Mae pecyn sgiliau rhyngweithiol newydd Cyswllt Ffermio, ‘Buddsoddi mewn Sgiliau a Mentora’ yn canolbwyntio’n gryf ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ac e-ddysgu yn ogystal â chynnig cyrsiau hyfforddiant achrededig mewn amrywiaeth eang o bynciau a sgiliau ymarferol.  Bydd tri chyfnod ymgeisio ar lein ar gael ar gyfer y cyrsiau hyfforddiant cymorthdaledig newydd, gyda’r cyntaf yn dechrau ar y 4ydd o Ionawr hyd y 29ain o Ionawr 2016. 

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, sy'n darparu'r pecyn ar ran Cyswllt Ffermio, bod buddsoddi mewn sgiliau'n hollbwysig ac roedd yn obeithiol y byddai ffermwyr a choedwigwyr yn croesawu'r amrywiaeth eang o wasanaethau a chefnogaeth ar lein sydd ar gael drwy'r rhaglen newydd.

“Mae’r elfen newydd hon o raglen Cyswllt Ffermio yn rhoi cyfle gwych ar gyfer datblygiad personol a busnes i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant.  Mae datblygiad proffesiynol parhaus ac uwch-sgilio yn rhan hanfodol o’r broses o foderneiddio a phroffesiynoli'r diwydiant yng Nghymru.”

Bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i gynnig hyfforddiant a’r gwasanaeth cynghori gyda chymhorthdal hyd at 80% i unigolion cymwys sydd wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen newydd.   Mae’r cyrsiau hyfforddiant achrededig yn amrywio o hyfforddiant rheolaeth ac arweiniad busnes i gyfrifoldebau a thasgau ar y fferm gan gynnwys ymdrin â pheiriannau, Iechyd a Diogelwch ac iechyd anifeiliaid.  Mae rhestr o’r cyrsiau hyfforddiant a’r darparwyr sydd wedi eu cymeradwyo ar gael ar y wefan.

Bydd angen i bawb a gofrestrodd gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio blaenorol ail-gofrestru un ai ar lein neu drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

“Cyn ymgeisio am hyfforddiant drwy’r broses ar-lein newydd, bydd angen i bob ffermwr sydd wedi cofrestru gwblhau cynllun datblygu personol ar lein (PDP).  Bydd hyn yn eu cynorthwyo i gynllunio amcanion tymor hir a nodau tymor byr; datblygu sgiliau allweddol neu gymwyseddau yn ogystal â chofnodi cymwysterau wrth iddynt gychwyn ar ‘daith’ o ddatblygiad personol i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth," ychwanegodd Mr Thomas.

Bydd angen i unrhyw un sy’n ymgeisio am hyfforddiant sy’n ymwneud â defnydd o beiriannau a/neu offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio ar lein gyntaf.

Cyn dechrau Cynllun Datblygu Personol, bydd angen i bob unigolyn fod wedi cofrestru, ac wedyn bydd enw defnyddiwr a chyfrinair unigol yn cael eu creu ar eu rhan gan Cyswllt Ffermio.  Bydd rhaid i chi dderbyn ebost gan Cyswllt Ffermio yn cadarnhau bod eich cais am gymorth ariannol wedi bod yn llwyddiannus cyn dechrau’r hyfforddiant.

“Mae adnoddau ar lein newydd Cyswllt Ffermio, sydd wedi eu hariannu'n llawn, yn cynnwys hyfforddiant e-ddysgu ar amrywiaeth eang o bynciau yn amrywio o adnabod coed i Iechyd a Diogelwch.  Maent yn rhoi cyfle i unigolion sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i ddatblygu eu sgiliau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw, heb orfod gadael eu cartref neu eu gweithle.”

Bydd fframwaith CPD yn galluogi pawb sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i ennill pwyntiau CPD, nid yn unig ar gyfer hyfforddiant Cyswllt Ffermio, ond hefyd am fynychu digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth ac unrhyw brosiectau neu weithgareddau Cyswllt Ffermio eraill sy’n cynnwys cyfleoedd CPD. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y