8 Hydref 2019

 

Efallai bod angen i rai o ffermydd Cymru newid cynllun eu systemau trin gwartheg oherwydd nad ydynt yn addas i’r gwaith y maent eu hangen ar ei gyfer.

Mae’r arbenigwraig trin anifeiliaid Miriam Parker yn rhybuddio ffermwyr bîff rhag dewis system ‘un math i bawb’.

Gan fod anghenion pob fferm yn wahanol, dylid rhoi blaenoriaeth i gyfateb y system drin anifeiliaid â’r defnydd a fwriadwyd iddi wrth ei chynllunio.

“Ystyriwch y math o anifeiliaid, y gweithlu a’r gwaith fyddwch chi’n ei wneud,” dywedodd Ms Parker wrth ffermwyr oedd yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad Cyswllt Ffermio am drin gwartheg ar draws Cymru.

“Bydd uned buchod magu o 20 yn edrych ar bethau mewn ffordd wahanol iawn i system besgi.”

Dywedodd Ms Parker bod pwyntiau dylunio allweddol i’w hystyried, beth bynnag yw diben y system.

Er mwyn sicrhau diogelwch y rhai sy’n trin yr anifeiliaid, gwnewch yn siŵr bod llwybr ffoi o unrhyw ofod y byddant ynddo gyda gwartheg - dan, dros, tu ôl neu trwy.

Yn ddelfrydol ni ddylai’r ffordd allan o’r crysh gael ei gosod yn union gyferbyn â haul y bore neu haul hwyr y nos.

“Mae gwartheg yn symud yn well pan fydd y ffordd allan yn wynebu eu corlannau neu’r caeau,” dywedodd Ms Parker.

Mae’n hawdd tynnu sylw anifeiliaid wrth iddynt symud trwy le cyfyng felly ystyriwch fanteision ochrau solid i sicrhau na fydd dim yn mynd â’u sylw.

Gall ongl y gorlan fawr sy’n arwain at y gorlan ffrydio achosi problemau – mae Ms Parker yn argymell cael un ochr syth a’r llall ar ongl 30 gradd. 

Ceisiwch osgoi gwneud y gorlan ffrydio yn rhy hir achos os bydd anifail yn cael ei gadw yn aros yno am fwy nag wyth munud mae cyfradd ei galon yn cynyddu.

“Cyfatebwch y nifer o anifeiliaid yn y gorlan â’r math o waith,” dywedodd Ms Parker.

“Gall unedau pesgi lle mae gwaith cyflym cyson, fel pwyso, fod angen corlan hwy na buches fagu lai, ond beth bynnag yw’r system, dylai’r llwybr fod yn hyd dwy fuwch o leiaf cyn i anifail fynd i mewn i’r crysh i’w atal rhag troi yn ôl.”

Y crysh ddylai fod yn eitem ddrytaf mewn system drin.

Mae Ms Parker yn bleidiol i gryshys gwasgu.

“Maent yn fuddsoddiad sylweddol ond gallwch ddylunio ac adeiladu llawer o’r system drin eich hun a sianelu eich arian i’r crysh.

“Mae crysh gwasgu yn cofleidio’r anifail yn hytrach na’i ddal gerfydd ei wddw ac mae manteision amlwg trwy hyn.”

Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru), a drefnodd y gyfres o ddigwyddiadau trin gwartheg, bod cyfleusterau trin wedi eu dylunio yn dda yn cynnig amgylchedd gwaith diogel ar ffermydd bîff.

A nododd, yng Nghymru, y gall ffermwyr ymgeisio am arian trwy Grant Busnes Fferm i helpu gyda chost offer trin.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y