Bydd edrych ar ddulliau i leihau defnydd gwrthfiotigau yn ystod cyfnod ŵyna yn un o’r pynciau allweddol fydd yn cael eu trafod yn ystod Diwrnod Agored Cyswllt Ffermio.

Bydd y Milfeddyg Kate Hovers yn darparu trosolwg o brosiect sydd ar waith ar fferm Plas, Llandegfan Ynys Môn - un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio - er mwyn lleihau’r defnydd a wneir o wrthfiotigau yn ystod y cyfnod ŵyna. Bydd yr ymgynghorydd maeth da byw, Hefin Richards, yn trafod gofynion maeth gwartheg bîff, a bydd hefyd yn rhoi cyflwyniad ynglŷn â pharatoi dognau ar gyfer gwartheg.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys taith fferm a chyflwyniad i’r system ffermio ar fferm Plas yng nghwmni’r ffermwr, Arwyn Jones.

Dywedodd Gethin Prys Davies, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio: “Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y diwrnod agored ar y fferm i gael rhagflas o’r prosiectau a fydd yn cael eu cynnal yno.”

 

Diwrnod Agored Plas

Lleoliad: Plas, Llandegfan, Ynys Môn LL59 5SB

Dyddiad: Dydd Mercher 26ain Hydref 2016

Amser: 11:00 – 14:30

 

Am fwy o fanylion ynglŷn â’r digwyddiad, cysylltwch â Gethin Prys Davies ar 01248 660073 neu 07772 694941 gethin.prys.davies@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr Sir Benfro yn mynd i'r afael â TB trwy waith tîm
07 Ebrill 2025 Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn
Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Cyswllt Ffermio yn Cyflwyno 9 Cwrs Hyfforddiant Ychwanegol i Ffermwyr
02 Ebrill 2025 Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen