21 Mai 2019

 

Gall y cysyniad o sefydlu busnes fferm ymddangos yn freuddwyd amhosibl i ddarpar ffermwyr, felly mae digwyddiad undydd newydd wedi cael ei drefnu i helpu darpar ffermwyr o bob rhan o’r DU i ddechrau ffermio.

Bydd Cyswllt Ffermio, un o bartneriaid rhwydwaith Newbie y DU, yn dod â ffermwyr y dyfodol ynghyd i rannu syniadau, arfer dda ac arloesedd yn ystod cynhadledd ‘Dechrau Ffermio’ a gynhelir yn Ne Cymru ar 4 Mehefin.

Bydd darpar ffermwyr o Gymru. Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael mynediad at arweiniad ariannol a chyfreithiol yn ymwneud â mynediad at dir a modelau busnes.

Bydd y prif siaradwyr yn cynnwys Cody Wood, ffermwr da byw cenhedlaeth gyntaf o’r UDA.

Mae Cody wedi profi ei bod yn bosibl sefydlu busnes fferm heb unrhyw gefndir teuluol ym myd amaeth, a heb lawer o arian.

Gyda $1200 yn unig yn ei boced, mae wedi adeiladu nifer o fusnesau fferm llwyddiannus ac arloesol o fewn deng mlynedd, drwy gydweithio gyda busnesau eraill a manteisio ar gryfderau eraill er mwyn datblygu ei arbenigedd ei hun.

Mae Cody yn cyfaddef nad yw darganfod ffordd i mewn i unrhyw ddiwydiant newydd yn hawdd, a bod ffermio’n cynnig heriau unigryw, gan gynnwys y syniad bod angen llawer o gyfalaf neu dir wedi’i etifeddu er mwyn cymryd y camau cyntaf.

“Mae fy llwybr i mewn i’r diwydiant amaeth wedi dangos nad oes angen yr un o’r rhain arnoch. Yr hyn sydd ei angen yw agwedd benderfynol, arweiniad a pharodrwydd i ddefnyddio cryfderau pobl eraill er mwyn datblygu arbenigedd,” meddai.

“Mae’r gynhadledd Dechrau Ffermio yn fenter wych, ac rwy’n siŵr y bydd yn arwain at lu o gyfleoedd i’r rhai hynny sydd eisiau gwireddu eu huchelgais i ffermio.”

Yn ymuno â Cody fel prif siaradwr fydd Hannah Jackson, yn wreiddiol yn ferch o’r ddinas, a adnabyddir hefyd fel ‘The Red Shepherdess’, sydd wedi llwyddo i greu gyrfa lwyddiannus iddi hi ei hun drwy ffermio yng Nghymbria.

Cynhelir y digwyddiad yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd, rhwng 10am – 4 pm.

Mae nifer cyfyngedig wedi cael eu neilltuo ar gyfer pob gwlad yn y DU, felly bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Am fwy o wybodaeth neu er mwyn archebu lle, cliciwch yma neu cysylltwch â Del Evans ar 01970 600176 neu delyth.evans@menterabusnes.co.uk.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o