22 Gorffennaf 2021

 

Effeithlonrwydd, arfer gorau, cydymffurfiaeth ac arbed amser ac arian yw’r materion sydd wedi sbarduno menter ddiweddaraf Cyswllt Ffermio, sef rhaglen deledu fisol, 30 munud o hyd, yn arbennig ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru.

Galwch draw i YouTube o ddydd Llun, 26 Gorffennaf ymlaen, chwiliwch am ‘FCTV’ a dewch i weld sut mae rhai o ffermwyr mwyaf blaengar Cymru, gan gynnwys ffermwyr o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, yn paratoi ar gyfer y dyfodol – dyfodol lle mae ffermio mewn dull effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol yn sbarduno newid.   

Bydd y rhaglen newydd yn cynnwys cymysgedd o ffermwyr llaeth, bîff a defaid o bob rhan o Gymru a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau wrth fynd â chi ar daith o amgylch eu busnesau, gan ganolbwyntio’n benodol ar y meysydd hynny lle maen nhw’n gwneud y newidiadau mwyaf neu’n defnyddio rhai o’r dulliau a’r dechnoleg fwyaf arloesol. Mae rhai o’r ffermwyr dan sylw hefyd wedi arallgyfeirio a sefydlu mentrau newydd, felly dyma gyfle gwych i ddysgu sut gall y mentrau  newydd hyn gyfrannu at broffidoldeb cyffredinol prif fusnes y fferm a sut gall troi syniad neu ddiddordeb yn llwyddiant gynnig llif gwerthfawr o incwm. 

Bydd pob rhaglen newydd yn cael ei llwytho i fyny ddydd Llun olaf y mis.  Gallwch wylio’r rhaglenni ar unrhyw amser sy’n gyfleus i chi ac mor aml ag yr ydych yn ei ddymuno. Bydd pob rhaglen yn canolbwyntio ar thema benodol, gan ddechrau gydag isadeiledd ym mis Gorffennaf, arloesedd ym mis Awst ac arallgyfeirio ym mis Medi. Cadwch lygad ar wefan Cyswllt Ffermio a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer misoedd yr hydref a’r gaeaf. 

Pwysleisiodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, y bydd pob rhaglen hefyd yn trafod amrediad eang o bynciau cyffredinol, yn amrywio o iechyd a pherfformiad anifeiliaid i reoli pridd a glaswelltir, a fydd yn sicr o apelio at ffermwyr o bob sector. 

“Mae hwn yn gyfle unigryw i ddysgu gan rai o brif arbenigwyr gwledig ein diwydiant. Byddan nhw’n cynnig cyngor a sylwadau ar yr hyn y byddwch yn ei weld ar y sgrin, yn rhoi eu safbwyntiau personol am systemau ffermio sy’n moderneiddio’r diwydiant a’i wneud yn fwy proffesiynol, gan sicrhau eu bod hefyd yn cyd-fynd â’r holl reolau a rheoliadau pwysig, nid yn unig heddiw, ond yn y tymor hir hefyd.

“Bydd FCTV yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf i chi ar yr adeg heriol hwn, pan mae cymaint o bethau yn newid, a bydd digon o ysbrydoliaeth, technolegau newydd a syniadau newydd y gallwch eu haddasu neu eu defnyddio ar gyfer nodau eich busnes. 

“Mae rhai o’n ffermwyr mwyaf blaengar yn darganfod dulliau cost-effeithiol o roi systemau cynaliadwy ar waith i weithio tuag at fusnesau carbon niwtral, nid yn unig er mwyn diogelu dyfodol ein ffermydd teuluol ond er mwyn gwarchod yr amgylchedd a’n hadnoddau naturiol yn ogystal,” dywedodd Mrs. Williams. 

Os gallwch ddefnyddio ap YouTube, sydd ar gael ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau ‘clyfar’, gan gynnwys setiau teledu ‘clyfar’ neu drwy Firestick, ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron, yna o ddydd Llun, 26 Gorffennaf ymlaen, gallwch fwynhau’r gyntaf yn y gyfres hon o raglenni misol, 30 munud o hyd, a chael gwybodaeth fewnol am yr hyn mae rhai o ffermwyr mwyaf blaengar ac arloesol Cymru yn ei wneud. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o