12 Medi 2018
Gall ffermwyr llaeth a da byw ddysgu sut i wella eu harferion rheoli pridd mewn gweithdy deuddydd yn trafod pridd a defnyddio gwrtaith a gynhelir gan Cyswllt Ffermio yng Nghaerfyrddin y mis nesaf.
Gall rheoli eich priddoedd yn fwy effeithiol wella cynhyrchiant y fferm gan gynhyrchu mwy o borthiant, a gyda hynny mewn cof, mae Cyswllt Ffermio yn cynnal gweithdy yng Ngelli Aur, ger Llandeilo ym mis Hydref.
Mae Meistr ar Briddoedd yn dilyn dau gwrs Meistr ar Borfa llwyddiannus a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio yn gynharach eleni.
Mae Meistr ar Briddoedd, a luniwyd ar gyfer ffermwyr llaeth, bîff a defaid, yn anelu at gynyddu dealltwriaeth mynychwyr o ffrwythlondeb pridd, gwahanol fathau o bridd a’u strwythur, a byddant yn edrych ar ddulliau i leihau faint o wrtaith a ddefnyddir ganddynt.
Bydd arbenigwyr wrth law i roi arweiniad ynglŷn â chwblhau asesiad o rinweddau’r pridd yn y cae.
Bydd trafodaeth ynglŷn ag egwyddorion gwasgaru nitrogen, ffosffad a photash a chynllunio rheoli maetholion, ynghyd â rôl maetholion eilaidd.
Cynhelir y cwrs, a fydd yn cael ei arwain gan yr arbenigwyr tir glas a phridd annibynnol, Charlie Morgan a Chris Duller, ar 1 a 2 Hydref rhwng 9.30yb a 4.30yp. Mae llety dros nos ar gael.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 26 Medi, ac mae’r ffurflen gais ar gael yma.