8 Mai 2019

 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorthfeydd wedi eu hariannu yn llawn i fusnesau cofrestredig am bynciau amrywiol. 

“Mae cymorthfeydd Cyswllt Ffermio yn gyfle gwych i ffermwyr edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn ogystal â dod yn fwy gwydn wrth ystyried y dyfodol ansicr sydd o’n blaenau.

“Yn y cymorthfeydd hyn mae cyfle i fusnesau dderbyn cyngor arbenigol un i un, yn ogystal ag adolygu arferion presennol ac asesu eu busnes.

“Bydd yr holl apwyntiadau yn cael eu rhannu ar sail cyntaf i’r felin, felly, mae busnesau yn cael eu hannog i archebu eu lle cyn gynted â phosibl.”

dywedodd Sara Jenkins, Rheolwraig Datblygu Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio.

Mae ystod eang o gymorthfeydd Cyswllt Ffermio ar gael, gan gynnwys cymorthfeydd Priddoedd a Glaswelltir sy’n gadael i ffermwyr drafod gofynion o ran maetholion, rheoli chwyn a brwyn, draenio, strwythur y pridd neu bori cylchdro.

Ar gael hefyd mae cymorthfeydd Profi Iechyd Anifeiliaid lle gall ffermwyr gael gwasanaethau samplo neu brofi ar nifer o broblemau iechyd anifeiliaid, a chael adborth a dadansoddiad gan eu milfeddyg lleol.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig cymorthfeydd Isadeiledd a Dylunio Adeiladau (sy’n cynnwys ymweliadau) i drafod gwella seilwaith ffermydd i wella effeithlonrwydd ac i leihau risgiau i’r amgylchedd.

Ymysg y cymorthfeydd Cyswllt Ffermio eraill mae Ychwanegu Gwerth at Goetir Fferm lle gall ffermwyr asesu sut y gallant ychwanegu gwerth at goetir sy’n bodoli neu goetir y bwriedir ei greu. Mae cymorthfeydd arallgyfeirio ar gael hefyd i drafod syniadau am wneud y mwyaf o’r adnoddau sy’n bodoli ar y fferm.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn rhoi cyngor busnes a thechnegol arbenigol, annibynnol trwy’r Gwasanaeth Cynghori sy’n derbyn cymhorthdal o hyd at 80% (neu wedi ei ariannu yn llawn i geisiadau gan grwpiau) yn ogystal â mentora cyfrinachol un i un wedi ei ariannu yn llawn am amrywiaeth eang o bynciau. 

Rhaid i'r holl fusnesau fusnesau fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i fod yn gymwys i fynychu’r cymorthfeydd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ffoniwch 08456 000 813. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am glinig fydd 31 Gorffennaf 2019. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn