Mae Cyswllt Ffermio wedi dewis dau o leoliadau mwyaf eiconig Cymru er mwyn cynnal Fforymau Merched mewn Amaeth eleni, sy’n cael eu cydnabod bellach fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i nifer o ferched sy’n gweithio yn y diwydiant yng Nghymru.
Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau Merched mewn Amaeth blaenorol, sy’n denu cynulleidfaoedd llawn bob blwyddyn, cynhelir y digwyddiadau eleni yn y lleoliadau canlynol:
- Portmeirion, Penrhyndeudraeth, LL48 6ER - Dydd Mawrth, 19 Medi 2017
- Castell Aberteifi, Aberteifi SA43 1JA – Dydd Iau 21 Medi 2017
Bydd y ddau ddigwyddiad yn cymryd lle rhwng 10yb a 4yp. Y brif siaradwraig eleni fydd y ferch fferm o Sir Gaerfyrddin, Fflur Sheppard. Cafodd Fflur ei dewis yn bersonol i weithio i un o gwmnïau cyfathrebu mwyaf blaenllaw’r DU yn ddiweddar, a bu’n gyfrifol am arwain ymgyrch lwyddiannus gan un o’r prif adwerthwyr i ail adeiladu ffydd yn y brand a’i berthynas â’i weithwyr. Yn ymuno â Fflur yn y digwyddiadau bydd yr ysgolhaig Nuffield a’r ffermwr Holly Beckett, sydd wedi cynorthwyo i adeiladu’r fferm deuluol pedwaredd genhedlaeth yng Nghanolbarth Cymru i gynnwys siop fferm, bwyty, ysgol goginio a chyfleusterau cynadledda; yn ogystal â chynrychiolwyr o ddau o luoedd Heddlu Cymru a fydd yn trafod troseddau seiber ar ffermydd.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, mai nod y digwyddiad yw annog merched i arwain newid ac arloesedd o fewn amaethyddiaeth, yn enwedig wrth i fusnesau wynebu ansicrwydd Brexit.
“Mae merched yn chwarae rôl flaenllaw mewn nifer o fusnesau fferm a mentrau gwledig yng Nghymru ac mae’n bwysicach nag erioed bellach i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed,” meddai Mrs Williams.
Bydd y fforymau’n dod â merched ynghyd ac yn cynnig cyfle iddynt rwydweithio a chreu cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Bydd mynychwyr hefyd yn cymryd rhan mewn tri gweithdy wedi’u hwyluso.
Bydd pynciau gweithdai’n cynnwys:
- Rheoli staff – wedi’i hwyluso gan Corinna Lloyd Jones, pennaeth adnoddau dynol, Menter a Busnes
- Datblygu eich pobl, datblygu eich busnes – wedi’i hwyluso gan yr Ysgolhaig Nuffield a’r ffermwr, Holly Beckett
- Mynd i’r afael â throseddau seiber mewn amaeth – Paul Callard, Heddlu Dyfed Powys a Nicholas Hawe, Heddlu Gogledd Cymru
Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer y digwyddiadau hyn. Ffoniwch Sian Tandy ar 01970 631404 neu anfonwch e-bost at sian.tandy@menterabusnes.co.uk
RSVP erbyn 12.09.17