Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer cymorth ariannol yn cychwyn ddydd Llun 6ed Mawrth ac yn dod i ben am 5.00yp ddydd Gwener 31ain Mawrth 2017.

Bydd cyfnodau ymgeisio pellach ar gael yn ystod 2017 a bydd dyddiadau’n cael eu cyhoeddi’n fuan.

 

Cynllun Datblygu Personol a’r Ffurflen Gais

Mae’n rhaid i gleientiaid fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a bod wedi derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair unigol gan y Ganolfan Wasanaeth i gael mynediad at safle we BOSS.

Bydd y ffurflen gais ar gyfer ymgeisio am gymhorthdal 80% tuag at gyrsiau hyfforddiant byr ar gael ar safle we BOSS pan fydd y cyfnod ymgeisio'n cychwyn, sef yr un wefan lle gall cleientiaid gwblhau eu Cynllun Datblygu Personol a chyrsiau e-ddysgu.

 

Prif Newidiadau i’r Rhaglen
Cyrsiau Categori 1 – Trawsnewidiol bellach yn cael eu galw’n ‘Gwella Busnes’. Mae sawl cwrs ar gael gyda chymhorthdal o 80% dan y categori hwn wedi'u hanelu at wella sgiliau a dealltwriaeth unigol i helpu i arwain y busnes yn ei flaen gan gynnwys Cofnodi Ariannol a TAW, Cynllunio a datblygu busnes a Marchnata eich busnes.
Mae cwrs newydd yn ymwneud â Rheoli Cnofilod ar Ffermydd wedi cael ei ychwanegu at restr y cyrsiau cymeradwy ar gyfer 2017. Mae mwy o fanylion ynglŷn â’r cyrsiau a’r darparwyr hyfforddiant cymeradwy ar gael ar y wefan.
Gall rhai cleientiaid cymwys* sydd dan 40 mlwydd oed ar ddyddiad cyflwyno’r cais bellach dderbyn 5 achos o hyfforddiant o fewn cyfnod o 12 mis, fodd bynnag, dim ond 1 cwrs Categori 3 - Peiriannau ac Offer y gallant ei gwblhau.
Os nad ydych yn sicr o’ch statws cymhwysedd cofrestredig, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol.

 

E-ddysgu
Mae cyfanswm o 20 cwrs e-ddysgu ar gael i’w cwblhau gan gleientiaid cofrestredig o gysur eich cartref ar amser sy’n gyfleus i chi. Mae e-ddysgu’n ffordd wych o ddiweddaru sgiliau presennol neu ddatblygu sgiliau cwbl newydd mewn unedau dysgu byr 20 munud o hyd. I weld pob cwrs sydd ar gael, cliciwch ar y wefan isod, mewngofnodwch gan ddefnyddio'r enw defnyddiwr a'r cyfrinair a ddarparwyd gan y Ganolfan Wasanaeth a dewiswch e-ddysgu Cyswllt Ffermio. https://businesswales.gov.wales/cy/boss

 

*Cleientiaid cymwys yw’r rhai sydd wedi cofrestru o fusnes ffermio neu goedwigaeth llawn, newydd ddyfodiaid neu unigolyn o system ffermio / coedwigaeth arbenigol. Nid yw’r 5 achos o hyfforddiant ar gael ar gyfer unigolion sydd wedi cofrestru fel myfyriwr nad ydynt ynghlwm â busnes ffermio / coedwigaeth, unigolion sydd wedi'u cofrestru'n hunangyflogedig neu gontractwyr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites