Bydd dyfeisiadau arloesol newydd, sydd wedi’u llunio i helpu ffermwyr sicrhau’r elw gorau o bob hectar, yn gyffredin cyn hir ar ffermydd yng Nghymru, felly, mae cyflwyno’r genhedlaeth newydd i’r technolegau hyn yn bwysig ar gyfer cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Felly mae rôl newydd wedi’i chreu yn Sioe Frenhinol Cymru eleni i hyrwyddo’r technolegau hyn i ffermwyr y dyfodol.

Magwyd Marie Powell, 19 oed, ar fferm bîff a defaid ucheldir ger Crucywel, ac mae wedi cael ei phenodi’n Stiward Arloesedd yn arddangosfa Lab Amaeth Cyswllt Ffermio a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Bydd yr arddangosfa Lab Amaeth yn arddangos llu o dechnolegau arloesol a fydd yn newid gwedd ffermio yn y 5-10 mlynedd nesaf. 

Bydd rôl Marie yn canolbwyntio ar hyrwyddo arloesedd a dulliau a fydd yn siapio dyfodol ffermio Cymreig.

Bydd Marie yn cysgodi’r beirniaid a fydd yn dewis enillwyr y wobr am dechnoleg arloesol orau, bydd hefyd yn hyrwyddo’r cynhyrchion mwyaf arloesol yn y Sioe drwy blatfform cyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio.

Mae penodiad Marie’n dilyn galwad agored i Fforwm Aelodau Ifanc Sioe Frenhinol Cymru.

“Mae gen i ddiddordeb mawr yn y datblygiadau diweddaraf mewn amaethyddiaeth ac roeddwn yn awyddus i gymryd rhan,” meddai.

Bu Marie yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin ac mae bellach yn astudio Amaethyddiaeth a Rheolaeth Busnes Fferm ym Mhrifysgol Harper Adams. Mae ar hyn o bryd yn ei thrydedd flwyddyn, yn treulio cyfnod yn y diwydiant, ac mae wedi sicrhau lleoliad profiad gwaith gyda chwmni Advanced Ruminant Nutrition yn Swydd Gaerhirfryn.

“Rydyn ni’n hynod falch fod Marie wedi ymuno â’n tîm ffyddlon o stiwardiaid a bydd ei hegni a’i brwdfrydedd yn ychwanegu gwerth at yr arddangosfa” meddai Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. “Drwy benodi Stiward Arloesedd, mae’r Gymdeithas yn awyddus i wneud datganiad mentrus a phositif ynglŷn â dyfodol ffermio. Bydd angen i ffermwyr modern groesawu technoleg er mwyn wynebu’r heriau sydd o’u blaen ac mae gan y sioe rôl i hwyluso derbyniad yr arferion newydd hynny.”

Nid yw Sioe Frenhinol Cymru yn ddieithr i Marie gan iddi dderbyn ysgoloriaeth deithio Gwili Jones a gyflwynwyd iddi ar faes y sioe. Fe aeth y wobr â hi i Iwerddon lle treuliodd wyth wythnos yn gweithio mewn gwahanol systemau ffermio; cafodd ei phrofiad mwyaf arwyddocaol wrth gysgodi gweithwyr mewn sawl sefydliad ymchwil Teagasc.

Drwy’r lleoliad hwnnw cafodd ei chyflwyno i ddatblygiadau a dulliau newydd mewn amaethyddiaeth ac mae’n edrych ymlaen at adeiladu ar y wybodaeth honno yn Sioe Frenhinol Cymru.

“Mae’n wirioneddol gyffrous fod yna gymaint o bosibiliadau i’r diwydiant ffermio yng Nghymru ddatblygu a bydd nifer o’r syniadau hynny’n derbyn sylw yn arddangosfa’r Lab Amaeth,” meddai Marie.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gynorthwyo â stiwardio’r arddangosfa hon a helpu ffermwyr i ddatblygu eu gwybodaeth ynglŷn ag arloesedd yn y diwydiant.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o