Wrth i fusnesau fferm a choedwigaeth drwy’r Deyrnas Unedig baratoi i wynebu heriau a chyfleoedd masnachu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, bydd Cyswllt Ffermio’n arddangos rhai o dechnolegau mwyaf newydd a llwyddiannus y diwydiant yn y Sioe Frenhinol eleni (Gorffennaf 24 – 27). Y nod yw helpu ffermwyr i gystadlu yn y farchnad fyd-eang newydd.

Bydd arloesedd a thechnoleg yn thema allweddol yn stondin arferol Cyswllt Ffermio yn Adeilad Lantra (Rhodfa K), ac ar falconi’r llawr cyntaf yn y pinnau defaid (Stondin Rhif M652) lle bydd arddangosfa’r Lab Amaeth eleni menter gydweithredol rhwng Cyswllt Ffermio a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.  

“Mae’r Sioe yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru weld drostynt eu hunain beth yw canlyniadau a deilliannau’r prosiectau sy’n cael eu treialu ar hyn o bryd ar safleoedd rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd arddangosfa’r Lab Amaeth yn dwyn ynghyd wahanol gwmnïau ac unigolion sydd yn arloesi ac yn defnyddio technoleg yn y diwydiant. Bydd modd i chi fanteisio ar yr hyn sydd i’w gynnig gan y Lab: ewch ati’n fuan i drefnu eich cymhorthfa fusnes un i un (24 Gorffennaf), neu glinig Ffermio Manwl Gywir (Precision Farming) (25 a 26 Gorffennaf yn unig). Bydd Ian Beecher Jones, arbenigwr annibynnol mewn technoleg fanwl gywir, ar gael ar gyfer sesiynau 30 munud wedi’u trefnu ymlaen llaw i helpu i ddiffinio gofynion penodol ar gyfer buddsoddi a gwneud y mwyaf o dractorau a pheiriannau, agronomeg wedi’i thargedu a rheoli data. Cewch gyfle hefyd i gyfarfod Jonathan Gill, peiriannydd sydd wedi cymhwyso ym maes roboteg, i ddarganfod sut y gallai dronau yn yr awyr ac agronomeg, sydd ar hyn o bryd yn rhan o brosiect ymchwil mawr yng Nghanolfan Genedlaethol Ffermio Manwl Gywir Prifysgol Harper Adams, fod o fudd i’ch busnes. 

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn canolbwyntio ar dechnoleg yn adeilad Lantra, lle gall ymwelwyr wisgo sbectol ‘rhithwir’ i gael golwg 360 gradd o bersbectif y telehandler.

“Eleni ein bwriad yw ysbrydoli ffermwyr i weld drostynt eu hunain sut gall technoleg ac arloesedd helpu i ddatblygu busnes. Mae peth o’r dechnoleg sy’n cael ei harddangos, fel y mesurydd plât ar gyfer y borfa, eisoes yn cael ei ddefnyddio’n eang, ond trwy gyflwyno technoleg cwmwl a meddalwedd ar-lein, mae'n bosibl defnyddio’r data mewn ffordd fwy arloesol a chywir i hybu effeithlonrwydd,” meddai Mrs. Williams.

Ymysg yr eitemau eraill yn yr adran dechnoleg fydd synwyryddion gwres ar gyfer siediau dofednod; offer samplu porfa NIRS; offer profi genomig ar gyfer buchod godro a choleri canfod gwres ar gyfer buchod magu.

“Gobeithio bod gennym rywbeth i apelio at ein holl ymwelwyr, yn cynnwys aelodau iau’r teulu. Byddan nhw’n gallu cymryd rhan mewn cystadleuaeth Iechyd a Diogelwch ar y fferm a mynd ar eu tractor bach eu hunain.”   

  

‘Cyfarfod mentor’ – hyd at 22.5 o oriau o gymorth ac arweiniad wedi’i ariannu’n llawn …

Galwch heibio i adeilad Lantra ar unrhyw ddiwrnod o’r sioe rhwng 11am a 12 i gyfarfod un o ‘fentoriaid’ cymeradwy Cyswllt Ffermio. Mae’r unigolion gwybodus a phrofiadol hyn yn rhan bwysig o’r rhaglen fentora sydd wedi’i hariannu’n llawn gan Cyswllt Ffermio. Byddant yn hyrwyddo manteision y cynllun cymorth un i un hwn sydd wedi’i ariannu’n llawn ar hyd yr wythnos.

 

Cymorth i berchnogion coetiroedd…

Bydd Cyswllt Ffermio’n hyrwyddo’r gwasanaethau maent yn cynnig i fusnesau coedwigaeth, yn cynnwys y cyngor technolegol a busnes sydd ar gael drwy’r Gwasanaeth Cynghori. Byddant yn rhannu stondin â Coed Cymru a MWMAC (Stondin Rhif FOR755). Os oes gennych ddiddordeb mewn rheoli coetiroedd fferm mewn ffordd gynaliadwy, ychwanegu gwerth at goed y fferm a gwella ffrydiau incwm y fferm, drwy blannu coed o’r newydd a chod carbon coetiroedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw. Bydd swyddog coetiroedd technegol Cyswllt Ffermio, Geraint Jones, ar gael drwy gydol y sioe ac yn ystod diwrnod perchnogion tir ar stondin Confor (Stondin rhif FOR 763) o 11am ddydd Mercher, 26 Gorffennaf. Tra’n stondin Confor, bydd Geraint yn cymryd rhan mewn cyflwyniad ar wella ffrydiau incwm ffermydd drwy blannu coed newydd a’r cod carbon coetiroedd gyda sesiwn holi ac ateb yn dilyn.

 “Mae Cyswllt Ffermio’n cynnig arweiniad, hyfforddiant a chyngor – nifer o wasanaethau a digwyddiadau, a’r cyfan wedi’i anelu at helpu i ddatblygu busnesau cynaliadwy a gwella perfformiad economaidd ac amgylcheddol. Mae nifer o wasanaethau wedi’u hariannu’n llawn, tra bod cymhorthdal o hyd at 80% i fusnesau cymwys, neu nawdd llawn ar gyfer ceisiadau grŵp drwy’r Gwasanaethu Cynghori.

 “Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru’n rhoi cyfle i ni siarad yn uniongyrchol â ffermwyr a choedwigwyr. Ni ddylai unrhyw fusnes cymwys yng Nghymru golli allan ar y gwasanaethau cymorth amrywiol a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w datblygiad personol a’u busnes, a hynny mewn cyfnod economaidd heriol iawn i nifer,” meddai Mrs. Williams.  

Cofiwch ei bod hi’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw ar gyfer unrhyw un o’r clinigau un i un sydd yn cael eu cynnig gan Cyswllt Ffermio yn y Sioe Frenhinol eleni. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac i neilltuo’ch lle.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y