Bydd diwrnod agored ar un o safleoedd arloesedd newydd Cyswllt Ffermio yn dangos y gwaith ymchwil diweddaraf sy’n anelu at wella cynaliadwyedd ar ucheldiroedd Cymru.

Bydd y digwyddiad agored yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn cynnwys prosiectau sy’n anelu at gydbwyso bioamrywiaeth, cynhyrchiant a hyfywedd ariannol ar yr ucheldiroedd. Mae’r rhain yn cynnwys systemau arloesol ar gyfer cynhyrchu galanthamin o gennin Pedr mewn modd cynaliadwy, sef cyfansoddyn fferyllol sydd wedi’i gymeradwyo fel triniaeth Clefyd Alzheimer; tyfu codlysiau porthiant megis meillion ac alaw’r dŵr; a pherfformiad miscanthus wedi’i dyfu ar yr ucheldir.

Bydd dwysâd cynaliadwy hefyd yn chwarae rhan, ynghyd â gwlyptiroedd adeiledig integredig y ganolfan, sy’n atal maetholion rhag dianc o ffermydd, a lleiniau arbrofol hir dymor sy’n profi effeithiolrwydd gwahanol dechnegau rheoli o ran adfer amrywiaeth botanegol i borfeydd parhaol.

Mae Pwllpeiran wedi bod yn ganolfan astudiaeth yn edrych ar ecosystemau sy’n cael eu ffermio ar ucheldir ers y 1930au a bydd ei statws newydd fel un o safleoedd arloesedd Cyswllt Ffermio yn darparu ffermwyr Cymru gyda mynediad at ymchwil cyfredol IBERS. Mae wyth safle arloesedd wedi'u lleoli mewn sefydliadau addysg amaethyddol, sy’n cynnal prosiectau blaengar ym maes ymchwil a datblygiad mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Digwyddiad:
17 Mai 2016 - 11yb hyd 3yp

Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeirian, Cwmystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 4AB

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad cysylltwch â Lisa Roberts - 07985379890 / lisa.roberts@menterabusnes.co.uk

 

 

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer