1 Medi 2025
Mae ffermwyr a thyfwyr sy’n treialu gwahanol dechnegau ffermio ac agweddau arloesol fel rhan o rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiadau ym mis Medi, lle gall ffermwyr eraill ddysgu am ganfyddiadau prosiectau’n amrywio o driniaethau dethol wedi’u targedu ar gyfer defaid i ryng-gnydio india corn.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Ymweld ag Ein Ffermydd’ ym mis Medi ar ei rwydwaith o ffermydd bîff, defaid a llaeth ac mewn busnesau sy’n cynhyrchu llysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer y sector garddwriaeth.
Y llynedd, cynhaliwyd 15 o’r digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth hyn, ond roedden nhw mor boblogaidd ymysg y diwydiant, penderfynwyd cynyddu’r nifer i 22 ar gyfer 2025.
Mae pob taith yn cynnig cyfle i ffermwyr a thyfwyr eraill gael cipolwg gwerthfawr ar y treialon a’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau neu sydd ar waith.
Ym Mhowys, bydd ffermwyr yn gweld drostynt eu hunain y mesurau y mae Roger a Dyddanwy Pugh wedi’u rhoi ar waith i sicrhau effeithlonrwydd porthiant ac enillion pwysau byw dyddiol er mwyn gwella eu busnes at y dyfodol.
Gyda’i gilydd, mae Roger a Dyddanwy yn cadw buches o 60 o wartheg sugno Limousin ac Aberdeen Angus croes sy’n lloia yn y gwanwyn ynghyd â diadell o 300 o famogiaid Texel croes.
Bydd pynciau trafod yn cynnwys cyfrifo costau gwirioneddol clefydau rhewfryn mewn defaid a mapio risg llyngyr yr iau ar eich fferm – ynghyd ag effaith cynhyrchion biolegol ar ansawdd a chynnyrch y borfa.
Dywed Roger fod iechyd y pridd yn bwysig i bob busnes fferm, felly mae’n bwysig dysgu mwy am y cynhyrchion a allai fod o fudd o ran gwella ansawdd y borfa, lleihau straen gwrthfiotig, a gofalu am gynnyrch cnydau gan hefyd leihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol.
“Mae cymaint o gynhyrchion ar gael ar y farchnad ac mae llawer o drafod am eu rhinweddau, felly rydym ni’n awyddus iawn i wybod a ydyn nhw’n gweithio mewn gwirionedd,” meddai.
“Maen nhw’n gallu bod yn gostus iawn ond os oes modd iddynt wella ein priddoedd a chynhyrchiant ein tir, mae’n bosibl y gallant arbed arian i ni yn yr hirdymor.’’
Yn ystod y digwyddiad, cawn hefyd gyfle i glywed mwy am brosiect gwndwn llysieuol Cymru a chanlyniadau o’r treialon hyd yn hyn.’
Bydd siaradwyr yn cynnwys Dr Rhys Aled Jones o Brifysgol Aberystwyth, Dr Peers Davies o Brifysgol Lerpwl, Dr Non Williams, Cyswllt Ffermio, a Hugo Ellis o gwmni Terrafarmer.
Bydd technolegau’n ymwneud â’r gwaith prosiect ar fferm Crickie yn cael eu harddangos ar wahanol stondinau yn ystod y digwyddiad.
Gellir gweld gwerth y digwyddiad hwn ac eraill yn y gyfres o deithiau fferm yn ôl faint o bobl a fynychodd y rhaglen y llynedd, gyda 99% o fynychwyr yn nodi eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd, a 93% yn nodi eu bod yn bwriadu gwneud newidiadau o fewn eu busnesau yn dilyn y digwyddiadau.
Dywed Lynwen Mathias, swyddog sector Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio gwaith y prosiect ar fferm Crickie, y bydd y digwyddiad hwn ac eraill yn cynnig cyfle gwych i ffermwyr weld amrywiaeth o brosiectau ar waith ar ffermydd masnachol.
“Os mae ffermwr yn ystyried gweithredu arferion tebyg, mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i weld y prosiect drostynt eu hunain,” meddai.
“Neu efallai, drwy ddod i ddigwyddiad o’r fath, gallai ffermwyr ddysgu mwy am syniadau nad oeddent wedi’u hystyried o’r blaen ond sy’n cynnig cyfle i ddatblygu gwytnwch eu busnesau eu hunain.’’
Cynhelir y digwyddiad ar fferm Crickie ar 15 Medi rhwng 4pm - 7pm. Darperir lluniaeth felly cynghorir ymwelwyr i neilltuo lle ymlaen llaw.
Am restr lawn o’r teithiau fferm ym Mhowys a ledled y wlad, cliciwch yma.