Mae ffermwyr a choedwigwyr sy’n dymuno lleihau costau a chynyddu effeithlonrwydd ar y fferm yn cael eu hannog i ymweld â Cyswllt Ffermio yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru, a gynhelir ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 21/22 Mai.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig ym Menter a Busnes, sy’ n darparu gwasanaeth Cyswllt Ffermio, yn disgwyl cyfnod prysur iawn yn ystod y digwyddiad poblogaidd hwn, sydd eleni'n cynnwys cyfres o arddangosiadau ymarferol wedi'u targedu at y rhai sy'n cadw moch, menter ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae cymaint mwy i'w gynnig fel rhan o'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd. Bydd ein staff yn annog pobl i ganfod beth sydd ar gael fel y gallent ddysgu mwy am ddatblygu eu sgiliau eu hunain, trwy ein rhaglen dysgu a datblygiad gydol oes a thrwy gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) ar-lein fydd yn eu cynorthwyo i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chyflawni eu nodau personol, yn ogystal â phwysigrwydd manteisio ar gyngor busnes strategol a all eu cynorthwyo i gyrraedd eu nodau busnes.

“Rydym yn edrych ymlaen i weld nifer o wynebau newydd eleni, gan fod y meini prawf cymhwysedd wedi’i ehangu i gynnwys mwy o ffermwyr a choedwigwyr gyda daliadau llai o faint, mwy o gategoriau o gontractwyr hunan gyflogedig a busnesau bwyd," meddai Mrs Williams.

“Bydd ein staff wrth law i drafod sut all y rhaglen estynedig drawsnewid y modd y bydd busnesau’n cael eu rhedeg. Ein nod fydd i sicrhau y bydd ffermwyr a choedwigwyr yn ymgysylltu â ni trwy ein tîm o swyddogion datblygu lleol, fel eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei drefnu gennym trwy ein gwefan newydd, ac yn bwysicaf oll, i'w cynorthwyo i fanteisio'n llawn ar y gwasanaethau a'r digwyddiadau sydd ar gael erbyn hyn," meddai. 

Wedi’u lleoli yn yr adran foch, bydd yr arddagnosiadau moch dyddiol yn cael eu darparu gan Bob Stevenson, sy’n filfeddyg ac arbenigwr moch nodedig.

“Bydd arweiniad ar gael ar gyfer dechreuwyr ac arbenigwyr fel ei gilydd, yn ymwneud â phob agwedd o hwsmonaeth moch, yn amrywio o drin a thrafod moch yn ymarferol, iechyd a lles a materion bridio hyd at fioddiogelwch a defnyddio meddyginiaethau'n ddiogel," meddai Mrs Williams.

Yn ystod y digwyddiad deuddydd, bydd y Sefydliad Moch Prydeinig hefyd yn cynnal sgyrsiau ar fanteision bridio moch pur.

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd ar gael yn yr adran tyddynwyr a'r adran garddawriaeth. Byddant yn pwysleisio'r neges bod angen i bob unigolyn a gofrestrodd dan y rhaglen Cyswllt Ffermio flaenorol ail gofrestru er mwyn manteisio'n llawn ar y gwasanaethau sydd ar gael fel rhan o'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Gallwch gofrestru ar lein ar y wefan.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o