Mae dwy ffermwraig ifanc, sy’n gyn aelodau o’r Academi Amaeth, rhaglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, wedi cael eu penodi’n aelodau o fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC), y corff sydd â phrif swyddfa yn Aberystwyth sy’n gyfrifol am hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig i’r farchnad fyd-eang.
Mae Rachael Madeley Davies, o Fedw Arian Uchaf yn y Bala a Helen Howells, Tycam, Llanwenog, Ceredigion yn llysgenhadon brwd o raglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, ac yn dweud bod y profiad wedi darparu sgiliau gwerthfawr iddynt y byddant nawr yn eu rhoi ar waith er budd cynhyrchwyr cig coch ledled Cymru.
Mae’r ddwy yn cytuno bod rhaglen hyfforddiant, mentora a rhwydweithio dwys yr Academi Amaeth wedi rhoi’r hyder iddynt ymgeisio am eu penodiadau dylanwadol newydd fel aelodau o fwrdd Hybu Cig Cymru, ac maent yn edrych ymlaen at gyfathrebu ac ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn effeithiol gyda’r rhai sy’n talu ardollau cig coch yn ystod y cyfnod heriol hwn sydd hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer y diwydiant ar ôl Brexit.
Mae Rachael, bargyfreithiwr cymwys sy’n gweithio i gwmni
ymgynghorwyr amaethyddol hefyd yn rhan o dîm o wragedd fferm ifanc a mentrus ‘Gwas Fferm’, a lansiodd eu dyddiadur amaethyddol eu hunain ddwy flynedd yn ôl, gyda chefnogaeth rhaglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio. Dewiswyd Rachael i gymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn 2014.
“Credaf ei bod yn bwysig iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, wedi penodi bwrdd gyda phrofiad eang ar draws gwahanol sectorau. Mae hynny’n adlewyrchu’r doniau amrywiol o fewn y diwydiant amaeth a’r diwydiant bwyd ehangach yng Nghymru."
“Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i mi gymryd rhan ein diwydiant ar y lefel hon,” meddai Rachael.
Mae’r amgylcheddwr siartredig a’r ymarferwr datblygu cynaliadwy, Helen Howells, yn rhedeg cwmni
Hwylus Cyf, cwmni ymgynghorol gwledig a sefydlwyd ganddi er mwyn ysbrydoli arloesedd ymysg sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.
Graddiodd Helen gyda gradd dosbarth cyntaf mewn datblygu cynaliadwy o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, lle enillodd wobr Cymdeithas Stapleton ar gyfer y myfyriwr gorau. Dywed Helen fod ei phrofiad o gymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth wedi rhoi’r cyfle iddi ystyried ei nodau ar gyfer ei gyrfa yn y tymor hir, a arweiniodd at sefydlu cwmni Hwylus Cyf.
“Mae’r Academi Amaeth yn annog, yn mentora ac yn meithrin pobl o gefndir amaethyddol i gyflawni eu potensial fel arweinwyr gwledig ac entrepreneuriaid. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Academi Amaeth am fy mhrofiadau, ac rwyf wedi gweld budd mawr mewn cymryd amser i gynllunio fy ngyrfa ar gyfer y tymor hir. Roedd y fantais ychwanegol o rwydweithio, a hynny o fewn ein grŵp yn ogystal â’r nifer o bobl y cawsom gyfle i gwrdd â nhw fel rhan o’r rhaglen hefyd yn werthfawr iawn.”
Mae bwrdd Hybu Cig Cymru hefyd yn cynnwys trydydd aelod o deulu Cyswllt Ffermio. Mae Catherine Smith, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Sir Fynwy a Morgannwg, yn ffermio fferm gymysg 220 erw yn Rhaglan gyda’i gŵr. Graddiodd Catherine o Brifysgol Birmingham gyda gradd dosbarth cyntaf mewn bwyd a rheolaeth cwsmeriaid yn 2001, gan ennill teitl myfyriwr y flwyddyn.
Ers 2003, bu’n gweithio fel ymgynghorydd a hyfforddwraig bwyd-amaeth hunangyflogedig, a hynny’n bennaf yn y sectorau cig coch a dofednod yn Lloegr ac yng Nghymru. Yn 2014, ymunodd â thîm Cyswllt Ffermio ar sail ran-amser yn gweithio’n lleol, fel hwylusydd yn y lle cyntaf, ac erbyn hyn fel swyddog datblygu.
"Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi i’r bwrdd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r aelodau eraill er mwyn sicrhau bod Hybu Cig Cymru yn sefydliad cryf, atebol ac arweiniol a fydd yn llunio cyfeiriad strategol bositif ar gyfer y dyfodol i’r sector cig coch yng Nghymru,” meddai Catherine.