŵyl Wanwyn eleni, rydym ni’n gobeithio y bydd cynhyrchwyr moch yn cymryd mantais o’r wybodaeth sydd ar gael - mae arbenigwyr ar iechyd a lles moch yn awyddus i ddarparu gwybodaeth allweddol i ymwelwyr.”
Mae amserlen lawn o ddigwyddiadau’r penwythnos i’w gweld yma ar wefan Cyswllt Ffermio.