6 Ebrill 2018
Lansiwyd gwasanaeth newydd i gefnogi grwpiau o ffermwyr i ymgeisio am y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS). Mae'r SMS yn cynnig grantiau o hyd at £700,000 ar gyfer grwpiau cydweithredol sy'n ceisio gwella rheolaeth adnoddau naturiol ac wrth wneud hynny yn cyfrannu at les cymunedau gwledig.
Bydd y gwasanaeth cefnogi yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes o dan y rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sydd wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Dewiswyd pymtheg o hwyluswyr i roi cymorth i grwpiau o ffermwyr i ddatblygu eu syniadau a chyflwyno eu ceisiadau datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Os yw grwpiau'n llwyddiannus gyda’r cais datganiad o ddiddordeb ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd yr hwylusydd ar gael i ddarparu cefnogaeth bellach.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes "Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i ffermwyr wrth iddynt ddatblygu eu syniadau. Weithiau gall y broses o wneud cais am gyllid ymddangos yn anodd ond gyda'r hwylusydd wrth law bydd cefnogaeth barhaus ar gael i’r grwpiau."
Enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus yn y gorffennol yw rhaglen Dalgylch Eden sef prosiect sy'n cael ei arwain gan ffermwyr sy'n canolbwyntio ar wella dalgylch yr afon Eden trwy blannu a rheoli coed collddail brodorol; a phrosiect Fferm Ifan, cydweithrediad o 11 o ffermwyr sy'n defnyddio dulliau rheoli tir newydd wedi’u targedu’n benodol at wahanol ardaloedd ond sydd hefyd yn darparu buddion economaidd-gymdeithasol.
Gellir gweld proffiliau’r hwyluswyr sydd ar gael i helpu grwpiau ar wefan Cyswllt Ffermio, a gall ffermwyr ddewis yr hwylusydd sy'n gweddu orau i'w hanghenion.
Dylai ffermwyr sydd â diddordeb gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 0845 6000 813 neu wneud cais ar-lein drwy glicio yma.