20 Fedi 2023

 

Mae cyfleoedd newydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru sydd am wella eu sgiliau technegol a’u gwybodaeth fusnes gyda 21 cwrs newydd bellach wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio.

Gall busnesau ac unigolion sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio wneud cais am 80% o gyllid oddi ar gost ystod eang o gyrsiau, o ddysgu sut sicrhau potensial gorau glaswelltir ar gyfer cynhyrchu bwyd a gwasanaethau ecosystem i sgôr cyflwr corff da byw.

Mae’r rhaglen hyfforddiant yn cynnwys ystod o sgiliau a nodau i helpu ffermwyr a garddwyr redeg busnesau gwydn a chynaliadwy.

Ymhlith y 21 cwrs sydd wedi’u hychwanegu at bortffolio hyfforddiant presennol yw modiwl ar faeth da byw, sy’n cynnwys popeth o werthuso bwyd i rôl fitaminau a mwynau a chymhwyso’r wybodaeth hon i baratoi dognau. Mae’r modiwl hwn ar CQFW Lefel 7.

Ar gyfer ffermwyr sydd am wella eu sgiliau tir glas, bydd rhaglen systemau tir glas yn edrych ar strategaethau ar gyfer pori a chynnal porthiant, a’r gwasanaethau ecosystem a gofynion rheoli ystod o systemau glaswelltir.

Bydd cwrs wyneb i wyneb un diwrnod ar sgôr cyflwr corff yn dysgu’r rhai sy’n cymryd rhan sut a phryd i sgorio buchod yn effeithiol, a bydd tystysgrif yn cael ei ddyfarnu i’r rhai sy’n cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus.

Gyda dolydd blodau gwyllt yn cael eu hintegreiddio i lawer o systemau ffermio erbyn hyn, mae opsiwn o gwrs un neu ddau ddiwrnod ar y safle i helpu’r rhai sy’n cymryd rhan ddatblygu dealltwriaeth o ecoleg sylfaenol y rhain a sut i sicrhau’r defnydd gorau o’r amrywiaeth hanfodol yn y systemau naturiol hyn.

Yn y cyfamser, mae lledaeniad helaeth nifer o rywogaethau goresgynnol planhigion wedi ysgogi cwrs ar ddulliau rheoli priodol ar gyfer planhigion gan gynnwys y planhigyn clymog cawraidd a chanclwm Japan.

Mae cyrsiau cymeradwy eraill yn cynnwys: ILM Lefel 2 mewn sgiliau Arwain a sgiliau Tîm; Strategaeth Farchnata Ddigidol; Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Lefel 2 PA3; IOSH gweithio’n ddiogel; Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu; a llawer mwy.

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i holl ddysgwyr Cyswllt Ffermio gwblhau cyrsiau e-ddysgu gorfodol a ariennir yn llawn cyn gwneud cais am fwy na hanner cyrsiau hyfforddiant achrededig cymorthdaledig y rhaglen.

“Bydd dysgu’r pethau sylfaenol trwy e-ddysgu perthnasol yn rhagofyniad hanfodol cyn y gall unrhyw unigolyn cofrestredig wneud cais am hyfforddiant achrededig dethol,” meddai Becky Summons sy’n rheoli gwasanaeth iechyd a lles anifeiliaid ac e-ddysgu Cyswllt Ffermio.

Ymhlith y pynciau lle bydd hyn yn berthnasol mae iechyd a diogelwch, busnes, diogelwch plaladdwyr, cloffni mewn gwartheg a ffrwythlondeb y fuches.

“Bydd ymgymryd â modiwl e-ddysgu byr, ond perthnasol, cyn iddynt ymgymryd â hyfforddiant ymarferol wyneb yn wyneb yn rhoi hyder a chychwyn buddiol i ddysgwyr, fel bod ganddynt y wybodaeth sylfaenol berthnasol a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ymlaen llaw,” meddai Ms Summons. 

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint