30 Mehefin 2025
Mae 16 o fusnesau fferm yng Nghymru ar fin arbrofi gyda syniadau newydd, diolch i gyllid gan Cyswllt Ffermio. O harneisio technoleg drôn i fesur ansawdd porfa i sicrhau bod gan ddefaid ddyfeisiau olrhain o'r radd flaenaf i atal lladrad, mae'r prosiectau hyn yn addo cryfhau busnesau fferm unigol ac, yn eu tro, byddant o fudd i'r sector amaethyddol ehangach ledled Cymru.
Mae gan 'Cynllun Arbrofi’ Cyswllt Ffermio hanes o lwyddiant wrth gefnogi prosiectau gwahanol a dyfeisgar. Mewn rowndiau blaenorol, mae ffermwyr wedi edrych ar bopeth o dyfu te a chynhyrchu cnau Ffrengig yn fasnachol i dyfu india-corn gyda blodau haul. Mae'r fenter ddiweddaraf hon yn gweld ffermwyr yn cael cyllid i arbrofi â dulliau newydd yn uniongyrchol ar eu tir.
Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynrychioli sbectrwm eang o amaethyddiaeth Cymru, gan gwmpasu llaeth, tir âr, bîff, defaid, dofednod a garddwriaeth. Mae'r ystod amrywiol hon o brosiectau yn dangos yr ysbryd hwnnw o arloesi sy'n ffynnu yn ein cymunedau gwledig.
Ym Meirionnydd, mae ffermwr llaeth yn ymchwilio i'r godog, codlys sy’n cynnwys llawer o brotein, trwy dreialu tri dull sefydlu gwahanol. Y nod yw nodi dau fath gwahanol o laswellt ar gyfer gwndwn pum mlynedd bob yn ail, gan anelu at gynhyrchu porthiant mwy cynaliadwy. Yn y cyfamser, yng Ngogledd Ceredigion, mae fferm laeth arall yn croesawu’r dyfodol trwy ddefnyddio dronau i wella’r gwaith o asesu ansawdd y borfa, gan ddefnyddio technoleg i reoli glaswelltir yn fwy effeithlon.
Mae cynhyrchydd brwyliaid o Sir Faesyfed yn mynd i'r afael â chloffni enterococws, clefyd heintus cyffredin sy'n effeithio ar gymalau dofednod. Byddant yn defnyddio diheintydd thermol mewn siediau cyn ailstocio, gan obeithio lleihau nifer yr achosion, amddiffyn iechyd y brwyliaid, a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau. Bydd yr arbrawf yn monitro cyfraddau marwolaethau, cymhareb trosi porthiant, ac, yn hollbwysig, y defnydd o wrthfiotigau yn agos.
Mae tyfwr haidd o Ynys Môn yn edrych ar wrtaith cyfansawdd gyda ffosffad wedi'i ddiogelu ynghyd â thail fferm. Y nod yw hybu nifer ffosffad mewn cnydau'r gwanwyn a'r gaeaf, gan arwain at well sefydlu, mwy o gynnyrch, ac enillion gwell ar fuddsoddiad mewn gwrtaith. Ymhellach i'r de yn Sir Drefaldwyn, mae arbrofion ar y gweill ar gyfer tyfu india-corn a manteision gwasgaru nitrogen ar wahanol gyfradd mewn gwenith y gaeaf a rêp had olew'r gaeaf, gan ymdrechu i reoli maetholion yn fwy manwl gywir ac effeithlon.
Mewn ymateb uniongyrchol i'r cynnydd diweddar mewn lladrad da byw ledled Cymru, mae un prosiect gyda’r sector cig coch yn canolbwyntio ar dechnoleg olrhain a monitro. Bydd yr arbrawf hwn yn gosod ac yn profi gwahanol atebion digidol ar ffermydd clwstwr, gan osod dyfeisiau ar ddefaid i olrhain eu symudiadau o fewn y fferm neu ardal system leoli fyd-eang, gyda'r nod o wella diogelwch a rhoi tawelwch meddwl i ffermwyr.
Y tu hwnt i atal lladrad, mae technoleg hefyd yn cael ei defnyddio i wella rheolaeth dda byw. Ym Mrycheiniog, bydd prosiect pori cadwraeth yn gosod coleri diwifr 'heb ffens' ar wartheg cynhenid. Nod y dull arloesol hwn yw profi a all y coleri hyn alluogi pori wedi'i dargedu, gan wella gwerth cynefinoedd ar dir comin a thir fferm trwy reoli rhywogaethau ymosodol fel rhedyn. Mae system debyg hefyd yn cael ei threialu mewn system bori helaeth yn Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent, i weld a all wella lles anifeiliaid, a chanlyniadau amgylcheddol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae ffensio traddodiadol yn heriol.
Mae llawer o brosiectau cig coch yn edrych yn fanwl ar iechyd y pridd a da byw. Ym Mrycheiniog, mae gwndwn llysieuol yn cael ei sefydlu, gan gyflwyno rhai mathau newydd i'r DU. Mae iechyd a pherfformiad ŵyn hefyd yn ffocws allweddol ar gyfer tri phrosiect pellach. Bydd un fferm yn Ne Sir Drefaldwyn yn cymharu dau bigiad fitamin B12 i fynd i’r afael â diffyg cobalt mewn 600 o ŵyn, gan fonitro'r enillion pwysau byw dyddiol a sgôr cyflwr y corff i asesu cost-effeithiolrwydd. Mae mentrau cig coch eraill yn cynnwys; tros-hadu gan ddefnyddio da byw (Gogledd Sir Drefaldwyn); defnyddio bio-symbylydd gwymon i wella ansawdd y glaswellt (Gogledd Ceredigion); cymharu perfformiad ŵyn ar wndwn llysieuol ac atchwanegiadau helyg (De Ceredigion) ac opsiynau o ran rhoi elfennau hybrin ychwanegol i ŵyn (De Cymru).
Yn Ne Cymru, mae prosiect yn gwerthuso technegau trin mwsogl migwyn ar raddfa cae, a allai agor llwybrau newydd cyffrous i'r sector garddwriaeth.
Mae'r ystod amrywiol hon o arbrofion yn tynnu sylw at ysbryd arloesol Ffermwyr Cymru ac ymrwymiad Cyswllt Ffermio i gefnogi syniadau newydd. Mae gan y prosiectau hyn y potensial i arwain at fusnesau amaethyddol mwy gwydn, proffidiol a chynaliadwy yn amgylcheddol, gan fod o fudd nid yn unig i'r ffermwyr dan sylw ond i economi wledig Cymru gyfan.