08 Hydref 2025

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn helpu ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru gyda thri phrif amcan: cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, gwella cynhyrchiant, ac addasu’n llwyddiannus i’r newid yn yr hinsawdd. Er mwyn cynorthwyo’r gymuned amaethyddol gyda’r trawsnewidiad, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim neu wedi’u hariannu, gan gynnwys cyngor un i un, gwasanaethau Mentora penodol, ac adnoddau e-ddysgu, sgiliau a hyfforddiant. Gall ffermwyr elwa o waith ymchwil ymarferol gwerthfawr sydd ar gael drwy’r Rhwydwaith Ein Ffermydd, a chael gwybodaeth fusnes hanfodol gan ddefnyddio’r adnodd newydd DataFferm+.

Dyma drosolwg o’r hyn y mae Cyswllt Ffermio yn ei gynnig i’ch cynorthwyo chi a’ch busnes:

Sgiliau, hyfforddiant, e-ddysgu a’r cyfrif Storfa Sgiliau

 

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig cymorth ar ffurf cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant penodol mewn tri phrif faes, gyda chyllid hyd at 80% ar gael:

  • Cyrsiau busnes: Canolbwyntio ar gynllunio busnes, datblygu ac arallgyfeirio.

  • Cyrsiau tir: Trafod sgiliau ymarferol, er enghraifft: rheoli glaswelltir, gwyddoniaeth y pridd, adeiladu waliau cerrig, a rheoli coetiroedd.

  • Cyrsiau da byw: Cynnig hyfforddiant ar iechyd anifeiliaid, gan gynnwys trimio traed, sgorio symudedd, a defnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn ddiogel.

 

Ar gyfer busnesau fferm sy'n hawlio Cynllun Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026, bydd cwblhau unrhyw un o'r modiwlau e-ddysgu o dymor yr haf 2025 yn cyfrif tuag at  y flwyddyn 2026 (ond ar gyfer y flwyddyn honno yn unig). Gall busnesau ddewis pa rai i'w cwblhau. Bydd cwblhau'r modiwlau Iechyd a Lles Anifeiliaid, os cânt eu cwblhau gan yr unigolyn cywir, hefyd yn cyfrif tuag at elfen DPP o Weithred Gyffredinol 4 a 12 (Iechyd a Lles Anifeiliaid). Ni fydd unrhyw weithgaredd arall a ddarparwyd gan Cyswllt Ffermio a gwblhawyd yn 2025 (neu cyn hynny) yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (na gweithred gyffredinol 12**).

Bydd y canlynol yn gymwys ar gyfer elfen DPP o Weithred Gyffredinol 12 (Iechyd a Lles Anifeiliaid) os cânt eu cwblhau gan yr unigolyn priodol. Mae'r cyfnod cwblhau 5 mlynedd yn golygu y bydd y cyrsiau hyn, os cânt eu cwblhau o fis Ionawr 2022 ymlaen, yn cyfrif ar gyfer hawlwyr 2026.

• Mae 5 modiwl e-ddysgu perthnasol ar gael ar BOSS

• Gweithdy Iechyd a Lles Anifeiliaid ar Gloffni mewn Defaid (Wedi'i gyflwyno gan filfeddyg ac wedi'i achredu gan LANTRA)

• Gweithdy Iechyd a Lles Anifeiliaid ar leihau Cloffni mewn Gwartheg Llaeth (Wedi'i gyflwyno gan filfeddyg, a’i achredu gan LANTRA)

• Cwrs Hyfforddiant Achrededig - Meistr ar Gloffni Cymru

• Cwrs Hyfforddiant Achrededig - Trimio Carnau Canolradd

• Sylwer: Ar gyfer ffermydd gydag un rhywogaeth - Mae cwblhau un o'r uchod yn gymwys fel DPP ar gyfer Blwyddyn 1. Ar gyfer ffermydd amlrywogaeth: - Mae cwblhau dau (un yn ymwneud â defaid ac un yn ymwneud â gwartheg) yn gymwys.

 

Mae pob DPP a gwblheir drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei gofnodi’n awtomatig yn Storfa Sgiliau a bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn cael gwybod y dyddiad cwblhau, teitl y cwrs a hyd y cwrs. 

Ein Ffermydd

Mae Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnwys 288 o ffermydd sy’n cymryd rhan mewn 128 o arbrofion ar ffermydd. Nod y prosiectau hyn yw cau’r bwlch rhwng gwaith ymchwil a rheolaeth fferm i helpu gyda’r trosglwyddiad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd adroddiadau a data terfynol ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio dros y misoedd nesaf. Mae nifer o’r arbrofion ar ffermydd wedi dangos sut maen nhw wedi gallu bodlon gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac mae’r canlyniadau’n cefnogi hyn:

  • Mae arbrawf rheoli coetir wedi dangos bod fferm wedi ennill incwm ychwanegol o £2,791 trwy deneuo coetir.

  • Dangosodd astudiaeth amaeth goedwigaeth y gallai buches laeth gyda 450 o wartheg golli mwy na £22,000 mewn cynhyrchiant llaeth o ganlyniad i straen gwres heb fynediad i gysgod, o’i gymharu â cholled o £1,700 yn unig gyda mynediad i gysgod.

  • Mae prosiectau eraill yn helpu ffermwyr gydag iechyd y pridd, ffermio adfywiol, a defnyddio gwndwn llysieuol fel cynefinoedd dros dro i fodloni gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

 

Mae ‘Yn fyw o Ein Ffermydd’ yn gyfres o weminarau pum rhan gan ddechrau ar 5 Tachwedd, gyda sesiwn newydd bob nos Fercher am 7.30 p.m.:

  • 5/11/25 – Grymuso eich dyfodol gydag ynni adnewyddadwy – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 3

  • 12/11/25 - WHLP – A yw gwndwn amlrywogaeth mor amrywiol â ffermydd Cymru? – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 1, 6 a 12

  • 19/11/25 - Cynnal iechyd y pridd mewn cylchdro âr - beth mae’r Weithred Gyffredinol pridd o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei olygu i ffermwyr tir âr? - cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 1

  • 26/11/25 – Cnydau amgen ar gyfer ffermydd Cymru – Maglys Rhuddlas a Chodog – sut maen nhw wedi gweithio? – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 1, 2 a 12

  • 3/12/25 – Clefydau rhewfryn: sut i nodi a chyfrifo’r risg? – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 12

 

Ym mis Chwefror 2026, bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnal cyfres o Sioeau Teithiol Tir Âr. Bydd y digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar iechyd y pridd, cynefinoedd dros dro, a chylchdroi cnydau mewn modd gwydn. Nid yw dyddiadau a lleoliadau’r sioeau teithiol wedi’u cyhoeddi hyd yma.

DataFferm+

Er mwyn cynorthwyo ffermwyr ymhellach gyda’u data, bydd yr adnodd meincnodi DataFferm+ sydd ar gael am ddim yn lansio ym mis Ionawr 2026. Mae’r adnodd hwn yn helpu i fodloni Gweithred Gyffredinol 3 gan alluogi defnyddwyr i gwblhau’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol gofynnol, gyda dim ond teitlau’r Dangosyddion Perfformiad yn cael eu hanfon at Daliadau Gwledig Cymru i sicrhau bod data’r fferm yn aros yn breifat.

 

Mentora

Gall pob ffermwr a thyfwr cofrestredig gael mynediad at hyd at 15 awr o Fentora wedi’i ariannu’n llawn. Gyda mwy na 90 o fentoriaid ledled Cymru, mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig arweiniad diduedd wedi’i deilwra i helpu i wynebu’r newidiadau arfaethedig, gyda buddion enfawr gan gynnwys:

  • Arweiniad ymarferol: Gall mentoriaid eich cynorthwyo i drosi rheolau ysgrifenedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gamau gweithredu ymarferol sy’n gweddu i’ch fferm benodol.

  • Magu hyder: Mae’r sesiynau un i un yn cynnig lle cyfrinachol i ofyn cwestiynau, gan eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus ac osgoi camgymeriadau costus.

  • Cyngor wedi’i deilwra: Gallwch ddewis mentor gyda phrofiad yn eich math penodol o fferm a lleoliad er mwyn cael cyngor perthnasol ar ddewis y “Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol” gorau ar gyfer eich busnes.

  • Rhwydweithio: Mae’r rhaglen yn eich helpu i gysylltu gyda ffermwyr eraill, sy’n gallu arwain at syniadau newydd a phrosiectau cydweithredol posibl.

 

Garddwriaeth

Mae tîm Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth wedi’i ariannu’n llawn i helpu tyfwyr i groesawu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

 

Mae’r gefnogaeth gynhwysfawr hon yn cynnwys sesiynau Cymorth Busnes Garddwriaeth arbenigol – sydd ar gael ar ffurf ymgynghoriadau awr o hyd ar-lein neu ymweliadau safle 2 awr o hyd -  sy’n darparu cyngor ar feysydd hanfodol megis iechyd y pridd, rheolaeth dŵr a meincnodi. Gall tyfwyr hefyd rannu arferion gorau drwy Rwydweithiau Garddwriaeth arbenigol, megis Rhwydwaith Iechyd y Pridd a’r Rhwydwaith Organig a Thrawsnewid.

Mae digwyddiadau megis y weminar yn ymwneud â Chylchdroi Cnydau yn rhoi hyder i dyfwyr mewn technegau ar gyfer Gweithred Gyffredinol 1 (Iechyd y Pridd), ac mae modiwlau e-ddysgu newydd - megis ‘Cyflwyniad i Egwyddorion Rheoli Plâu Integredig mewn Garddwriaeth’ - yn eu paratoi ar gyfer Gweithred Gyffredinol 2 (Rheoli Plâu Integredig). Yn ogystal, mae adnoddau ymchwil a thaflenni gwybodaeth wedi’u diweddaru’n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, gan gyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (Datblygiad Proffesiynol Parhaus). Mae’r tîm yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn trafod pynciau a fydd yn gwella arferion rheoli tir ffermwyr a thyfwyr. Er enghraifft, mae ein gweminar arfaethedig ar Gylchdroi Cnydau yn rhoi hyder i dyfwyr ddefnyddio’r dechneg hon i wella rheolaeth maetholion a phriddoedd o fewn eu systemau, gan eu paratoi ar gyfer Gweithred Gyffredinol 1 Iechyd y Pridd.

Ar gyfer busnesau garddwriaethol, bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol a gwblhawyd o dymor yr haf 2025 yn cyfrif tuag at flwyddyn cynllun 2026 (ond ar gyfer y flwyddyn gynllun honno yn unig). Gall busnesau ddewis pa rai i'w cwblhau.

1. Egwyddorion Plâu a Chlefydau Planhigion

2. Diogelwch Bwyd i Dyfwyr Cynnyrch Ffres

3. Garddwriaeth: Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach

4. Garddwriaeth: Compostio ar y Safle ar gyfer eich menter arddwriaethol

5. Garddwriaeth: Sut i adnabod rhai o'r plâu, clefydau a chwyn mwyaf cyffredin mewn cnydau garddwriaethol

6. Cyflwyniad i egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Blâu mewn garddwriaeth

Mae’r tîm yn cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau a thaflenni gwybodaeth yn seiliedig ar y gwaith ymchwil diweddaraf i helpu tyfwyr i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth yn barhaus, gan eu paratoi i weithio tuag at Weithred Gyffredinol 4 (Datblygiad Proffesiynol Parhaus).  

Am ragor o wybodaeth neu am gymorth gydag e-ddysgu, cysylltwch â’r tîm: horticulture@lantra.co.uk.

Cymorthfeydd

Mae cymorthfeydd yn ffordd arall werthfawr o gael cyngor wedi’i deilwra gan ymgynghorwyr arbenigol. Mae’r sesiynau awr o hyd, a gynhelir dros y ffôn neu’n ddigidol, yn eich galluogi i drafod syniadau a materion busnes penodol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwch yn derbyn adroddiad yn crynhoi’r drafodaeth. Mae’r cymorthfeydd yn trafod ystod o bynciau sy’n berthnasol i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan gynnwys:

  • Perfformiad busnes

  • Cynllunio olyniaeth

  • Arallgyfeirio

  • Coetir

  • Rheoli glaswelltir

  • Cynefin a bioamrywiaeth

  • Mesur ôl troed carbon

  • Amaethyddiaeth adfywiol a bioamrywiaeth

  • Ffermio manwl gywir

Cliciwch yma i ymgeisio ar gyfer unrhyw un o’r cymorthfeydd!

Olyniaeth

Er nad yw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol yn cynnwys gofyniad penodol ynglŷn â chynllunio olyniaeth, mae’r cysyniad yn rhan o’i nodau ehangach o ran sicrhau cynaliadwyedd cefn gwlad yn yr hirdymor. Mae’r ystod lawn o wasanaethau Cyswllt Ffermio i helpu busnesau fferm gyda’u trefniadau olyniaeth yn cynnwys:

  • Cyfarfodydd teuluol wedi’u hwyluso

  • Cyngor ar gynllunio olyniaeth

  • Cyngor cyfreithiol

  • Y Rhaglen Dechrau Ffermio, sy’n helpu i baru newydd ddyfodiaid gyda ffermydd sydd eisoes wedi sefydlu i greu mentrau ar y cyd.

Sioeau Teithiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau’n trafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, lle bydd staff Cyswllt Ffermio ar gael i gefnogi mynychwyr. Am ragor o fanylion ac i gofrestru, cliciwch yma!   

 

Er mwyn manteisio ar y cymorth sydd ar gael i chi gan Cyswllt Ffermio wrth i chi baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn