16 Hydref 2023

 

Mae fferm ddefaid yng Nghymru yn gobeithio gwella gwytnwch yn ei system pesgi ŵyn drwy dyfu maglys sy’n oddefgar i sychder.

Mae gan y cnwd sy’n gwreiddio’n ddwfn sy’n sefydlogi nitrogen ac sy’n cynnwys nifer uchel o brotein y potensial i fod yn borthiant delfrydol ar gyfer pesgi ŵyn ar Fferm Newton, Aberhonddu.

Gwnaeth y teulu Roderick gais llwyddiannus am arian drwy ‘Gyllid Arbrofi’ newydd Cyswllt Ffermio i ymchwilio i weld a all tyfu maglys wneud eu busnes yn fwy gwydn i dymhorau pori sychach, ac yn erbyn prisiau porthiant cyfnewidiol trwy ddisodli dwysfwyd a brynwyd i mewn.

Mae eu fferm, sy'n eistedd ar lan sy'n wynebu'r de ac sydd â phriddoedd sy'n draenio'n rhydd, yn dueddol o weld y tir yn llosgi yn ystod haf sych a phoeth.

Dywed Richard Roderick, gyda hinsawdd sy’n newid yn debygol o arwain at yr hafau hynny’n dod yn rhywbeth cyffredin, gallai maglys fod yn rhan o gymysgedd o atebion sy’n gwneud busnesau ffermio yng Nghymru fel ei fusnes ef yn fwy gwydn.

Mae eisoes yn cael ei dyfu’n gyffredin a’i ddefnyddio’n llwyddiannus gan ffermwyr defaid yn nwyrain Lloegr a Seland Newydd ond mae’n llai cyffredin yng Nghymru.

Mae Mr Roderick yn newid ei system ddefaid ar hyn o bryd, gyda chynlluniau i wyna mwy o ddefaid yn yr awyr agored ym mis Ebrill er mwyn lleihau'r defnydd o ddwysfwyd a chostau porthiant.

Ond daw’r newid hwn gyda phryder bod yn rhaid iddo gael ffynhonnell ddibynadwy o bori o safon uchel i dyfu a phesgi ŵyn drwy gydol yr haf.

Mae'n bwriadu tyfu 9.7 hectar o faglys, gan gynnwys byswellt a rhonwellt yn y gwndwn.

Bydd y cnwd, a fydd yn cael ei blannu yn ystod tymor y gwanwyn 2024, yn cael ei bori mewn cylchdro gan ŵyn hyd at eu pesgi.

Bydd ei gynnyrch yn cael ei fonitro a bydd ŵyn yn cael eu pwyso ar adegau allweddol yn ystod y treial gyda’u pwysau’n cael eu cymharu ag ŵyn sy’n pori glaswellt a meillion, i weld a all sicrhau manteision ariannol cadarnhaol i’r busnes o’i gymharu â’r bwydydd hynny.

Bydd iechyd yr ŵyn a baich llyngyr hefyd yn cael eu monitro gyda chymorth gan Filfeddygon Honddu, Aberhonddu.

Mae Mr Roderick yn gobeithio y gallai maglys leihau ôl troed carbon y fferm ymhellach drwy gyflymu cyfnodau pesgi ŵyn.

Mae’n ddiolchgar i Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio am y cyfle i wneud yr ymchwil hwn i lywio penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.

Dywed Mr Roderick nid yn unig y mae potensial i hyn fod o fudd i'w fferm ei hun ond hefyd i eraill yn y rhanbarth gan y bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu'n eang â’r diwydiant.

Datblygodd Cyswllt Ffermio y Cyllid Arbrofi i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ym musnesau amaethyddol tra hefyd yn gwarchod yr amgylchedd.

Mae’r cyllid Arbrofi yn darparu cyllid ar gyfer ceisiadau prosiect llwyddiannus i
fusnesau unigol neu grwpiau o hyd at bedwar busnes fferm a thyfwyr gan eu galluogi i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.
 
Agorwyd ffenestr ymgeisio newydd ar gyfer Cyllid Arbrofi ar 9 Hydref 2023 a bydd yn rhedeg tan 20 Hydref. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £5,000 i helpu ariannu treialon ar y fferm sy'n arbrofi gyda syniadau newydd.
 
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a gallu cwblhau eu prosiectau erbyn mis Ionawr 2025.
 
“Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect,” eglurodd Ms Williams.
 
Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu i gael y ddolen a gwybodaeth bellach cysylltwch â fctryout@menterabusnes.co.uk 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites