dsc 0279 1

Mae gwerth glaswellt o ansawdd uchel mewn systemau pesgi ŵyn wedi cael ei amlygu mewn arbrawf yng Nghymru lle bu ŵyn a fu’n pori glaswellt wedi’i ail hadu’n sicrhau elw dros gostau o £7.92/pen adeg lladd - £2.76 yn uwch na’r dewis bwydo nesaf o ran perfformiad.

Roedd yr arbrawf Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar Fferm Arddangos Aberbranddu ger Llanwrda, Sir Gâr, yn ymwneud â phum grŵp o ŵyn Cymreig Tregaron a oedd yn pwyso 32kg ar gyfartaledd ar ddechrau’r prosiect.

Mae’r ffermwr, Irwel Jones, yn cadw diadell o 1100 o famogiaid Cymreig Tregaron yn bennaf, gyda 350 o ŵyn benyw cyfnewid, yn ŵyna’r mamogiaid o’r 20fed o Fawrth. Mae diadell fechan o famogiaid yn ŵyna dan do ym mis Chwefror a 200 o ŵyn benyw ar ddiwedd Mawrth.

Yn y gorffennol, bu ŵyn ar fferm Aberbranddu’n cael eu pesgi ar laswellt wedi’i ailhadu ac adlodd o wyndonnydd silwair, ac yn cael eu gwerthu i Dunbia.

Mae unrhyw ŵyn nad ydynt wedi’u pesgi erbyn canol mis Tachwedd yn cael eu pesgi ar ddwysfwyd.

Mae Mr Jones yn awyddus i wella cynhyrchiant a rheolaeth costau ac i leihau nifer y dyddiad hyd lladd, felly roedd yr arbrawf Cyswllt Ffermio yn cymharu pum math o ddiet gwahanol ar gyfer pesgi:

  • Wyth erw wedi’i ail hadu gyda chymysgedd o rygwellt lluosflwydd tymor canolig a meillion gwyn
  • Gwndwn pedair erw ar ddeg o laswellt wedi’i sefydlu ers o leiaf 10 mlynedd
  • Gwndwn deng erw o laswellt wedi’i sefydlu gydag ŵyn yn derbyn dwysfwyd ychwanegol
  • Dau erw o rêp porthiant a rhygwellt Eidalaidd
  • Bwydo dwysfwyd dan do.

Rhoddwyd gwerth o £53/pen (£1.63/kg) ar yr ŵyn ar ddechrau’r arbrawf 10 wythnos o hyd – y gwerth cyfartalog a gafwyd am grŵp o ŵyn stôr a werthwyd gan Mr Jones yn syth cyn dechrau’r arbrawf.

Defnyddiwyd y pris fel meincnod i gyfrifo sut oedd y grwpiau wedi perfformio.

Yn ôl y disgwyl, yr ŵyn a fwydwyd dan do sicrhaodd y cynnydd pwysau byw uchaf ar 229g/dydd, ac roeddent yn pesgi ynghynt – llwyddwyd i besgi pob oen o fewn y cyfnod targed o 69 diwrnod.

Ond y grŵp a fu’n pori’r glaswellt wedi’i ail hadu a lwyddodd i sicrhau’r elw uchaf dros y costau - £7.92 yr oen.

Y system a berfformiodd orau wedyn oedd y gwndwn hŷn heb ddwysfwyd – llwyddodd hwn i sicrhau elw dros gostau o £5.16/oen.

Llwyddodd y grŵp a fwydwyd dan do i sicrhau elw o £3.24/pen ac ŵyn ar y gwndwn hŷn gyda dwysfwyd ychwanegol, £1.76.

Y perfformiad gwaethaf a welwyd oedd y gymysgedd rêp porthiant a rhygwellt Eidalaidd – collodd yr ŵyn £0.71/pen ar y cnwd hwn – ond dywed Mr Jones bod sawl rheswm dros hyn.

“Heuwyd yr hadau ar gyfradd rhy uchel ac felly roedd gennym gnwd dwys iawn a oedd yn anodd i’w ddefnyddio, a dim ond 9% oedd ei werth protein,” meddai Mr Jones, sy’n ffermio gyda’i rieni, Eirwyn a Heulwen.

“Rwy’n beio fy hun am y ffaith na lwyddodd y rêp cystal â’r disgwyl, ond rwyf am roi cynnig arall arni, ac rwyf wedi plannu 11 erw eleni.”

Mae’n cyfaddef bod tyfu cnydau amgen ar dir ymylol yn gallu  bod yn heriol.

“Mae rhoi sylw i fanylder yn allweddol a gall y tymor pori byr ei gwneud hi’n anodd i sefydlu cnwd. Does dim i guro gwndwn newydd gyda rhygwellt lluosflwydd a meillion gwyn o ran dibynadwyedd a hyblygrwydd,” meddai.

Bu Mr Jones yn ffermio’n organig am chwe mlynedd, ond penderfynodd ddychwelyd i gynhyrchu confensiynol yn 2014.

Er hynny, mae wedi bod yn ail hadu hyd at 10% o’r fferm ucheldir 500 erw yn flynyddol

“Aeth y tir gam yn ôl pan oeddem yn ffermio’n organig, yn enwedig pan oeddem yn cymryd silwair ac yn tyfu swêds gan nad oedd gennym ddigon o slyri a thail buarth i bobman,” eglurodd.

“Aethom ati i gynnal profion pridd ar bopeth a gwelsom bod mynegai rhai o’r caeau yn 0 ac 1 a’r pH rhwng 5.2-5.6.

“Hyd y pwynt hwnnw, roeddem wedi bod yn defnyddio cymhareb safonol 20:10:10 neu 17:17:17 o wrtaith heb ystyried yr hyn a oedd eisoes ar gael yn y pridd. Rydym bellach yn targedu maetholion i’r hyn sydd ei angen ar y tir.

Gwasgarwyd dau gant chwe deg tunnell o galch eleni a bydd swm tebyg yn cael ei wasagaru’r flwyddyn nesaf.

Er mwyn cadw’r costau ail-hadu mor isel â phosibl, mae Mr Jones yn defnyddio techneg drilio uniongyrchol yn hytrach nag aredig caeau. “Ni fyddwch yn cael gwndwn yr un mor lân, ond mae’r tir hwn yn eithaf creigiog, felly mae drilio uniongyrchol yn gweddu’n well i’r tir. Rydym yn chwistrellu dros bopeth ac yna’n mynd ag oged bigau dros y tir.”

 

PANEL

Goruchwyliwyd yr arbrawf pesgi ŵyn gan yr arbenigwr defaid annibynnol, Lesley Stubbings.

Mae hi’n dweud mai glaswellt yw’r bwyd rhataf ar gyfer defaid, ond yr her yw cael glaswellt o ansawdd uchel sy’n gynhyrchiol ac yn dreuliadwy.

Bydd ailhadu hen wyndonnydd gyda chymysgeddau rhygwellt a meillion yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant deunydd sych, tyfiant ynghynt yn y gwanwyn, gwell ymateb i wrtaith a gwell perfformiad gan yr anifeiliaid.

Ond dywed Ms Stubbings bod lle i ddwysfwyd mewn rhai systemau. “Mae ŵyn ar eu mwyaf effeithlon pan fyddant yn tyfu’n sydyn, felly mae cyfradd twf yn bwysig iawn.  Os nad oes gennych lawer o laswellt a bod angen i chi werthu’r ŵyn, mae hynny’n achos dros ddefnyddio dwysfwyd.”

Mae’r modd y caiff y dwysfwyd ei fwydo’n hanfodol ar gyfer elw. Dangosodd yr arbrawf Cyswllt Ffermio bod bwydo dwysfwyd dan do yn hytrach na glaswellt wedi dyblu elw dros gostau - £3.24 o’i gymharu â £1.76.

“Mae cystadleuaeth am laswellt rhwng mamogiaid ac ŵyn yn yr hydref yn ystyriaeth bwysig,” meddai Ms Stubbings.

“Mae’n rhaid i famogiaid gael blaenoriaeth yn y cyfnod hyrdda. Mae gwerthu ŵyn stôr yn opsiwn y dylid ei bwyso a mesur yn erbyn yr elw posibl o unrhyw system pesgi.”

 

FFEITHIAU’R FFERM

  • Fferm fynydd 850 erw – 650 yn berchen iddynt
  • Tir yn codi o 650 troedfedd i 1,250
  • Hawliau pori mynydd ar gyfer diadell gynefin
  • 60 o wartheg sugno cyfandirol croes
  • Defnyddio teirw Limousin a British Blue
  • Lloeau gwryw’n cael eu gwerthu fel lloeau 8-10 mis oed wedi’u diddyfnu
  • Lloeau benywidd yn cael eu gwerthu’n 18 mis oed, gyda rhai’n cael eu gwerthu i ffermwyr gwartheg sugno eraill fel anifeiliaid cyfnewid
  • Hyrddod Cymreig Tregaron yn cael eu gwerthu ar gyfer bridio
  • 240 o ŵyn benyw Aberfield yn cael eu gwerthu oddi ar y fferm

 

Canlyniadau’r arbrawf

 

DLWG (g/dydd) ar gyfartaledd

% yr ŵyn wedi’u pesgi o fewn 69 diwrnod

Cost fesul cynnydd kg (c)

Elw/oen

(£)

Hen wndwn

94

56

56

5.16

Gwndwn newydd

130

82

48

7.92

Dwysfwyd (ar laswellt)

154

90

136

1.76

Dwysfwyd dan do

229

100

121

3.24

Rêp

53

29

180

-0.71


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras
Gwobrau Lantra Cymru 2024