Mae Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau arallgyfeirio ar gyfer yr hydref hwn yn canolbwyntio ar annog ffermwyr i fentro i feysydd newydd a allai gynyddu elw'r fferm.

Bydd llaeth gafr, llaeth defaid, a chynhyrchu cig carw yn cael eu trafod ym mhob digwyddiad, a bydd nifer o arbenigwyr yn y meysydd hyn yn rhoi cyflwyniadau’n seiliedig ar eu profiadau a’u dealltwriaeth eu hunain o'r sector.

  • 12 Medi 2017 – The Manor, Ffordd Aberhonddu, Crughywel, Powys, NP8 1SE
  • 20 Medi 2017 – GYG Karting, Glan y Gors, Cerrigydrudion, Conwy, LL21 0RU
  • 27 Medi 2017 – Gwesty’r Plough, Rhosmaen, Llandeilo, SA19 6NP

Mae Rob Bunn yn rheolwr cynlluniau da byw ar ran Dovecote Park, sy'n cyflenwi'r cig eidion, cig llo a chig carw Prydeinig gorau i archfarchnadoedd Waitrose ar draws y wlad. Bydd Rob yn rhoi trosolwg o’r cynllun ffermio ceirw ym Mhrydain a hefyd yn son am fenter ariannu newydd a sefydlwyd gan Dovecote Park a banc Lloyds sy’n cynorthwyo pobl ifanc i gamu i mewn i’r sector, trwy helpu i ariannu ceirw ifanc a brynir i’w pesgi.

Mae Kath Shaw, Llywydd sirol UAC Brycheiniog a Sir Faesyfed, yn cadw gyr o geirw coch ar fferm 80 erw yn Sir Faesyfed. Magwyd Kath ger Llundain ac mae wedi cyflawni llawer iawn ym myd ffermio. Cwblhaodd gymhwyster HND mewn Amaeth a chymhwyster ANC mewn Rheoli Ceirw, ac mae wedi bod yn gweithio gyda cheirw ers hynny. Wedi iddi sefydlu ei gyr o geirw ei hun yn 2004, mae bellach yn cyflenwi’r Welsh Venison Centre yn Bwlch, sydd yn cyflenwi tafarndai, bwytai a siopau lleol.

Mae’r ysgolhaig Nuffield, Gary Yeomans, sy’n ffermio ger y Fenni, yn cael ei ystyried yn un o brif gynhyrchwyr llaeth gafr y wlad. Dywed Gary fod geifr wedi rhoi cyfle iddo gymryd ei gam cyntaf i’r diwydiant ffermio yn 2002 gan iddo weld lleihad mewn hyfywedd ffermydd llaeth ar raddfa fach. Erbyn heddiw, er gwaetha’r cynnydd mewn cystadleuaeth, mae wedi troi ei fusnes yn fenter fasnachol broffidiol gyda 750 o eifr British Saanen a geifr Saanen croes British Toggenburg.

Dysgodd y gwneuthurwr caws o Fethesda, Dr. Carrie Rimes, ei chrefft yn y safleoedd cynhyrchu caws yn Ffrainc cyn dychwelyd adref i Ogledd Cymru gyda chynlluniau uchelgeisiol am laethdy caws gan ddefnyddio llaeth defaid. Yn ôl Carrie, gyda phrisiau llaeth gwartheg mor isel ar hyn o bryd, mae tipyn o ddiddordeb mewn symud i gynnyrch y mae modd ei werthu am rhwng dwy neu dair gwaith cymaint â llaeth gwartheg, ac mae Carrie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i berswadio mwy o ffermwyr yng Nghymru i fodloni'r gofyn cynyddol am laeth dafad.

Wedi’i dargedu at bobl sy’n gymharol newydd i’r meysydd arbenigol hyn, bydd y siaradwyr yn trafod amrywiaeth o faterion gan gynnwys ymchwil i’r farchnad, bridio, geneteg, prosesu ac ychwanegu gwerth i’r cynnyrch cyn gwerthu. Cynhelir pob digwyddiad rhwng 7.30yh a 9.30yh ac mae'n rhaid archebu eich lle ymlaen llaw drwy gysylltu â owain.rowlands@menterabusnes.co.uk / 01970 631 424.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint