Mae dau ffermwr ifanc uchelgeisiol yng Ngogledd Cymru yn hyderus eu bod yn wynebu dyfodol disglair diolch i weledigaeth tirfeddiannwr lleol a threfniant cyd-ffermio a drefnwyd gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Mae Mentro yn cynnig gwasanaeth ‘cyfateb’ a/neu gefnogaeth i ffermwyr sydd am leihau eu busnes neu ddod allan o’r diwydiant a ffermwyr sy’n ei chael hi’n anodd camu i mewn i redeg eu busnes eu hunain.

harry fetherstonhaugh emyr jones and rhys williams pictured at coed coch abergele
Mae’r ffermwr a’r tirfeddiannwr adnabyddus o Abergele, Harry Fetherstonhaugh yn awr mewn trefniant ffermio ar y cyd llwyddiannus iawn gyda Rhys Williams (39), mab fferm sydd hefyd yn rheolwr yng Ngholeg Glynllifon a bugail ifanc, Emyr Jones, mab teulu amaethyddol yng Ngogledd Cymru.

Daeth Mr Fetherstonhaugh i’r diwydiant amaeth gyntaf yn y saithdegau hwyr, fel tenant Coed Coeth, daliad 960 erw. Cynyddodd fusnes y fferm yn raddol a daeth yn arweinydd gwledig ac yn ffermwr amlwg yng Ngogledd Cymru.  

Sylweddolodd Mr Fetherstonhaugh nad oedd y fenter wedi bod yn cyrraedd ei photensial yn y blynyddoedd diwethaf a gwyddai, yn y tymor hwy, ei fod mewn perygl o beidio â chael digon o amser nag egni i newid hynny. 

“Roedd y taliadau allan yn uchel. Roedd arnaf angen dau aelod o staff llawn amser, a dau arall i helpu yn ystod y cyfnod ŵyna maith dan do, yn ogystal â’r seilwaith angenrheidiol, peiriannau a cherbydau sydd arnoch eu hangen i gynnal busnes hyfyw. Roedd yn glir ei bod yn bryd ailfeddwl am y glaswelltir a rheoli stoc,” dywedodd Mr. Fetherstonhaugh.

Bu cyfarfod ffodus gyda ffrind oedd yn gwybod y gallai Rhys Williams fod â diddordeb mewn cytundeb cyd-ffermio yn sbardun a arweiniodd yn y pen draw at weld Mr Fetherstonhaugh a Rhys yn gofyn am gymorth gan Cyswllt Ffermio. Maes o law fe wnaethant hefyd gynnwys bugail lleol medrus, Emyr Jones, a oedd wedi gwneud argraff ar Rhys yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yng Ngholeg Glynllifon. Arweiniodd hyn i gyd at ‘gyfle unwaith mewn oes’ i’r ddau ffermwr ifanc.

Trwy wneud cais fel grŵp, roedd y tri ffermwr yn gymwys i wneud cais am y pecyn integredig wedi ei ariannu’n llawn o mentora, cefnogaeth busnes a chyngor cyfreithiol arbenigol oedd ar gael iddynt trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Dros gyfnod o tua 14 mis, fe wnaethant dderbyn cefnogaeth ac arweiniad gan ddau gynghorydd a gymeradwywyd gan Cyswllt Ffermio. Roedd Wendy Jenkins, cyfarwyddwraig ar yr ymgynghoriaeth wledig, Cara Wales yn gyfrifol am gynhyrchu model busnes newydd a lluniodd y cyfreithwyr amaethyddol arbenigol Agri Advisors y cytundebau cyfreithiol angenrheidiol. Gwerthodd Mr Fetherstonhaugh ei ddiadell Texel ym Medi 2016 a mis yn ddiweddarach, sefydlwyd eu cwmni masnachu.

 “Rydym wedi ail stocio gyda 2,300 o famogiaid Romney Seland Newydd sydd ddim angen llawer o waith ac sy’n fwy addas i’r system isel ei chostau, ar laswellt yr ydym yn bwriadu ei defnyddio,” dywedodd Rhys sydd yn awr yn rheoli’r fenter ac yn ymdrin â’r rôl weinyddol tra bydd Emyr yn gwneud y tasgau bugeilio o ddydd i ddydd.

Daeth y mamogiaid i gyd ag ŵyn allan yn ystod cyfnod o bedair wythnos ym mis Ebrill. Roedd canran ŵyna’r flwyddyn gyntaf dan y targed cychwynnol ond cred Emyr, trwy fridio yn ddethol, y gellir gwella’r canlyniadau yn y dyfodol.

Mae Mr Fetherstonhaugh wrth ei fod gyda llwyddiant y cwmni cyfyngedig newydd sy’n cael ei ddefnyddio fel strwythur i’r trefniant cyd-ffermio, y mae ganddo ef gyfran o 50% ynddo, mae gan Rhys gyfran o 45% ac Emyr 5%. Mae’r tri cyfranddaliwr yn cyfarfod yn fisol i gael cyfarfod bwrdd gydag agenda wedi ei gosod a lle gwneir penderfyniadau ar y cyd ac mae Rhys yn cyfathrebu yn uniongyrchol gydag Emyr ddwy neu dair gwaith yr wythnos ar y ffôn ac yn rhannu gwybodaeth trwy’r dechnoleg newydd.

“Mae Rhys ac Emyr yn arbennig o wybodus, maent yn gweithio’n galed ac maent yn frwdfrydig iawn am y dyfodol. Rwyf yn falch o fod wedi rhoi help iddynt i ddod i mewn i’r diwydiant. Os aiff popeth yn ôl y cynllun, rwyf yn gobeithio ailadrodd y trefniant cyd-ffermio yma ar barseli eraill o dir, a fydd yn cynnig rhagor o gyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.”

 

Mynnwch gopi o’r llawlyfr ‘Mentro’ newydd sy’n nodi popeth sydd arnoch angen ei wybod am fentrau ar y cyd pan ewch i weld stondin Cyswllt Ffermio yn y Sioe Frenhinol eleni. Mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o weithdai ‘Mentro’ ar fin nos yn ystod yr hydref hefyd. I weld y dyddiadau a’r lleoliadau ac i archebu lle, cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites