Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth technegol ac ariannol i ffermwyr defaid yng Nghymru i wella perfformiad eu diadell, gan gynyddu proffidioldeb diadell trwy wella geneteg.

Mae'r erthygl hon yn dangos yr effaith y mae magu detholus yn ei chael yn High Country Romneys - fferm deuluol sydd wedi'i lleoli 1200 troedfedd uwchben lefel y môr yn y Mynyddoedd Du yng Nghymru. 

Canfod yr hwrdd mwyaf proffidiol

Yr her fwyaf pan fydd prynwyr hyrddod yn dewis hyrddod i fridio defaid cyfnewid benywaidd yw na ellir asesu llawer o'r nodweddion pwysig trwy edrych ar yr hwrdd yn unig.

Er mwyn nodi’r hyrddod hynny y bydd eu merched yn bwrw ŵyn yn hawdd ac yn magu pâr o efeilliaid trwm bob blwyddyn, mae angen i chi gofnodi perfformiad y ddiadell a dewis llinellau bridio sy'n rhagori ar gyfer bridio yn y dyfodol. 

Dyma'r union athroniaeth yn High Country Romney, lle mae perfformiad dros 12,000 o ddefaid wedi'i gofnodi gyda Signet a SIL ar system fasnachol sy’n seiliedig ar laswellt i nodi’r defaid hynny sydd â'r eneteg fwyaf proffidiol.

Hwrdd yn rhoi budd o £5,000: Hanes dau hwrdd

Yr hyn sy'n aml yn synnu prynwyr hyrddod yw'r effaith ariannol y gall geneteg hwrdd ar ochr y fam ei chael ar berfformiad diadell. Gellir gweld y gwir werth yn iawn yn yr enghraifft go iawn hon sy'n cymharu dau hwrdd stoc dylanwadol ar fferm Penny Chantler, Sam a Will Sawday yn nyffryn Gwy. 

Cafodd y ddau hwrdd eu geni yn 2017 a'u defnyddio am sawl tymor, gan adael 1,085 o epilion wedi'u cofnodi rhyngddynt, gyda 254 o ferched yr hyrddod yn cael eu cadw ar gyfer bridio. 

Dangosir rhinwedd genetig y ddau hwrdd yn Nhabl 1. Mae'r ddau hwrdd yn uwch na'r cyfartaledd o ran gallu mamol (sef genynnau sy'n dylanwadu ar gynhyrchu llaeth a gofal mamol), ond mae gwahaniaeth mawr yn rhinwedd genetig Hwrdd A o ran cyfradd twf cynnar ac epiliogrwydd. 

Tabl 1. Rhinweddau genetig hyrddod cenhedlu

 

EBV pwysau wyth wythnos

(Cyfradd twf yr oen)

EBV Maint Torllwythi a gaiff eu geni

(Epiliogrwydd y famog)

EBV Gallu Mamol 

(Cynhyrchu llaeth a gofal)

Hwrdd A

5% uchaf

5% uchaf

5% uchaf

Hwrdd B

5% isaf

5% isaf

25% uchaf

Yn y genhedlaeth gyntaf, mynegwyd genynnau’r hwrdd ar gyfer twf gan ei epilion. Roedd ŵyn sengl Hwrdd A 0.5kg yn drymach yn 56 diwrnod oed na rhai Hwrdd B, ac roedd gefeilliaid 0.8kg yn drymach.

Fodd bynnag, yn yr ail genhedlaeth, wrth i ferched pob hwrdd ymuno â'r ddiadell fridio y daeth y gwahaniaethau yn fwy amlwg. Roedd merched Hwrdd A yn magu llawer mwy o ŵyn, a hwythau’n ŵyn trymach – oherwydd y genynnau a oeddent wedi’u hetifeddu o’u tad. 

Tabl 2. Perfformiad merched pob hwrdd

 

Nifer yr ŵyn a fagwyd fesul mamog

 

Pwysau 56 diwrnod ŵyn 

a fagwyd gan ferched yr hwrdd (kg)

 

  

Ŵyn sengl

Efeilliaid

Hwrdd A

1.50

 

17.1

14.7

Hwrdd B

1.18

 

16.8

13.9

Gan ddefnyddio'r data hwn, gallwn gyfrifo gwerth y gwahaniaethau genetig hyn bob blwyddyn ar gyfer pob 100 o ferched yn y ddiadell. Byddai Hwrdd A yn magu 32 yn fwy o ŵyn ac o ystyried y cyfraddau twf uwch, byddai hyn yn arwain at werthu £466kg ychwanegol o ŵyn fesul 100 o ferched – sef gwerth £1258 ychwanegol bob blwyddyn.

Gan dybio bod y famog gyffredin yn aros yn y ddiadell am 4 blynedd, byddai'r cynnydd hwn mewn cynhyrchiant wedi creu £5000 yn ychwanegol – a hynny o ganlyniad i ddewis yr hwrdd â’r gwerthoedd bridio gorau. 

Tabl 3. Effaith ar berfformiad fesul 100 o ferched 

 

Yr ŵyn a fagwyd

Ŵyn sengl

Gefeilliaid

Tripledi

Cyfanswm pwysau'r ŵyn

Cyfanswm gwerth

Hwrdd A

150

62

85

4

2353kg

£ 6,354

Hwrdd B

118

86

32

0

1887kg

£ 5,096

Gwahaniaeth

32 yn fwy o ŵyn wedi'u gwerthu

   

466kg yn fwy o ŵyn

wedi'i werthu

£ 1,258 yn fwy o incwm

Crynodeb

Mae'n cymryd amser ac ymrwymiad i wella perfformiad mamol y ddiadell o famogiaid trwy fridio detholus, ond gall prynwyr hyrddod masnachol fanteisio ar y gwaith sy'n cael ei wneud mewn diadelloedd bridio hyrddod fel High Country Romneys, trwy ddefnyddio gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) i ddewis yr hyrddod hynny â’r nodweddion sydd eu hangen yn eu diadell.

Gall hyd yn oed cynnydd bach yn effeithlonrwydd y ddiadell o famogiaid gael effaith fawr ar broffidioldeb diadell, gan gynhyrchu cynnydd mewn perfformiad a fydd yn cael ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn. 

Samuel Boon, Gwasanaethau Bridio Signet Samuel.boon@ahdb.org.uk

Rhagor o wybodaeth 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ein Ffermydd 2025 Cadwch Y Dyddiad
"YR WFSP YN ANNOG FFERMWYR CYMRU: BLAENORIAETHWCH DDIOGELWCH CERBYDAU AML-DIRWEDD (ATVs) – GALL ACHUB EICH BYWYD
15 Gorffennaf 2025 Mae Partneriaeth Diogelwch ar Ffermydd Cymru
Mae Cyswllt Ffermio yn croesawu Dosbarth newydd yr Academi Amaeth ar gyfer 2025
14 Gorffennaf 2025 Mae'r unigolion a ddewiswyd ar gyfer Academi