10 Ionawr 2018

 

Mae ffermwyr ledled Cymru yn cael eu hannog i edrych yn fanwl ar berfformiad eu busnesau a chanfod sut y gallan nhw fynd i’r afael â’r mater allweddol o leihau costau cynhyrchu trwy fynychu digwyddiad nesaf y sioe deithiol ranbarthol ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ a gynhelir gan Cyswllt Ffermio. 

Bydd pob un o’r digwyddiadau gyda’r nos yn cynnwys cyflwyniad a chyngor gan gyfres o siaradwyr sy’n cynnwys rhai o’r ffermwyr sy’n perfformio orau yng Nghymru. Bydd y siaradwyr yn canolbwyntio ar annog ffermwyr i ganfod sut mae meincnodi yn medru bod o gymorth wrth drawsffurfio effeithlonrwydd eu ffermydd a chynyddu eu helw. Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru o 17 Ionawr tan 1 Chwefror 2018

Hefyd ar frig yr agenda fydd hyrwyddo’r trydydd cyfnod ymgeisio ar gyfer cynllun buddsoddi Grant Busnes i Ffermydd (FBG) Llywodraeth Cymru o 29 Ionawr tan 16 Mawrth 2018.

Mae’r cynllun, sydd eisoes wedi derbyn dros 850 o geisiadau, yn darparu cyfraniad rhwng £3,000 a £12,000 ar gyfer ffermwyr cymwys. Gellir defnyddio’r cyllid tuag at wariant cyfalaf ar gyfer tua 70 o eitemau penodol sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid; geneteg a pherfformiad; rheoli cnydau; effeithlonrwydd ynni; effeithlonrwydd adnoddau a TGCh. 

Yn y dyfodol, bydd angen i ffermwyr cymwys wneud cais am yr FBG trwy wasanaeth ar-lein Taliadau Gwledig Cymru, sef porth ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm. Mae mwy o fanylion am y cynllun, y meini prawf cymhwyso a’r broses ymgeisio newydd ar gaelyma.

Mae’n ofynnol bod unrhyw unigolyn sy’n ystyried gwneud cais am y grant yn mynychu un o’r sioeau teithiol. Nid oes angen i ffermwyr sydd eisoes wedi mynychu digwyddiad ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ wneud hynny eto, ond maen nhw’n cael eu hannog i fynychu er mwyn dysgu mwy am feincnodi a sut y gallai hynny gefnogi perfformiad busnesau.

“Roedd y cynnydd yn y galw am wasanaeth Cyswllt Ffermio yn dilyn pob digwyddiad y sioe deithiol yr un mor allweddol â’r nifer o geisiadau am gyllid a gyrhaeddodd ar ôl y ddau gyfnod ymgeisio cyntaf,” dywedodd Mrs. Elliw Hughes, Rheolwr Gwasanaethau gyda Menter a Busnes sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

“Gwelwyd cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am gefnogaeth busnes a thechnegol sydd wedi cael eu cyllido yn rhannol ac yn gyflawn, a’r nifer o ffyrdd y gallai Cyswllt Ffermio gefnogi hyn, yn enwedig trwy’r Gwasanaeth Cynghori sy’n darparu hyd at bedair enghraifft o gyngor ar gyfer busnesau cymwys dros gyfnod o bedair blynedd.”

Bydd y drysau yn agor am 7pm ar gyfer cofrestru sy’n ofynnol. Bydd pob digwyddiad yn dechrau am 7.30pm a disgwylir y byddant yn dod i ben tua 9.30pm.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint