Gan Rhiannon James, Newyddiadurwr Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio 

Mae isadeiledd porfa fferm laeth yn Sir Benfro yn cael ei ymestyn a’i ddiweddaru i wella’r defnydd a wneir o laswellt a chynhyrchu mwy o laeth o borthiant.

Ar fferm Moor Farm, Walwyn’s Castle, Hwlffordd, mae un o Ffermwyr Arddangos Cyswllt Ffermio, Andrew Rees, yn creu system llwybrau gwartheg integredig ar draws ei fferm 370 erw. Yn ogystal ag adolygu’r system bresennol, mae llwybrau newydd yn cael eu sefydlu er mwyn gwella mynediad at floc pori 37 erw ac mae’r system dŵr yn cael ei uwchraddio. Mae Andrew, sy’n ffermio ochr yn ochr â’i rieni, Colin a Jean, yn gobeithio cynyddu’r cyfnod pori ar gyfer buches 240 o wartheg Friesian Prydeinig sy’n lloea yn y gwanwyn, gan leihau cloffni ar yr un pryd.

Dywedodd Andrew “Rydym yn gobeithio gwneud mwy o’r tir sydd o fewn cyrraedd i’r gwartheg drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig bloc 37 erw sy’n anodd i’w gyrraedd mewn tywydd gwlyb. Dylai llwybrau newydd roi opsiwn i ni gymryd llwybr mwy uniongyrchol gan groesi’r ffordd yn llai aml, a gall y gwartheg bori’r glaswellt am gyfnod hirach yn ystod y dydd.”

Mae’r fferm wedi cael ei fapio gan ddefnyddio technoleg GPS gan gwmni sy’n arbenigo mewn cynllunio isadeiledd fferm, ac mae cynllun dechreuol ar gyfer y llwybrau gwartheg newydd wedi’i lunio. Mae’r mapio GPS yn sicrhau bod y padogau pori yn gyfartal o ran maint, a bydd hynny’n cael ei gefnogi gan gyfrifo dyluniad terfynol a lleoliad y llwybrau yn ofalus, gan ei gwneud yn haws cyllidebu glaswellt ar gyfer y fuches.

“Bydd sicrhau mesuriadau cywir o bob cae yn ein cynorthwyo i ddyrannu glaswellt yn fwy effeithiol er mwyn gwella ein defnydd ohono,” ychwanegodd Andrew.

Bydd y llwybrau’n cynnwys nifer o bwyntiau mynediad i’r padogau er mwyn lleihau niwed i’r gwndwn a’r pridd wrth i’r gwartheg symud i mewn ac allan o’r padogau. Bydd gwell mynediad yn cynyddu’r tymor pori i leihau’r cyfnod pan fo’r gwartheg yn cael eu cadw dan do, gan arbed arian ar fewnbynau’r gaeaf, megis dwysfwyd, gwellt a llafur.

“Mae’r fuches wedi bod yn tyfu, a gan mai dim ond pan fo’r amodau’n caniatau yr ydym yn gallu pori’r tir, bydd bloc ychwanegol o dir pori’n golygu na fydd  angen gor-stocio’r padogau eraill bellach, felly gall mwy o’r gwartheg aros allan am gyfnod hirach,” meddai Andrew. “Mae pob dydd sy’n cael ei arbed o ran cadw gwartheg a’u bwydo dan do yn arbediad sylweddol ar gyfer y busnes.”

Bydd dyluniad y llwybrau, gan gynnwys deunyddiau, draeniad a siâp hefyd yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn lleihau cloffni yn y fuches. Bydd y cyfleusterau newydd hefyd yn cynnwys defnyddio giatiau sy’n rhyddhau yn awtomatig, sy’n galluogi ffermwyr i agor giatiau o bell gan ddefnyddio apiau ffôn symudol neu amserydd i agor giatiau’n awtomatig, er mwyn i’r gwartheg allu dychwelyd i’r parlwr eu hunain, gan arbed llafur.

Mae glaswellt yn cael ei fesur yn wythnosol ar fferm Moor Farm, ac unwaith bydd yr isadeiliedd newydd mewn lle, bydd y data hwn yn  cael ei ddadansoddi er mwyn asesu unrhyw welliannau o ran cynnyrch glaswellt a’r defnydd ohono ynghyd â nifer y dyddiad pori a gyflawnir.

Cynhelir ddiwrnod agored Cyswllt Ffermio ar fferm Moor Farm ddydd Iau 9fed Mehefin, am 11.00yb, yn edrych ar yr arfer gorau mewn isadeiliedd fferm. Bydd y cynllun dechreuol ar gyfer y llwybrau gwartheg newydd yn cael ei gyflwyno a’i drafod er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o laswellt.

I fynegi eich diddordeb mewn mynychu'r diwrnod agored​, neu am fwy o fanylion, cysylltwch â Jamie McCoy, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio ar Jamie.mccoy@menterabusnes.co.uk neu 07985 379819.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o