Gall ffermwyr sy’n chwilio am gyfle i ychwanegu gwerth at eu busnesau presennol ganfod mwy am y cyfleoedd y gall cynlluniau ynni adnewyddadwy eu cynnig yn ystod digwyddiad yr wythnos nesaf.

Bydd y digwyddiad Ynni Adnewyddadwy, sy’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,  yn anelu at ddangos manteision cynlluniau ynni adnewyddadwy amrywiol, ac yn trafod enghreifftiau o bobl sydd wedi datblygu eu gosodiadau ynni adnewyddadwy eu hunain. Bydd siaradwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu’r ystyriaethau amgylcheddol gofynnol ar gyfer gwahanol gynlluniau megis dŵr, solar a biomas. Bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnig cyngor ynglŷn â’r broses cynllunio.

 

Digwyddiad Ynni Adnewyddadwy

Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Garwnant, Merthyr Tudful CF48 2HT

Dyddiad: 11 Hydref 2016

Amser: 14:00 – 17:00

 

Bydd cyfle i fynd ar daith o amgylch systemau ynni adnewyddadwy Garwnant a bydd lluniaeth ar gael.

Byddai archebu lle yn fanteisiol. Cysylltwch â Nerys Hammond ar 07985 379816 nerys.hammond@menterabusnes.co.uk 
neu Deian Thomas ar 07772 694952 deian.thomas@menterabusnes.co.uk.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes