Canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei reoli a diogelu eich busnes at y dyfodol fydd prif thema Fforwm Ffermwyr Cymru Cyswllt Ffermio. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar yr 2il o Chwefror 2017 yn Hafod a Hendre ar Faes y Sioe Frenhinol, yn dod  â ffermwyr o bob cwr o Gymru ynghyd.

Gyda’r ansicrwydd sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd, mae Fforwm Ffermwyr Cymru’n anelu at ysbrydoli’r rhai hynny sy’n mynychu i ganolbwyntio ar elfennau o’u busnes y maent yn gallu eu rheoli, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddarganfod mwy am yr amrediad o wasanaethau cefnogi sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio.

Bydd siaradwyr gwadd y digwyddiad yn cynnwys Sion Williams, Rheolwr Fferm ar Ystâd Buccleuch ger Selkirk, Ffiniau’r Alban, Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaeth Rhanbarthol HSBC, Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a’r Môr, Llywodraeth Cymru, a’r Athro Jamie Newbold, IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

Fforwm Ffermwyr Cymru 2017

Dyddiad: 2 Chwefror 2017

Amser: 10:00 - 16:00

Lleoliad: Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, LD2 3SY

 

I archebu eich lle, cofrestrwch ar wefan Cyswllt Ffermio os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Sian Tandy ar 01970 631404 neu sian.tandy@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites