30 Ebrill 2019

 

hannah jackson image low res 0
Ar Fehefin 4ydd 2019, bydd digwyddiad undydd newydd a chyffrous i roi syniadau newydd, ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol i entrepreneuriaid sy’n gobeithio cychwyn eu busnes ffermio eu hunain. Nod ‘Dechrau Ffermio’ yw casglu ffermwyr y dyfodol at ei gilydd o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i rannu syniadau, arferion gorau ac arloesi ac mae’n agored i bawb sy’n gobeithio cychwyn busnes fferm beth bynnag fo’u cefndir a’u hoedran.

Bydd y digwyddiad hwn yn The Celtic Manor Resort, Casnewydd, De Cymru, NP18 1HQ rhwng 10.00 a 16.00 a bydd yn ddigwyddiad bywiog a rhyngweithiol. Bydd y prif siaradwyr a fydd yn ysbrydoli’r gwrandawyr ar y diwrnod yn cynnwys Hannah Jackson (The Red Shepherdess a seren SAS Who Dares Wins ar Sianel 4), y chwiorydd Budge o Ynysoedd Shetland (a ymddangosodd yn ddiweddar ar ‘This Farming Life’ BBC) a’r ymwelydd rhyngwladol Cody Wood (entrepreneur a ffermwr da byw cenhedlaeth gyntaf) o Oregon, UDA. Bydd themâu’r gweithdai a’r sesiynau eraill yn cynnwys:

  • Arweiniad ymarferol mewn materion ariannol a chyfreithiol
  • Crynodeb o ddulliau i gael gafael ar dir
  • Archwilio mentrau ar y cyd a gwahanol fodelau busnes
  • Cyfleoedd i rwydweithio
  • Sesiynau gweithdy ymarferol
  • Trafodaethau am bolisïau’r dyfodol ynghylch busnesau fferm newydd a dechreuwyr newydd mewn ffermio

cody pic 0
Mae’r digwyddiad wedi’i ddatblygu ar y cyd gan adran Brydeinig y Prosiect Newbie Ewropeaidd a Cyswllt Ffermio yng Nghymru ac mae wedi’i gefnogi gan Fanc Barclays a phobl broffesiynol a sefydliadau ffermio eraill.

Meddai Adam Calo, llefarydd dros y Tîm ‘Dechrau Ffermio’ “Rydym wrth ein boddau ein bod yn cynnig y digwyddiad newydd hwn. Mae’n gyfle i ddod â phawb at ei gilydd sy’n gobeithio sefydlu eu busnesau ffermio eu hunain a darparu lleoliad lle gallent gwrdd ag entrepreneuriaid eraill ochr yn ochr â phobl broffesiynol blaenllaw yn y diwydiant. Mae cyfleoedd o bob math ar gael ac rydym eisiau helpu pobl i gael gafael ar yr wybodaeth, y gefnogaeth a’r cyngor cywir i ganiatáu iddynt ddechrau ffermio.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynd? Mae’n rhad ac am ddim i fynd i mewn; ond dim ond nifer benodol o leoedd sy’n cael eu cadw i bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig a byddwn yn rhoi’r lleoedd yma i’r bobl gyntaf i gysylltu ac ar sail anghenion. I gadw eich lle cliciwch yma neu i wneud ymholiad cyffredinol, cysylltwch â Del Evans ar 01970 600176 neu delyth.evans@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y