Mae prosiect Cyswllt Ffermio sy’n canolbwyntio ar well defnydd o wrtaith wedi ei dyfu gartref yn dangos sut y gall rheoli chwalu tail a phrofi statws maetholion pridd wella cynhyrchiant a phroffidioldeb ar briddoedd Cymru.

Roedd y prosiect, ar fferm Lower Eyton ger Wrecsam, yn canolbwyntio ar y ffordd y mae ffermwyr yn gwneud y defnydd gorau o’r gwrtaith a gynhyrchwyd gartref ac sydd ar gael. Y bwriad yw symud oddi wrth brynu gwrtaith, i brotocol prynu ar sail statws y pridd a gofynion y cnwd i sicrhau bod y busnes yn cael yr enillion mwyaf posibl am y buddsoddiad a wnaed. Amcangyfrifwyd bod gwerth y tail a gynhyrchir ar y fferm yn £1,019 am y tail ieir a £4,580 i’r tail gwartheg ac felly mae’n hanfodol sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.

 

Beth a wnaed

  1. Casglwyd samplau pridd dros y fferm gyfan (200ha) a ddefnyddiwyd i bennu mynegai’r pridd, ei ansawdd a’i strwythur.
  2. Rhoddwyd profion i’r tail ieir a’r tail bîff i bennu eu gwerth maethol.
  3. Lluniwyd Cynllun Rheoli Maetholion gan ystyried yr uchod a lluniwyd argymhellion o ran y dulliau chwalu gwrtaith.

 

Canfyddiadau’r prosiect

O’r profion ar y pridd daeth yn amlwg bod amrywiaeth o ran ffrwythlondeb y pridd ar dir y fferm. Dangosodd y samplau bod angen calch ar 19 o’r 35 o gaeau a aseswyd oherwydd bod lefel y pH yn isel. Mae gwella pH priddoedd yn cynyddu ffrwythlondeb y pridd gyda mwy o gynnwys organig a maetholion pridd ar gael i’r cnwd eu defnyddio.

Roedd perygl o lygredd tryledol oherwydd y mynegai maetholion uchel yn y priddoedd. Roedd Ffosffad yn arbennig o uchel gyda mynegai o 4 mewn dau gae ar y fferm. Er mwyn gostwng y mynegai P dylai’r fferm osgoi chwalu Ffosffad ar y caeau yma.

Roedd risg o golli maetholion o’r tail oherwydd y modd yr oedd yn cael ei storio. Cynhyrchir 60 tunnell o dail ieir ac mae ar gael i’w ddefnyddio bob 14 mis, amcangyfrifir bod y tail yn werth £1,019 pan gaiff ei gymharu â phrisiau gwrtaith. Bydd defnyddio’r adnodd hwn yn effeithiol yn lleihau faint o wrtaith anorganig drud y bydd raid ei brynu.

Trwy dargedu’r tail a’i gydbwyso gyda gwrtaith ychwanegol i fodloni gofynion y cnwd gellir sicrhau bod gwrtaith organig gwerthfawr yn cael ei ddefnyddio orau. Amcangyfrifir bod y tail buarth a gynhyrchir gan y 300 o wartheg sydd dan do am 5 mis yn werth £4,580. Bydd cydbwyso a gwerthfawrogi’r ased hwn yn lleihau’r angen i chwalu gwrtaith anorganig a brynwyd i mewn. Bydd chwalu maetholion, fel nitrogen sy’n ofynnol yn unigol yn hytrach nag mewn gwrtaith cyfansawdd yn lleihau costau i’r busnes oherwydd ei fod yn llai costus na gwrtaith cyfansawdd.

 

Argymhellion

Dylid dadansoddi’r pridd am pH, N, P, K ac Mg bob 3 i 4 mlynedd fel rhan o reolaeth y busnes. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd llawer iawn o dail organig wedi ei gynhyrchu gartref a’i gludo i mewn yn cael ei ddefnyddio ar y fferm. Y gwerthoedd targed y dylid eu cynnal ar gyfer glaswelltir yw pH 6.0 a Mynegai 2 i P y pridd, a 2- i K.

Y cyngor yw defnyddio dull wedi ei dargedu o gae i gae i sicrhau bod y maetholion yn cyfateb i anghenion y cnwd. Bydd cyfateb y mewnbwn i ofynion y cnwd yn arbed arian i’r busnes yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd. Targedwch chwalu tail organig yn y gwanwyn pan fydd hynny’n bosibl i sicrhau bod digon o nitrogen ar gael i’r cnwd dyfu. Pan fydd angen chwalu gwrtaith wrea, cynghorir chi i wneud hynny yn y gwanwyn, pan fydd y tymheredd yn isel ac ychydig o anweddu sy’n digwydd. Mae ei ddefnyddio tu allan i’r cyfnod hwn yn arwain at fwy o risg o ollwng i’r ecosystem ehangach a chost heb enillion i’r busnes.

Cadw cofnod parhaus o’r defnydd o dail, ynghyd ag unrhyw wrtaith anorganig. Bydd ail gyfeirio tail organig at gaeau o’r mynegai is yn helpu i gadw cydbwysedd maetholion pridd ar y fferm.

 

Casgliad

Roedd y prosiect yn adolygu’r adnoddau oedd ar gael ar y fferm ac yn annog y defnydd gorau ohonynt gan gynnal ffrwythlondeb y pridd a lleihau effaith amgylcheddol y maetholion a chwalwyd ar briddoedd.  Pan fydd argymhellion yn cael eu mabwysiadu bydd yr allyriadau o’r maetholion yn cael eu lleihau, bydd chwalu maetholion yn fwy cost effeithiol a bydd gwell dealltwriaeth o arferion rheoli tir.

 

Gofalwch eich bod bob amser yn

✔ Gwneud yn siŵr nad oes perygl y bydd y gwrtaith yn llifo i ddŵr.

✔ Paratoi a dilyn cynllun rheoli tail, a chynllun rheoli maetholion.

✔ Cyfyngu’r chwalu i ddim mwy na 250kg o gyfanswm y nitrogen ar unrhyw hectar penodol mewn unrhyw gyfnod o 12 mis; nid yw hyn yn cynnwys tail sy’n cael ei adael gan anifeiliaid sy’n pori (ac mae’r trothwy yn uwch os defnyddir compost wedi ei ardystio neu ei chwalu mewn perllan).

✔ Gwirio dyfrffyrdd yn aml, yn ystod ac ar ôl chwalu.

✔ Gadael o leiaf dair wythnos rhwng chwalu i osgoi selio’r arwyneb ac i roi amser i’r pridd amsugno’r maetholion.

 

Peidiwch Byth â

✘ Chwalu pan fydd yn debygol y bydd yn llifo i ddyfrffordd.

✘ Gadael i elifiant silwair, slyri, tail neu ddŵr budr i fynd i’r ddyfrffordd.

✘ Chwalu deunyddiau organig hylifol pan fydd glaw trwm ar y ffordd o fewn 48 awr. Gall dŵr glaw sy’n rhedeg oddi ar gaeau sydd wedi cael slyri yn ddiweddar achosi llygredd.

✘ Chwalu mwy na 50 m3 (50t) yr hectar ar y tro.

✘ Chwalu ar dir sydd wedi gorlifo neu yn debygol o gael ei orlifo.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites