Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal dau ddigwyddiad ar fferm yn amlygu amrediad o syniadau arallgyfeirio a allai eich cynorthwyo i gynyddu hyfywedd busnesau fferm a choedwigaeth.
O ystyried sefyllfa gyfnewidiol y diwydiant, mae arallgyfeirio yn cynnig ffrwd incwm arall, yn ogystal â ffordd o gynyddu proffidioldeb a chynaliadwyedd busnes presennol.
Bydd Jeremy Bowen-Rees o gwmni Landsker Business Solutions yn siarad yn ystod y digwyddiadau, a fydd yn hyrwyddo arfer dda wrth sefydlu prosiect arallgyfeirio llwyddiannus.
“Mae nifer o bobl yn rhuthro i mewn i arallgyfeirio heb ystyried popeth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud penderfyniad deallus ynglŷn â’r hyn fydd yn gweithio,” meddai Mr Bowen-Rees. “Weithiau mae pobl yn gwneud camgymeriadau enfawr sydd nid yn unig yn peryglu’r hyn y maent yn ei wneud er mwyn sefydlu’r prosiect arallgyfeirio, ond hefyd yn effeithio ar y busnes fferm greiddiol.
“Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i bobl gael ychydig o arweiniad i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad deallus, ac maent hefyd yn berthnasol i’rrheini sydd eisoes wedi arallgyfeirio er mwyn rhannu eu profiadau a’u harfer dda gydag eraill, gan ddysgu gan rai sydd wedi arallgyfeirio eu busnesau eu hunain yn llwyddiannus.”
Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael eu hannog i ddatblygu cynllun busnes strategol ac i ddefnyddio sgiliau a chryfderau presennol y bobl o fewn y busnes i ychwanegu at oes a gwerth y prosiect arallgyfeirio. Mae ymchwil i’r farchnad a threialu syniadau hefyd yn allweddol ar gyfer cychwyn busnes llwyddiannus.
Bydd siaradwyr eraill yn cadw cwmni i Jeremy Bowen-Rees, gan gynnwys Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, a gwesteiwyr y digwyddiadau, fydd yn trafod eu profiadau wrth arallgyfeirio eu busnesau. Ar fferm Maes Farm, Maengwynedd, Llanrhaeadr ym Mochnant, mae’r teulu wedi arallgyfeirio system trydan hydro, biomas a chabanau gwyliau pren, ac yng Ngwinllan Whitecastle, Llanvetherine, Y Fenni, mae Robb a Nicola Merchant wedi arallgyfeirio eu tyddyn a’i drawsnewid yn winllan o fri.
Cynhelir y digwyddiadau arallgyfeirio fel a ganlyn:
- 27/06/2016 - 6yh to 9yh - Maengwynedd Log Cabins, Fferm Maes Farm, Maengwynedd, Llanrhaeadr Ym Mochnant, Croesoswallt, SY10 0DE
- 29/06/2016 - 6yh to 9yh - Gwinllan Whitecastle, Croft Farm, Llanvetherine, Y Fenni, NP7 8RA
Am ragor o wybodaeth ac i ddatgan eich diddordeb cysylltwch â Catrin Elen Morgan ar 01248 668640 neu drwy yrru ebost i catrin.morgan@menterabusnes.