2 Mai 2019

 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o weithdai o’r enw “Byw oddi ar 10 erw” er mwyn i bobl sydd â diddordeb gael cyfle i dderbyn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth am sut y gellid creu bywoliaeth lwyddiannus ar lecyn bychan o dir.

Bydd Geraint Hughes, Ymgynghorydd Bwyd-Amaeth annibynnol, yn arwain y gweithdai.

 “Mae modd gwneud bywoliaeth lwyddiannus ar lecyn bychan o dir yng Nghymru, ac mae pobl eisoes yn gwneud hynny.

 “Amcan y gweithdai hyn yw darparu cyngor ynglŷn â sut i adeiladu menter broffidiol oddi ar ychydig erwau o dir, yn ogystal ag amlygu syniadau am fentrau posib sydd angen ychydig erwau o dir i ffynnu gan gynnwys cnydau gwerth uchel, cnydau garddwriaethol, aeron arbenigol, perllan, gwinllan a mwy.

“Bydd y gweithdai hefyd yn cynnig ysbrydoliaeth wrth i’r mynychwyr glywed am brofiad ymarferol unigolion mewn busnes sy’n creu bywoliaeth oddi ar lecyn bychan o dir. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiadau,” meddai Geraint Hughes.

Mae amcanion eraill y gweithdai yn cynnwys annog rhwydweithio ymysg pobl sydd â diddordebau tebyg ac amlygu’r ffyrdd y gall Cyswllt Ffermio eich cefnogi. Gall Cyswllt Ffermio ddarparu gwasanaethau drwy raglenni megis Agrisgôp, y Gyfnewidfa Reolaeth, Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru, a llawer iawn mwy.

Cynhelir un o’r gweithdai yng Ngholeg Glynllifon ar 8 Mai 2019 rhwng 19:30 – 21:30 ac fe fydd Jake Eldridge o Oxton Organics yn rhoi cyflwyniad am ei brofiad ef o wneud bywoliaeth oddi ar lecyn bychan o dir. Mae Jake yn rheoli cynllun bocs llysiau, sy’n seiliedig ar gynnyrch mae’n tyfu.

Cynhelir un gweithdy yng Ngwesty Wolfscastle Country Hotel, Sir Benfro ar 13 Mai 2019 ac un arall yn Theatr Hafren, Powys ar 14 Mai 2019 rhwng 19:30 – 21:30. Yn y ddau weithdy yma bydd Matt Swarbrick o Fferm Henbant yn rhoi cyflwyniad am ei brofiad ef o wneud bywoliaeth oddi ar lecyn bychan o dir. Mae busnes Matt Swarbick yn defnyddio dulliau Paramaethu, Rheolaeth Holistig, a rhai o’r dulliau mwy traddodiadol hefyd, i fynd ati i gynnal fferm gynhyrchiol. Ei nod ar y cyfan yw cynhyrchu bwyd o’r tir a dod â’r gymuned ynghyd.

Dewch draw i weithdy Cyswllt Ffermio gyda meddwl agored a pharodrwydd i gwrdd â phobl eraill i gasglu syniadau newydd a chael ysbrydoliaeth i arloesi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cliciwch yma neu cysylltwch â Delyth Evans, Cydlynydd Marchnata a Digwyddiadau Cyswllt Ffermio, dros e-bost: delyth.evans@menterabusnes.co.uk neu gallwch ffonio’r rhif canlynol: 01970 600176.

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu