15 Mai 2019
Rhaid i gynhyrchwyr lloi sugno Cymru ganolbwyntio ar fagu'r math cywir o wartheg i ateb y galw cynyddol am garcasau ysgafnach.
Rhoddwyd y cyngor gan yr ymgynghorydd annibynnol ar gig eidion, Dr Liz Genever, mewn digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio ym Marchnad Da Byw Aberhonddu.
Dywedodd Dr Genever wrth ffermwyr sy’n cynhyrchu cig eidion o fuchesi sugno y dylen nhw anelu at gynhyrchu lloi sydd â’r eneteg y mae pesgwyr ei hangen i ateb y gofynion – a gallai hynny olygu newid eu dewis o darw.
Ers cyflwyno newidiadau i ragofynion y farchnad ar gyfer carcasau yn 2016, mae'r pesgwyr yn chwilio am loi o fuchesi sugno sy'n gallu cynhyrchu canran uchel o gig o garcasau ysgafnach.
Yn rhyfedd ddigon, dim ond tua hanner y carcasau cig eidion sy'n bodloni'r targed ar gyfer cydffurfiad a braster. Rhybuddiodd Dr Genever fod rhaid gwneud yn well, a dywedodd fod geneteg yn allweddol i hynny.
“Mae gwneud gwell defnydd o eneteg â pherfformiad profedig trwy ddewis teirw â nodweddion twf a charcasau uwchraddol yn fwy perthnasol nag erioed,’’ meddai.
Y teirw sydd yn 10% uchaf eu brid ar gyfer twf a chyhyredd ac sydd â braster cyfartalog y brid yw’r teirw a fydd yn cynhyrchu epil sy'n ateb y gofynion.
Mae Dr Genever yn argymell osgoi prynu teirw heb lawer o fraster sy'n tyfu'n gyflym ac sydd â phwysau-400-niwrnod uchel iawn a gwerthoedd bridio tybiedig (EBVau) trwch braster mawr, negatif.
Yn hytrach, dylai cynhyrchwyr brynu teirw ag EBVau trwch braster positif, a chanolbwyntio ar EBVau twf 200 niwrnod a 400 niwrnod.
“Anelwch at gael tarw sydd o fewn y 25% uchaf o leiaf, a hwnnw’n darw ag ystadegau lloia da iawn,” meddai Dr Genever.
Mae llawer o gynhyrchwyr cig eidion o fuchesi sugno wrthi'n gwneud eu penderfyniadau ynghylch prynu teirw ar hyn o bryd.
I ffermwyr sy'n bwriadu prynu mewn arwerthiant, y cyngor gan Dr Delana Davies o Gyswllt Ffermio yw eu bod yn gofyn am gopi o'r catalog gwerthu ymlaen llaw ac yn llunio rhestr fer yn seiliedig ar EBVau sy'n ateb eu gofynion.
“Ewch i'r arwerthiant ac edrychwch ar y teirw hynny sydd ar eich rhestr fer. Sylwch ar eu symudiad, cydffurfiad a thymer,” meddai.“Byddwch yn ddigon hyderus i gynnig am y tarw sy'n ateb eich gofynion o ran perfformiad a golwg.”
Gwnaed y trefniadau ar gyfer y digwyddiad gan Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio yn ne ddwyrain Cymru, Elan Davies.
Ariannwyd y prosiect gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020.
Canllawiau EBVau Dr Liz Genever ar gyfer cynhyrchu'r math o lo cig eidion o fuches sugno sydd ei angen ar besgwyr
EBVau ar gyfer rhwyddineb lloia
• EBV pwysau geni (kg) - Yn galluogi dewis teirw ar gyfer lloi sydd yn llai o faint adeg eu geni. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd tarw ag EBV o -4kg yn cynhyrchu lloi â phwysau geni 2kg yn ysgafnach na tharw ag EBV o 0.
• EBV rhwyddineb lloia (%) - Yn nodi teirw y bydd eu hepil yn cael eu geni heb gymorth. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd tarw ag EBV o 6 yn cynhyrchu 3% yn fwy o loi sy’n cael eu geni heb gymorth na tharw ag EBV o 0.
EBVau ar gyfer cyfraddau twf
• EBV Twf 200 niwrnod (kg) – Yn dynodi potensial bridio ar gyfer twf hyd at 200 niwrnod. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd tarw ag EBV o +20 kg yn cynhyrchu lloi sydd 10 kg yn drymach yn 200 niwrnod oed na tharw ag EBV o 0.
• EBV Twf 400 niwrnod (kg) – Yn dynodi potensial bridio ar gyfer twf hyd at 400 niwrnod. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd tarw ag EBV o +48 kg yn cynhyrchu lloi sydd 24 kg yn drymach yn 400 niwrnod oed na tharw ag EBV o 0.
EBVau ar gyfer ansawdd carcas
• EBV trwch/arwynebedd cyhyrau (mm/cm2) - Yn asesu trwch neu arwynebedd cyhyrau ar draws y lwyn. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd tarw ag EBV o +6 mm yn cynhyrchu lloi â 3 mm yn fwy o gyhyr ar draws y lwyn na lloi o darw ag EBV o 0.
• EBV trwch braster (mm) - Yn asesu trwch y braster ar draws y lwyn. Er enghraifft, amcangyfrifir bod tarw ag EBV o -2 mm yn cynhyrchu lloi ag 1 mm yn llai o fraster ar draws y lwyn na lloi o darw ag EBV o 0.