31 Awst 2023

 

Yn ôl astudiaeth bwysig newydd yng Nghymru sy'n cynnwys mwy na 5,400 o wartheg, mae ffermwyr llaeth yn ystyried dysgu rhwng cyfoedion fel un o'r llwybrau mwyaf gwerthfawr i fynd i'r afael â chloffni yn eu buchesi.

Cynhaliwyd yr ymchwil fel prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru i daflu goleuni ar sut y gallai ffermwyr llaeth Cymru wella ar eu cofnod cloffni oherwydd, er gwaethaf pwyslais sylweddol ar leihau nifer yr achosion dros yr 20 mlynedd diwethaf, nid oes tystiolaeth bod y sefyllfa'n gwella.

Arweiniwyd y prosiect EIP gan y milfeddyg Sara Pedersen, o Farm Dynamics Ltd, ac roedd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o ymyriadau ymarferol ar 24 o ffermydd llaeth gan gynnwys Grwpiau Gweithredu dan Arweiniad Ffermwyr (FLAGs), dull cymar i gymar yn seiliedig ar system a ddatblygwyd yn Sgandinafia.

Ar ôl i'r astudiaeth ddod i ben, ystyriwyd FLAG fel yr opsiwn ymyrraeth yr oedd ffermwyr yn debygol o barhau ag ef yn y tymor hwy yn bennaf.

Fodd bynnag, arweiniodd ymyriad arall - cyngor milfeddygol un-i-un ar weithredu rhaglen AHDB Healthy Feet Lite (HfLite) — hefyd at ostyngiadau yn nifer yr achosion o gloffni.

Roedd y gostyngiad cyfartalog ar gyfer ffermydd a oedd yn rhan o'r HFLite, FLAG neu gyfuniad o'r ddau yn bron i 10% o'i gymharu â mân welliant o 1% yn y grŵp rheoli o ffermydd na dderbyniodd unrhyw ymyrraeth.

Roedd FLAGs mor boblogaidd gyda ffermwyr fel y bydd y ddwy FLAG EIP yn parhau gyda'r gwaith hwn o dan nawdd Agrisgôp, rhaglen datblygu rheolaeth a ariennir yn llawn Cyswllt Ffermio, gyda'r grwpiau'n cael eu hwyluso gan Ms Pedersen.

Mae Agrisgôp yn annog ffermwyr a choedwigwyr cymwys i ddod at ei gilydd nid yn unig i ddatblygu eu busnesau, ond i fagu hyder a sgiliau yn bersonol trwy ddysgu gweithredol.

Mewn FLAG, nid yw ffermwyr yn derbyn cyngor arbenigol — yn hytrach ceir dysgu cymar i gymar gyda ffermwyr yn rhannu gwybodaeth a syniadau drwy gyfarfodydd ar eu ffermydd eu hunain.

Dywedodd Ms Pedersen fod hyn yn rhoi ffermwyr yng ngofal y broses - gosod yr agenda, dewis y problemau a chanfod yr atebion. 

Nid yw'r hwylusydd yn ymgymryd â rôl cynghorydd, gan ganolbwyntio yn hytrach ar sicrhau bod y cyfarfodydd wedi'u trefnu'n dda, yn ddisgybledig, wedi'u dogfennu'n dda ac yn rhedeg ar amser. 

“Mae'r hwylusydd yn annog cwestiynau ac yn cynnal momentwm cyfarfod ond nad yw'n darparu unrhyw fewnbwn technegol yn ystod trafodaethau,” esboniodd Ms Pedersen.

Yn y grwpiau, meincnodwyd nifer yr achosion o gloffni ym mhob buches ynghyd â nifer yr achosion o friwiau a gofnodwyd mewn cofnodion trimio traed.

Yn gyffredinol, roedd ffermwyr o'r farn bod y FLAGs yn fwy gwerthfawr na'r HfLite ac roeddent yn fwy tebygol o barhau â'r rhain ar ôl i'r prosiect ddod i ben gan fod derbyn cyngor ymarferol ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'u sefyllfa fferm eu hunain yn bwysig iawn, meddai Ms Pedersen.

"Fodd bynnag, roedd cynllun gweithredu HfLite yn aml yn gosod y sylfaen ar gyfer rhai o'r trafodaethau yng nghyfarfodydd FLAG felly roedd gwir werth cael y ddau ochr yn ochr â'i gilydd,” ychwanegodd. 

Ar gyfartaledd, roedd ffermwyr yn sgorio gwerth y cyngor a gafwyd drwy FLAGs fel 8.5 allan o 10, o'i gymharu â 7.8 ar gyfer HfLite.

“Dywedon nhw mai'r agwedd fwyaf gwerthfawr oedd ymweld â ffermydd eraill, roedd amlder y cyfarfodydd yn golygu eu bod yn canolbwyntio'n gyson ar gloffni ac ymgorffori data briwiau ar gyfer meincnodi,” meddai Ms Pedersen.

Dywedodd pob ffermwr eu bod yn “debygol iawn” neu'n “hynod debygol” o barhau i fynychu FLAG yn y dyfodol.

Daeth i'r amlwg hefyd mai'r dylanwad cadarnhaol mwyaf ar allu ffermwyr i reoli cloffni oedd defnyddio trimiwr traed medrus iawn; roedd llawer o'r ffermydd a welodd y gostyngiadau mwyaf mewn cloffni yn newid trimwyr traed o ganlyniad i gyngor a dderbyniwyd gan eu cymheiriaid.

Ar y llaw arall, nodwyd bod cyfyngiadau TB gwartheg yn cael y dylanwad negyddol mwyaf oherwydd y cyfyngiadau o ran difa gwartheg hŷn a llai o anifeiliaid cyfnewid yn dod i mewn i'r fuches.

Ar ddechrau'r astudiaeth, roedd ffermwyr wedi disgrifio eu bod yn teimlo'n 'llawn pryder’, yn 'bryderus' neu 'wedi’u llethu' gan gloffni ond ar ei diwedd roedd y disgrifiadau hynny wedi newid i 'wedi’u grymuso’, ‘cyfforddus’ a ‘chadarnhaol.'


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites