12 Mai 2025

Dyddiad i’w nodi: Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i dyfwyr a ffermwyr yng Ngŵyl y Ganwyn!

Bydd Cyswllt Ffermio yn bresennol yn y digwyddiad i gynnig cymorth a chyngor i ymwelwyr, p'un a ydynt yn dyfwyr profiadol, newydd-ddyfodiaid sydd â diddordeb mewn garddwriaeth, neu ond am ymwneud yn fwy â byd natur.

Bydd Marchnad Tyfwyr fywiog, a fydd yn cynnwys nifer o stondinau masnach cyffrous, o amgylch stondin Cyswllt Ffermio. Er bod garddwriaeth yn rhan ganolog o'r digwyddiad eleni, bydd ein tîm hefyd wrth law i ateb holl ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â Cyswllt Ffermio.

Mae croeso i chi ddod i siarad â ni mewn dau leoliad: Bydd tîm Garddwriaeth Cyswllt Ffermio ym Mhafiliwn yr Aelodau, a byddant yn awyddus i drafod eu sesiynau a'u digwyddiadau Cymorth Busnes Garddwriaeth a ariennir yn llawn, ac sydd wedi'u teilwra i gynorthwyo tyfwyr sefydledig a'r rhai sy'n archwilio posibiliadau arallgyfeirio newydd. Byddant ar gael i gynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau garddwriaethol. Bydd Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio a Swyddog Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) hefyd ar gael drwy gydol y penwythnos i archwilio cyfleoedd amrywiol ar gyfer tyfu a datblygu eich busnes a thrafod unrhyw syniadau a allai fod gennych.

Ar gyfer pob cwestiwn ynghylch sgiliau a hyfforddiant, bydd staff a darparwyr hyfforddiant ar gael yn Adeilad Lantra. Byddant yn cynnig arweiniad a chymorth ar sut i gwblhau'r Cynllun Datblygu Personol (PDP), llywio’ch ffordd drwy fodiwlau e-ddysgu, a chyflwyno ceisiadau am gyllid. Er mwyn ein galluogi i ddarparu'r cymorth hwn, gwnewch yn siŵr bod eich manylion mewngofnodi Cyswllt Ffermio gyda chi.

Dros y ddau ddiwrnod, bydd y darparwyr canlynol wrth law i drafod unrhyw ymholiadau hyfforddi:

  • Agriconnectors
  • Dysgu Bro Ceredigion
  • Jimmy Hughes Training Services Ltd
  • Milfeddygon Prostock

Hefyd, peidiwch â cholli arddangosiadau coginio cyffrous drwy gydol y ddau ddiwrnod gan Nerys Howell, a fydd yn dangos ffyrdd blasus o ddefnyddio ffrwythau a llysiau tymhorol o Gymru! Dyma gyfle gwych i ddysgu ryseitiau newydd a chael eich ysbrydoli gan gynnyrch lleol.

Un o sawl busnes lleol sy'n ymuno â'r digwyddiad fydd Alan a Justine Burgess o West Wales Willows, sy'n tyfu dros 260 o wahanol fathau o helyg. Mae eu busnes yn gweithredu o dyddyn hyfryd wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â thynnu sylw at blanhigion helyg ar eu stondin, bydd Justine, sydd hefyd yn artist helyg, yn arddangos rhai o'i chreadigaethau artistig.

Dewch i ddathlu goreuon Cymru wledig gyda ni!

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i wefan Cyswllt Ffermio cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.

Mae arddangoswyr Cyswllt Ffermio yng Ngŵyl y Gwanwyn yn cynnwys:

Ash & Elm Horticulture (Welsh Flower Barrow)

  • Mae ELM (a sefydlwyd gan Emma Maxwell) a Dave Ash wedi creu gardd farchnad amrywiol agroecolegol bum erw.
  • Wedi'i lleoli ym mynyddoedd hardd Cambria yn nyffryn Hafren, ychydig filltiroedd yn unig o goedwig Hafren a tharddle Afon Hafren. Mae tref farchnad fechan Llanidloes ond 3 milltir i ffwrdd.
  • Mae'r lleoliad yng nghefn gwlad Cymru yn darparu lleoliad unigryw i'w hymdrechion garddio marchnad.

Living Simply Lavender

  • Mae Living Simply Lavender yn fusnes bach ffyniannus sydd wedi'i leoli y tu allan i Lanelli, Sir Gaerfyrddin.
  • Maent yn tyfu Lavandula Angustifolia (lafant Seisnig) a Lavandin.
  • Yn ystod misoedd yr haf, mae'r lafant blodeuol yn cael ei gynaeafu â llaw, ac yna'n cael ei ddistyllu gan ddefnyddio'r broses ddistyllu â dŵr.

NPTC
 

  • Grŵp colegau NPTC yw un o'r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru, gyda champysau sy'n cwmpasu 30% o dir y wlad, ac yn gwasanaethu mwy na 270,000 o drigolion, yn ymestyn o’r de i’r gogledd.
  • Mae gan yr adran arddwriaeth gyfleusterau mewn tri champws: sef Castell-nedd, Aberhonddu a'r Drenewydd, sy'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau llawn a rhan-amser o lefel 1 i lefel 3.

P&J Plants

  • Mae P&J Plants yn fusnes teuluol, sy'n gweithredu ers canol yr 80au.
  • Mae’r busnes wedi'i leoli ym Madley (Swydd Henffordd), ac mae’n arbenigo mewn planhigion cigysol – ffurfiau sarracenia yn bennaf – ond caiff mathau eraill eu gwerthu hefyd.

West Wales Willows

  • Mae Justine ac Alan Burgess yn rhedeg West Wales Willows o dyddyn yng nghefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin.
  • A hwythau’n tyfu dros 260 o fathau o helyg, maent yn cynnal y Casgliad Cenedlaethol o Salix, a reolir gan Plant Heritage. Mae Justine hefyd yn artist helyg, a bydd yn arddangos rhai o'i chreadigaethau, yn ogystal â phlanhigion helyg, ar y stondin.

Perennial

  • Perennial yw'r unig elusen yn y DU sy'n ymroddedig i helpu pobl mewn garddwriaeth a'u teuluoedd.

Microacres

  • Darganfyddwch fyd o flas gyda microwyrddion, blodau bwytadwy, a madarch gourmet arbenigol o’r radd flaenaf, wedi'u tyfu'n gynaliadwy.
  • Caiff y planhigion eu cynaeafu â llaw, gyda sylw i fanylion, o'u fferm fertigol drefol, gan ddefnyddio dulliau tyfu cynaliadwy.
  • Mae eu microlysiau a pherlysiau lliwgar yn trawsnewid prydau cyffredin yn greadigaethau coginio anhygoel. O geginau bwytai i goginio gartref, gallwch ychwanegu hyrddiad o liw, gwead a blas ffres a lleol i'ch prydau. Ffresni o'r fferm i'r fforc.
  • Wedi'i dosbarthu’n lleol. Wedi'i dyfu â chariad, yng Nghymru. Yn naturiol flasus.

Farmers Welsh Lavender Ltd

  • Mae Farmers' Welsh Lavender yn wneuthurwyr elïoedd gofal corff a balmau sydd wedi’u lleoli bum milltir o faes y sioe.
  • Ewch i'r fferm i weld sut maen nhw'n tyfu ac yn distyllu lafant. Mae cynhyrchion moethus FARMERS i'w gweld ledled y byd... yn eu siop flaenllaw ddeniadol yn y Gelli Gandryll ac ar y gobennydd pe baech chi'n aros yng Ngwesty'r Savoy yn Llundain.

The Fungi Folk

  • Mae'r Fungi Folk yn fferm fadarch sy’n wedi’i hardystio’n organig ym mryniau tonnog De Cymru, sy'n tyfu amrywiaeth o fadarch gourmet a meddyginiaethol ac yn cynhyrchu tinturiau ac echdynion.
  • Gallwch ddod o hyd iddi ar-lein, ac mewn marchnadoedd a digwyddiadau ledled Cymru a De-orllewin Lloegr.

Cyswllt Ffermio

  • Bydd staff Cyswllt Ffermio yn yr adeilad yn darparu gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd ynghylch y cymorth busnes garddwriaeth y mae'r tîm yn ei gynnig i ffermwyr a thyfwyr, gan adeiladu diwydiant garddwriaeth cryfach yng Nghymru.

Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn