Fforwm Merched Mewn Amaeth yng Nghymru 2016: Ysbrydoli, ysgogi, galluogi…
Mae Cyswllt Ffermio yn estyn gwahoddiad i ferched o bob cwr o Gymru fynychu fforwm Merched mewn Amaeth gyda theitl ‘Ysbrydoli, ysgogi, galluogi…’ a gynhelir ddydd Iau, 29 Medi rhwng 10.30yb a 4yp yng Nghanolfan yr Aelodau, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair ym Muallt.
Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn mynychu’r digwyddiad, sy’n anelu at annog merched i gymryd rôl fwy gweithredol mewn busnesau fferm trwy roi’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r arweiniad a fydd yn eu galluogi i gyfrannu at drafodaethau busnes strategol. Cadeirydd y diwrnod fydd yr awdur a’r seren deledu, Bethan Gwanas.
Yn ogystal ag anerchiad gan y Gweinidog, bydd cyflwyniadau gan siaradwyr benywaidd nodedig gan gynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru Wales, sy’n arbenigo mewn ymgysylltiad gweithwyr a newid diwylliant, a fu’n gyfrifol am ddatblygu ac arwain ar ymgysylltiad, cyfathrebu, cynllun a strategaeth mabwysiadu busnes ar gyfer rhaglen Trawsnewid Adnoddau Dynol BT yn y DU ac ar draws 71 o wledydd y byd fel rhan o’i swydd diweddaraf.
Bydd y fforwm blynyddol poblogaidd hwn, sy’n symud o le i le o gwmpas Cymru bob blwyddyn, unwaith eto eleni yn darparu llwyfan sy’n dod â merched sy’n gweithio mewn sawl maes yn ymwneud â ffermio a choedwigaeth ynghyd, gan eu cyflwyno at rwydweithiau cefnogi newydd. Bydd gwahoddiad i’r rhai sy’n mynychu ymuno â phob un o’r gweithdai canlynol:
Datblygu polisi amaethyddol i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd – safbwynt merched
Gweithdy wedi’i hwyluso gan Dr Nerys Llewelyn Jones o gwmni Agri Advisor – cyfreithiwr a mentor achrededig sy’n cyfuno rhedeg cwmni cyfreithiol arbenigol sy’n tyfu ym Mhumsaint a’r Trallwng gyda’i rôl fel gwraig fferm a mam.
Ymgysylltu gydag eraill
Gweithdy wedi’i hwyluso gan Manon Edwards Ahir, cyn-gyfarwyddwr teledu a newyddiadurwraig gyda’r BBC, enillydd gwobr BAFTA Cymru a chyfarwyddwr cwmni marchnata a chyfathrebu dwyieithog ‘mela’, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Cychwyn sgyrsiau anodd
Gweithdy wedi’i hwyluso gan Elaine Rees Jones, mentor amaethyddol annibynnol sy’n arbenigo mewn mentrau arallgyfeirio gan gynnwys ynni adnewyddadwy, dofednod maes a mentrau twristiaeth. Mae Elaine hefyd yn arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio, sy’n cyfuno bywyd gwaith prysur gyda’i rôl fel gwraig fferm a mam.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, mai prif bwrpas y fforwm yw ysbrydoli, ysgogi a galluogi merched i fanteisio ar y dewisiadau a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt o fewn eu busnesau sy’n ymwneud â’r diwydiant ffermio a choedwigaeth.
“Mae Cyswllt Ffermio yn cydnabod y rôl allweddol y mae merched yn ei chwarae yn natblygiad busnesau amaethyddol. Mae gwaith neu ymrwymiadau teuluol yn gallu eu rhwystro rhag mynychu digwyddiadau neu gyfarfodydd Cyswllt Ffermio, ond yn aml, nhw sy’n gyfrifol am arwain y ffordd o ran cynllunio busnes, gweithredu newid a diogelu dyfodol ffermydd teuluol,” meddai Mrs. Williams
Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y digwyddiad hwn. Cysylltwch â Carys Thomas, Cyswllt Ffermio ar 01970 631402 neu e-bostiwch carys.thomas@menterabusnes.co.uk neu defnyddiwch ein ffurflen archebu ar lein.