Mae fferm fynydd yng Nghymru wedi sicrhau dyfodol cynaliadwy trwy blannu 120 erw o goetir fel rhan o gynllun Creu Coetir. Bydd hyn yn sicrhau incwm tymor hir i’r busnes ac yn gwneud defnydd gwell o dir ymylol.

Mae’r teulu Lydiate yn ffermio defaid ar fferm 500 erw Tynyberth sydd hefyd yn Safle Arddangos i Cyswllt Ffermio yn Abaty Cwm-hir, ger Llandrindod.

jack lydiate with newly planted trees portrait
Pan ddychwelodd Jack i ffermio yn 2016 mewn partneriaeth gyda’i rieni, John a Lynne, edrychodd ar opsiynau i sicrhau bod y busnes mewn sefyllfa gryfach wrth edrych i’r dyfodol.

Ar y man uchaf, mae’r ddaear yn codi i 1,750 troedfedd ond doedden nhw ddim yn gwneud y mwyaf o’r tir ymylol trwy gynhyrchu da byw.

Roedd coedwigaeth yn ddewis da ar gyfer y tir hwn felly, gyda chyngor oddi wrth Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth gyda Chyswllt Ffermio, gwnaeth Jack gais i fod yn rhan o gynllun Creu Coetir Glastir. Mae hwn yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi cefnogaeth ariannol ar gyfer plannu o’r newydd.

Yn 2017, cafodd 120 erw o goed pren meddal a chaled eu plannu a bydd 30 erw arall yn cael eu plannu yn 2018.

Mae’r cytundeb yn sicrhau taliad blynyddol am 12 mlynedd i’r teulu Lydiate. Bydd y teneuo cyntaf yn digwydd 15 mlynedd ar ôl plannu, ac ar ôl 30 mlynedd bydd y teulu yn medru torri’r goedwig aeddfed a gwerthu’r coed.

Dywedodd Jack fod arallgyfeirio yn sicrhau dyfodol ei blant ef a’i wraig Katherine sef Milly, Trystan ac Erin.

“Mae’n rhoi man cychwyn i mi pan fydd angen torri’r coed ac yn rhoi sicrwydd i ddyfodol y plant,” dywedodd.

Hefyd, gwnaeth Geraint sicrhau bod Jack yn ymwybodol o’r Cod Carbon Coetiroedd. “Mae’r carbon sydd wedi cael ei neilltuo yn cael ei gyfrif mewn tunelli carbon. Unwaith y bydd wedi cael ei ddilysu mae’n gallu cael ei werthu i gwmnïau sy’n ceisio’i osod yn erbyn ei ôl troed carbon,” eglurodd Geraint.

Mae safle Tynyberth yn rhagweld y bydd yn neilltuo mwy na 8,000 tunnell garbon dros gyfnod y cytundeb.

“Heb Cyswllt Ffermio fyddwn ni ddim yn ymwybodol o’r cynllun. Mae’n rhoi ffynhonnell incwm bwysig arall i’r busnes,” meddai Jack.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y