Mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o gymorthfeydd rheolaeth ariannol i helpu ffermwyr a choedwigwyr i werthuso sut y mae eu busnes yn perfformio, gan ddynodi meysydd i’w gwella a thrafod cynlluniau at y dyfodol.
Bydd y cymorthfeydd rheolaeth ariannol yn cynnig apwyntiad awr o hyd wedi ei ariannu’n llawn i unigolion sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gyda chynghorydd ariannol profiadol i werthuso eu perfformiad ar hyn o bryd, trafod cyfleon ariannol a chwilio am ffyrdd i gryfhau’r busnes, pethau fel ffyrdd mwy effeithlon o fancio, buddsoddi neu trwy gynlluniau pensiwn amrywiol.
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
“Mantais fwyaf dod i gymhorthfa yw’r cyfle i gyfarfod cynghorydd sydd â phrofiad o weithio gyda phob math o fusnesau amaethyddol, a all gynnig syniadau newydd i ddatblygu cyfleoedd busnes newydd, neu gryfhau’r busnes presennol,” meddai Lois Evans, swyddog cymorthfeydd Cyswllt Ffermio.
Yn ogystal â chael golwg gyffredinol ar sefyllfa ariannol bresenol a defnyddio cyfrifon i adnabod opsiynau ariannol posib, bydd y cynghorydd hefyd yn helpu i ddynodi meysydd lle gellid gwella a thrafod unrhyw gynlluniau at y dyfodol i gryfhau hyfywedd y busnes. Bydd y cynghorydd ariannol yn gallu cynghori ar opsiynau ar gyfer buddsoddi ar gyfer y dyfodol, buddsoddiadau oddi ar y fferm, cynlluniau pensiwn, strategaetrhau bancio a llif arian a chyllidebu.
“Trwy fynychu y gymhorthfa yma, mae’n ffordd dda o adnabod buddsoddiadau ac arbedion posib i’r busnes, sy’n ddefnyddiol iawn i’ch helpu i ddeall i ble mae eich busnes yn anelu, cynllunio ymlaen llaw am unrhyw sialensiau a chryfhau ei wytnwch,” ychwanegodd.
“Mae hwn yn gyfle i chi sicrhau bod eich strwythurau ariannol yn effeithiol o ran treth ac yn cyd-fynd gyda’ch amcanion busnes”
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i ddod a gwybodaeth i’r cymorthfeydd sy’n cynnig golwg fanwl ar y busnes, fel cyfrifon tair blynedd ac unrhyw fanylion ynglŷn â buddsoddiadau a phensiynau os yn berthnasol.
Bydd y cymorthfeydd yn cael ei gynnal mewn pedwar lleoliad, yn Wrecsam ar y 23/01/18, Ym Mangor ac yn San Clêr ar y 24/01/18 ac yn Aberhonddu ar y 31/01/18. Byddwch yn derbyn cadarnhad y lleoliad wrth archebu eich apwyntiad.
Er mwyn archebu eich apwyntiad am awr yn un o’r cymorthfeydd, cysylltwch â Gwenan Jones ar 01970 636296 neu anfon ebost i gwenan.jones@menterabusnes.co.