22 Chwefror 2019

 

Chris Duller, AgriPlan Cymru

 

chris duller2 0

 

Mae gwanwyn cynnar wedi bod ar restr ddymuniadau nifer o bobl, yn enwedig y rhai sydd â phrinder porthiant neu sy’n cadw golwg ar brisiau gwellt – gorau po gyntaf y gellir troi’r anifeiliaid allan. Gyda’r cyfnod mwyn diweddar, a rhagolygon sefydlog am wythnos neu ddau, mae cyfle da yn bendant i rai wasgaru gwrtaith yn gynnar er mwyn rhoi hwb i gyflenwad glaswellt. Mae gwasgaru nitrogen yn gynnar yn golygu sicrhau ymateb da a lleihau’r perygl o golledion.

 

 

 

Dyma’r rheolau sylfaenol ar gyfer defnyddio nitrogen yn gynnar:-

  1. Dewiswch y caeau cywir. Gwyndonnydd ifanc, sych sy’n wynebu’r de, 50% neu fwy o rygwellt, dim niwed sylweddol i’r pridd. Gyda’r caeau hyn, dylech sicrhau ymateb o 10 i 1 o leiaf; felly 10kgDM o laswellt am bob kg o nitrogen a ddefnyddir. Gyda phrisiau nitrogen presennol, yn ogystal â chostau gwasgaru, mae eich nitrogen yn costio oddeutu £1/kg – felly mae glaswellt y gwanwyn yn costio 10c/kgDM i’w dyfu. Cyn belled eich bod yn defnyddio mwy na 50%, mae’n llawer rhatach na bwydo dwysfwyd.
  2. Peidiwch â gwneud difrod wrth wasgaru gwrtaith. Os ydych chi’n gadael ôl olwynion, ni ddylech fod yno - ac mae risg sylweddol y bydd eich nitrogen yn cael ei wastraffu. Yn amlwg, gall pwysedd teiars isel ac olwynion dwbl fod o gymorth, ond os mae’n gae gwlyb - beth yw’r posibilrwydd o’i bori’n iawn o fewn pythefnos i dair wythnos os mae’n troi’n wlyb? Byddai’n well gen i pe byddech yn aros i gyflwr y tir wella.
  3. Sicrhewch fod tymheredd yn uwch na 5 gradd C. Yn ddelfrydol, dylech brynu thermomedr pridd - am tua £10 - neu fel arall, edrychwch ar fap tymheredd pridd Cyswllt Ffermio ar lein i gael syniad bras o’r tymheredd yn eich ardal chi. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod adferiad nitrogen yn cynyddu tua 5% am bob gradd uwchben 5 gradd ar ddechrau’r gwanwyn (Murphy et al 2013).
  4. 106685406 tractor fertilizer spreader 1
    Peidiwch â gwasgaru gormod ar unwaith. 30kgN/ha ar unwaith fyddai fy argymhelliad ar gyfer diwedd Chwefror, felly tua 25 uned/erw. Os byddwch yn cynyddu’r gyfradd, byddwch yn cynyddu’r risg o golledion.
  5. Dewis cynnyrch. Mae wrea yn gweddu’n berffaith gydag amodau oer a gwlyb, ond mae colledion nitrogen fel ammonia yn cynyddu’n sylweddol unwaith y bydd tymheredd y pridd yn cyrraedd ffigyrau dwbl. Os mai dim ond wrea sydd gennych chi, gwasgarwch ef gyda’r nos, yn ddelfrydol gyda glaw mân - mae’r colledion mwyaf i’w gweld o fewn y 12 awr gyntaf ar ôl gwasgaru. Os mae’r rhagolygon yn addo 14 gradd a mwy… nid dyma’r adeg gorau i wasgaru wrea.
  6. Peidiwch ag anghofio fod cyflenwad ffosffad yn gysylltiedig gyda thwf glaswellt cynnar – felly sicrhewch fod unrhyw gaeau gyda mynegai 1 neu fynegai 2 isel yn derbyn ychydig o ffosffad – mae cynnyrch megis yn 25:10:0 ddelfrydol.

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint