7 Mehefin 2018

 

Yn dilyn marwolaeth ffermwr llaeth ifanc y llynedd dan amgylchiadau trasig, mae ei dad yn chwilio am newydd ddyfodiad i ffermio’r daliad er mwyn sicrhau dilyniant i waith ei fab.

Roedd Owen Carlisle wedi adeiladu busnes odro lwyddiannus yn Llainrhydwen, Castell Newydd Emlyn, gyda’i dad, Egan, cyn iddo gymryd ei fywyd ei hun ar ôl brwydro gyda phroblemau iechyd meddwl.

Gwerthodd Mr Carlisle y fuches laeth yn dilyn marwolaeth Owen, ac mae bellach wedi troi at raglen Mentro Cyswllt Ffermio i chwilio am newydd ddyfodiad i ffermio’r daliad 160 erw.

Mae Mentro yn fenter a luniwyd i baru perchnogion tir sy’n chwilio am gyfle i gymryd cam yn ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid, gan gynnig cyllid ar gyfer cynllunio busnes ac arweiniad cyfreithiol.

Mae Mr Carlisle yn benderfynol y dylid cynnig y cyfle yma i berson sydd ar ddechrau ei yrfa yn y diwydiant.

“Daeth Owen adref i ffermio pan oedd yn 16 mlwydd oed ac rydw i eisiau rhoi’r cyfle hwnnw i berson ifanc arall, rhywun sy’n cymryd ei gamau cyntaf yn y diwydiant ffermio,” meddai. “Mae hi mor anodd i berson ifanc ddod i mewn i’r diwydiant llaeth. Mae’r fferm wedi cael ei sefydlu fel fferm laeth ac rydw i eisiau i rywun arall elwa o’r hyn yr ydym ni wedi’i wneud yma.”

Roedd rhieni Mr Carlisle ei hun wedi dod i Lainrhydwen fel newydd ddyfodiaid heb unrhyw gefndir teuluol yn y diwydiant ffermio.

Ar un adeg, roedd y teulu’n godro 140 o wartheg ac wedi buddsoddi £80,000 mewn parlwr Waikato 14/28.

Dros y blynyddoedd diwethaf, roedd nifer y gwartheg wedi lleihau i 60 o wartheg o frid Montbéliardes, brid a oedd Owen yn ei ffafrio.

Yn ogystal â’r parlwr godro, mae’r fferm yn cynnwys tanc llaeth 3,000 litr, ciwbiclau ar gyfer hyd at 120 o wartheg, storfeydd silwair a slyri a sied loia benodol gyda llwybr porthi i allu magu stoc ifanc o enedigaeth hyd eu troi allan.

Ceir llety yno hefyd - estyniad i’r ffermdy a fyddai’n addas ar gyfer teulu bach.

Mae Mr Carlisle yn gobeithio cael rhywun mewn lle erbyn mis Medi, ac yn y cyfamser, mae’n tyfu silwair er mwyn darparu porthiant ar gyfer unrhyw stoc a allai fod ar y fferm erbyn y gaeaf.

 

Er bod y fferm yn 160 erw, mae’n dweud nad oes rhaid i’r newydd ddyfodiad ddechrau gyda’r holl dir. “Byddai cyfle i dyfu i mewn i’r fferm, gan y byddai modd gosod rhannau ar rent ar gyfer pori yn yr haf nes bod angen yr holl dir.”

Ers colli Owen ym mis Mehefin y llynedd, mae’r fferm cael ei osod ar rent ar gyfer pori’r haf ac i gadw defaid dros y gaeaf, ac mae Mr Carlisle hefyd wedi cadw 30 hesbin.

Nid yw’n dymuno gwerthu’r fferm ond mae’n barod i gymryd cam yn ôl.

Er bod diddordeb wedi bod gan ffermwyr presennol sy’n awyddus i’w rhedeg fel fferm ychwanegol i’w daliad eu hunain, nid yw Mr Carlisle eisiau dilyn y trywydd hwnnw.

Mae’n falch bod ganddo gyfle i ddefnyddio rhaglen Mentro i’w gynorthwyo i chwilio.

“Mae’n fenter dda sy’n dod â ffermwyr presennol fel fi, sydd bellach ddim yn awyddus i ffermio’n ymarferol ond ddim eisiau gwerthu, ynghyd â phobl ifanc sy’n chwilio am gyfle i ffermio.”

Dywedodd Einir Davies, sy’n rheoli rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio, “Mae gen i barch mawr at Mr Carlisle sydd wedi dangos cymaint o ddewrder a chryfder dan amodau mor anodd. Mae ei ymrwymiad i chwilio am ffermwr ifanc i weithio gydag ef unwaith eto a’i awydd i gynnig y cyfle yma i newydd ddyfodiad gwirioneddol yn rhywbeth i’w edmygu.”

Cynghorir unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyfle a gynigir gan Mr Carlisle i beidio â chysylltu ag ef yn uniongyrchol. Cysylltwch â Cyswllt Ffermio i ddatgan diddordeb a bydd y tîm yn cydlynu ymholiadau ar ran Mr Carlisle.

Mae Mentro yn wasanaeth paru tir a ddarperir dan raglen Cyswllt Ffermio. Mae wedi cael ei lunio i baru ffermwyr hŷn sy’n dymuno cymryd cam yn ôl o ffermio llawn amser gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gamu i mewn i’r diwydiant. Pan fo pâr wedi cael ei ganfod, gall y rhaglen hefyd ddarparu cyngor busnes a chyfreithiol i sefydlu menter newydd ar y cyd.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 60 o ddarparwyr yn chwilio am rywun i gydweithio a hwy ar y rhaglen Mentro. Gofynnir i unrhyw ‘Geiswyr’ posibl (yr enw a roddir i newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfleoedd trwy’r rhaglen Mentro) gwblhau proffil ar wefan Cyswllt Ffermio cyn cael mynediad at y rhestr lawn o gyfleoedd. 

egan carlisle in the milking parlour

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint