Gallai offer a thechnoleg ffermio manwl gywir eich cynorthwyo i wella perfformiad, elw ac effeithlonrwydd arferion gweithio o ddydd i ddydd mewn busnesau ffermio cnydau. Mae potensial sylweddol ar gyfer gwneud arbedion ariannol, ond mae’n rhaid i’r dechnoleg a ddefnyddir dalu amdano ei hun.
Mae Cyswllt Ffermio ac AHDB wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau’n edrych ar y broses ymarferol o wneud penderfyniadau deallus wrth werthuso buddsoddiad mewn offer a thechnoleg ffermio manwl gywir. Mae Ian Beecher Jones yn ymgynghorydd ffermio manwl gywir annibynnol a bydd yn arwain sesiwn rhyngweithiol yn cynnwys astudiaethau achos o ffermydd lleol ynglŷn â gwneud buddsoddiad deallus ar gyfer eich busnes, gan gynnwys:
- Gwneud y defnydd gorau posib o dractorau a pheiriannau
- Agronomeg wedi’i dargedu
- Rheoli data
Bydd y digwyddiadau “Rhoi’r offer ffermio manwl gywir BePRECISE ar waith yn eich busnes” yn cymryd lle fel a ganlyn:
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28ain Chwefror 2017
Amser: 12.30 – 16:00
Lleoliad: Y Pafiliwn, Maes Sioe’r Sir, Withybush, Hwlffordd SA62 4BW
Dyddiad: Dydd Mercher, 1af Mawrth 2017
Amser: 18:00 – 22:00
Lleoliad: Six Bells Inn, Penmark, Rhoose, Y Bari CF62 3BP
Dyddiad: Dydd Iau, 2il Mawrth 2017
Amser: 12.30 – 16:00
Lleoliad: Canolfan Da Byw Sir Fynwy, Croesbychan, Raglan NP15 2BH
Croeso cynnes i bawb. Darperir lluniaeth ysgafn. Am fwy o fanylion ynglŷn â’r digwyddiadau uchod ac i archebu eich lle, cysylltwch â: Dr Delana Davies ar 01437 890233 neu e-bostiwch delana.davies@menterabusnes.