18 Chwefror 2019

 

susie morgan farming connects new development officer for south pembrokeshire 0
Susie Morgan yw swyddog datblygu newydd Cyswllt Ffermio ar gyfer rhanbarth De Sir Benfro, wedi iddi gymryd yr awenau gan Rebecca Summons. Mae Rebecca wedi symud i swydd newydd o fewn rhaglen Cyswllt Ffermio yn gweithio ar y fenter hyfforddi iechyd a lles anifeiliaid a gyhoeddwyd yn ddiweddar.  

Mae Susie a’i phartner bellach yn ffermio daliad bîff a defaid yn Jeffreyston ger Cilgeti, lle cafodd ei geni a’i magu.  

Mae’r cwpwl yn cadw oddeutu 100 o wartheg bîff i’w pesgi, gan gynnwys nifer ar y cynllun Aberdeen Angus, ac am y tro cyntaf eleni, mae ganddyn nhw fuches fechan o wartheg sugno y maen nhw’n gobeithio ei ehangu. Maen nhw hefyd wedi sefydlu diadell fechan o ddefaid Llanwenog, ac mae eu plant, Iwan (6) a Mari (4) wedi mwynhau eu dangos mewn sioeau lleol dros yr haf.  

Wedi iddi adael yr ysgol, cwblhaodd Susie ddiploma cenedlaethol mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr ar gampws Gelli Aur. Yn fuan wedi hynny, ymunodd ag Undeb Amaethwyr Cymru, lle bu’n gweithio am 13 mlynedd fel swyddog rhanbarthol ar gyfer De Sir Benfro. 

Bu Susie yn ysgrifenyddes rhan amser ar gyfer sioe amaethyddol Martletwy am wyth mlynedd, ac mae’n dal i gymryd rhan gyda’r CFfI lleol fel aelod o’r pwyllgor cynghori.

Mae Susie yn gobeithio y bydd ei phrofiad ymarferol o ffermio, ynghyd â’i hagwedd penderfynol tuag at ddatblygu busnes teuluol proffidiol a chynaliadwy, yn ei gwneud yn llysgennad brwd o ran hybu gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio. 

“Ar ôl dechrau’r swydd newydd hon yn ystod cyfnod ansicr iawn i’n diwydiant, byddaf yn awyddus iawn i gyfeirio ffermwyr at y nifer o wasanaethau a phrosiectau sydd ar gael.” 

Mae Susie yn gefnogwr brwd o feincnodi, ac mae hi a’i phartner yn benderfynol o ganolbwyntio ar feincnodi elfen besgi eu stoc.

“Mae’n hanfodol i ffermwyr wybod tuag at beth maen nhw’n anelu, felly byddaf yn annog busnesau i fanteisio ar gefnogaeth Cyswllt Ffermio ar gyfer meincnodi, i’w cynorthwyo i gymharu eu ffeithiau a’u ffigyrau gyda busnesau bychain eraill o fewn yr un sector er mwyn canfod meysydd i’w gwella,” meddai Susie. 

Mae De Sir Benfro yn ardal llawn amrywiaeth, gyda chyfuniad da o ffermio llaeth, bîff a defaid, ond mae’r lleoliad arfordirol a’r hinsawdd hefyd yn denu nifer o fentrau twristiaeth a garddwriaeth.  

“Mae gan Cyswllt Ffermio rywbeth i’w gynnig i bob sector o ffermio ac amaethyddiaeth, gan gynnwys digwyddiadau ar arallgyfeirio a chynllunio technegol, yn ogystal â phrosiectau arbenigol sy’n gallu helpu ffermwyr i wella ar eu datblygiad personol a busnes.

“Byddaf yn annog busnesau i ganfod beth sydd ar gael ar eu cyfer er mwyn eu cynorthwyo i fod yn fwy proffidiol, a fydd yn arwain y diwydiant yng Nghymru yn ei flaen yn y pen draw.”

Gyda’r cyfnod ymgeisio presennol ar gyfer sgiliau Cyswllt Ffermio bellach ar agor tan 1 Mawrth, mae Susie yn annog unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio am gyllid hyd at 80% ar gyfer gwella eu busnes neu hyfforddiant ymarferol i gysylltu â hi. Mae hi hefyd yn awyddus i hybu’r gweithdai iechyd anifeiliaid a’r hyfforddiant TGCh wedi’i ariannu’n llawn. 

Mae Susie yn ymweld â marchnad da byw Hwlffordd yn rheolaidd, ac mae hefyd yn rheoli pum grŵp trafod ar bynciau penodol ar gyfer ffermwr defaid a llaeth, a’r rhai sy’n canolbwyntio ar stoc ifanc.

Er mwyn cysylltu â Susie a chanfod mwy ynglŷn â sut all Cyswllt Ffermio fod o fudd i chi a’ch busnes, cliciwch yma neu ffoniwch Susie ar 07867 908193.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y