17 Ebrill 2019

 

Mae brechlyn pwrpasol ar y cyd â newidiadau wrth reoli’r fuches yn helpu fferm laeth yn Sir Gaerfyrddin i ddiogelu ei lloi rhag clefyd a fu’n gyfrifol am farwolaethau nifer fawr o’i heffrod cadw. 

Ers 2015, roedd David ac Eirian Thomas wedi dioddef lefel uchel o farwolaethau ymysg y lloi ar Fferm y Wern, un o safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio ger Bancyfelin.

"Roedd y lloi’n iawn adeg eu geni ond ar unrhyw adeg wedyn rhwng dau ddiwrnod a dau fis oed bydden nhw’n mynd yn sâl, gyda symptomau niwmonia’n aml, ond fydden nhw ddim yn ymateb i wrthfiotigau,'' cofiodd Mr Thomas. 

"Lloi mawr cryf oedd y rhain; roedden nhw’n hollol iawn un diwrnod yna wedi marw drannoeth.''

Drwy weithio gyda'u milfeddyg, David Staak o filfeddygfa Neuadd y Farchnad, Sanclêr, fe lwyddon nhw yn y pen draw i gysylltu’r marwolaethau â Mycoplasma bovis (M. bovis), sef bacteriwm hynod o heintus sy'n cyfrannu'n fawr at niwmonia mewn lloi ac sydd hefyd yn gysylltiedig â llid yr ymennydd, heintiau yn y llygad a'r glust yn ogystal ag arthritis, mastitis, erthylu ac anffrwythlondeb mewn buchod mewn oed.

Does gan M. bovis ddim cellfuriau ac felly nid yw’n ymateb i wrthfiotigau. Er hynny, rhoddodd brechlyn awtogenaidd, sy’n cael ei roi i fuchod sych ac wedyn i’w lloi, gyfle i’r teulu Thomas ddiogelu eu buches rhag y clefyd dinistriol hwn.

Cynhaliodd y teulu dreial o dan aden Cyswllt Ffermio a oedd yn golygu creu brechlyn a brechu’r fuches.

Er mwyn creu brechlyn, gall swabiau gael eu cymryd o drwyn y llo neu’n uniongyrchol o feinwe ysgyfaint anifeiliaid marw. Mae'r brechlyn yn benodol i’r fferm ac felly yn effeithiol ar y fferm wreiddiol yn unig.  

Cafodd buchod Fferm y Wern eu brechu chwe wythnos ac wedyn dair wythnos cyn bwrw eu lloi er mwyn caniatáu i’r imiwnedd gael ei drosglwyddo’n oddefol i’w lloi. Wedyn rhoddwyd y brechlyn i’r lloi pan oedden nhw’n bythefnos oed ac yn bedair wythnos oed.

Roedd canran y lloi a fu farw rhwng eu genedigaeth a diddyfnu ym mis Ionawr wedi bod yn 63%. Fe nath y buchod cynta a cafodd eu brechu loua ar Chwefror y 10fed, a gostyngodd canran y marwolaethau i 32% ym mis Chwefror gyda nifer o rhein wedi achosi gan ysgôth.

Mae Mr Staak yn dweud bod yr arwyddion cynnar yn galonogol. “Mae’n ddyddiau cynnar a dwy ddim am i ffermwyr feddwl bod brechu’n fwled arian ar gyfer M. bovis ond mae e fel petai e’n gweithio.’’

Mae'n dweud na ddylai’r brechlyn gael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun: mae rheoli’r fuches hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran amddiffyn buchod a lloi rhag M. bovis. 

Cafodd pum cant o ddosau o'r brechlyn – digon i ddiogelu 125 o loi – eu cynhyrchu i’w treialu ar Fferm y Wern ar gost o £7.50 y dos, sef £30 i amddiffyn un llo.

Mwyaf i gyd o frechlynnau a brynir gan y fferm, isaf i gyd y bydd y gost fesul dos, fel sy’n wir pan fydd fferm yn ailarchebu’r brechlyn yn y blynyddoedd dilynol, meddai Mr Staak. "Mae’r labordy’n cadw’r samplau o'r fferm am gyfnod amhenodol er mwyn aildyfu’r brechlyn yn ôl yr angen,'' meddai. 

Mae Mr Staak yn dweud ei bod yn bwysig ystyried achosion eraill marwolaethau lloi cyn cychwyn ar raglen frechu.

"Mae'n bwysig ystyried achosion posibl eraill hefyd, achos fe allech chi wario arian ar frechu rhag M. bovis ond dal i gael niwmonia o ffynhonnell arall.'' 

Mae’r teulu Thomas yn cyfaddef bod cost brechu yn ystyriaeth ond yn dweud bod hynny’n ymarferol o safbwynt economaidd yn eu sefyllfa nhw.

"Rŷn ni wedi colli llawer o wartheg i TB yn y 18 mis diwethaf felly mae heffrod cadw yn bwysig iawn,'' meddai Mr Thomas. 

"Mae'n rhyddhad mawr dechrau datrys y broblem. Roedd hi’n dorcalonnus gweld cymaint o loi yn marw.''

Mae Mr Staak yn credu bod TB yn anuniongyrchol gyfrifol am y cynnydd yn nifer yr achosion o M. bovis mewn buchesi yng Nghymru, gan fod mwy o ffermwyr yn prynu gwartheg i mewn – a chlefydau i’w dilyn – yn lle'r anifeiliaid a laddwyd. 

Unwaith y bydd M. bovis yn y fuches mae’n anodd iawn ei reoli, meddai. Mae'n lledu o’r naill lo i’r llall drwy gyswllt uniongyrchol a thrwy golostrwm a llaeth cyflawn.

Rhoddodd Cyswllt Ffermio gymorth i’r treial oherwydd lefelau cynyddol M. bovis mewn buchesi yng Nghymru ac am fod angen deall mwy am y clefyd.

Mae Abigail James, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio yn y De-orllewin, yn dweud bod yr anhwylder yn cael ei gamddiognosio’n aml fel niwmonia neu glwy’r cymalau, ac felly nad yw llawer o ffermwyr yn ymwybodol bod M. bovis ar eu ffermydd.

Cafodd cyllid ei ddarparu ar gyfer y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Cynhaliodd Cyswllt Ffermio, ar y cyd â’r AHDB, ddiwrnod agored ar Fferm y Wern i rannu canfyddiadau'r treial gyda ffermwyr eraill. 

Mae Mr a Mrs Thomas yn rhedeg buches o 300 o fuchod sy’n cael eu godro gan bum godrwr robotig a osodwyd dair blynedd yn ôl.

Yn ogystal â’r gwaith brechu, mae nifer o newidiadau eraill wedi’u gwneud i fynd i'r afael ag M. bovis yn y fuches dan do ar Fferm y Wern. 

Erbyn hyn mae yna fan penodedig at fagu lloi. Cyn hynny roedd y lloi’n cael eu cadw mewn rhan o'r adeilad a arferai gael ei defnyddio ar gyfer buchod oedd ar fin bwrw llo. Mae gwelliannau wedi'u gwneud o ran rheoli colostrwm hefyd.

Cafwyd newidiadau hefyd yn neiet y buchod sych. Yn hytrach na rhedeg y gwartheg sych fel un grŵp, erbyn hyn mae yna grŵp sy’n agos at loia lle mae’r buchod yn cael 2.5kg o gymysgedd buchod sych ar y cyd â silwair a gwellt wedi'i dorri'n fân am dair wythnos cyn bwrw llo.

 

Mae symptomau M. bovis mewn lloi yn cynnwys gwres uchel, crawn o’r trwyn, pesychu a chlustiau llipa/gwyro’r pen, sy’n cael ei achosi gan haint yn y glust ganol. Mewn buchod, mae’n cael ei weld yn fwyaf cyffredin ar ffurf arthritis (cymalau wedi’u chwyddo), mastitis ac anawsterau atgenhedlu.

Mae anifeiliaid sydd â haint isglinigol mewn perygl o ledaenu’r haint drwy’r fuches.

Yn Seland Newydd, mae’r Llywodraeth yn defnyddio dull cadarn i reoli M. bovis a hynny drwy ladd degau o filoedd o fuchod, ac mae’r rhaglen gwlio hon yn parhau.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y