26 Chwefror 2019

 

david phillips and abigail james 1 0
Mae fferm laeth yng Nghymru wedi haneru ei chostau pŵer trwy gynhyrchu ynni o ffynonellau solar, gwynt a biomas.

Dair blynedd a hanner yn ôl, roedd y teulu Phillips yn talu £14,000 y flwyddyn i'w cyflenwr trydan, ond erbyn hyn mae nhw’n talu £7,000 yn unig ar ôl buddsoddi mewn system solar 30kW, tyrbin gwynt 20kW a boiler biomas.

“Mae cost trydan wedi codi yn y tair blynedd a hanner hynny, o 12c yr uned i 17c, ac felly rydym mewn gwirionedd yn talu llai na hanner y cyfanswm yn 2015,” meddai  David Phillips, sy'n ffermio 310 erw ar Fferm Trebared, Aberteifi, gyda'i rieni, John a Mair.

Buddsoddodd y teulu, sy’n cadw 200 o wartheg Holstein Friesian, tua £250,000 mewn ynni adnewyddadwy, ond maen nhw’n rhagweld y bydd yr ynni hwn yn talu am ei hunan  mewn llai na saith mlynedd am fod y Tariff Cyfrannu Trydan (FIT) sydd ganddyn nhw yn werth 19c / kWh.

Mae'r tariff hwn yn llai na hanner y 40c / kWh a oedd yn cael ei dalu pan gyflwynwyd FIT yn 2010, ac mae'r gost wedi gostwng mwy erbyn hyn.

Fodd bynnag, yn ystod cyfarfod Safle Ffocws gan Cyswllt Ffermio yn Nhrebared, dywedwyd wrth ffermwyr y gallent barhau i wneud arbedion da ar eu costau trwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm, hyd yn oed ar ôl i  FIT ddod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Dywedodd arbenigwr ar ynni adnewyddadwy, Chris Brooks, fod y llywodraeth wedi peri rhuthr am arian parod pan roddodd gyfradd mor uchel ar FIT wrth gyflwyno'r cynllun yn 2010.  Oddi ar hynny, fodd bynnag, roedd y pwyslais wedi newid o wneud arian i arbed arian oherwydd rhagwelir y bydd costau ynni yn dal i godi.

Yn 1990, cost gyfartalog kWh o drydan oedd £0.06 ac mae bellach yn £0.17. Mae Mr Brooks yn rhagweld y gallai fod yn £0.25 neu'n uwch erbyn 2025.

“Mae ynni yn gost sylweddol a chynyddol i'ch busnes ac mae'n rhaid ichi edrych ar ffyrdd o leihau’r gost oherwydd nad yw’r pris rydych chi’n ei gael am eich llaeth ac wyau, neu beth bynnag rydych yn ei gynhyrchu,  yn debygol o gynyddu yn unol â'r cynnydd yn eich costau ynni,” meddai Mr Brooks wrth ffermwyr a oedd yn mynychu diwrnod agored Cyswllt Ffermio.

Ar gyfartaledd, mae cost blynyddol trydan ar fferm laeth rhwng £55 a £70 y fuwch, ond i lawer mae’n uwch o dipyn.

Mae’r teulu Phillips yn cyfaddef bod FIT yn gymhelliad yn eu penderfyniad i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ond y byddent wedi cymryd yr un camau hyd yn oed heb y taliad hwn.

“Os ydych chi'n defnyddio llawer o bŵer ac yn gallu ei gynhyrchu'n rhatach gyda systemau solar, gwynt neu fiomas, mae'n werth gwneud hynny ac mae ein prynwyr hefyd yn disgwyl hynny,” meddai Mr Phillips.

“Mae gan ein prynwr llaeth adran ynni adnewyddadwy ar y ffurflen gwarant fferm. Er nad yw’n ofynnol yn ein contract, mae’n flwch y gallwn ei dicio.”

Trefnwyd y diwrnod agored gan Abigail James, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio yn Ne Orllewin Cymru.

Am fod ynni wrth wraidd ffermio, mae llawer o ffermwyr yn manteisio ar gyfleoedd i leihau'r costau hyn, meddai.

“Trwy gynhyrchu eich ynni eich hunan a bod yn fwy effeithlon, nid yn unig y gallwch dalu llai am ynni ar y fferm, ond gallwch hefyd ddiogelu ffermydd bach a mawr rhag cynnydd ym mhrisiau ynni yn y dyfodol,” ychwanegodd.

 

 

Mae prosiect Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio ar Fferm Trebared wedi golygu arbedion pellach mewn costau ynni i’r busnes.

Pan godwyd tyrbin gwynt y fferm, newidiodd y busnes i gyflenwad trydan tri-cham, gan ddisgwyl y byddai anghenion ynni'r fferm yn dibynnu i’r un raddau ar bob un o'r tri cham.

Ond pan gafodd y defnydd ei fonitro dros gyfnod o wyth diwrnod ddiwedd y llynedd, canfuwyd bod y system yn anghytbwys.  Roedd dau o'r camau hyn yn rhedeg ar 49%  o’u capasiti a’r trydydd ar 2% yn unig – am nad oedd y dyfeisiau a oedd yn tynnu oddi ar y system wedi cael eu dosrannu'n gyfartal.

Roedd hyn yn golygu fod y teulu Phillips yn prynu trydan yn ddiangen ac, ar yr un pryd, wedi allforio bron i draean o'r ynni a gynhyrchwyd ar y fferm yn ôl i'r grid.

“Yr ateb yw newid y motorau i dri cham yr un pryd ag y mae’r cyflenwad tri-cham yn cael ei osod,” yw cyngor Mr Brooks.

“Byddai’r gost o fewnforio trydan yn ddiangen yn ystod y tair blynedd ers gosod y tri cham wedi talu am hynny.”

Ariannwyd y prosiect gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o