1 Ebrill 2022

 

Mae cynhyrchydd cig oen sy’n arloesi gyda dulliau o wella hirhoedledd ac ansawdd y gwyndwn pori ar dir ymylol yn ucheldiroedd Cymru wedi ennill gwobr rheoli glaswelltir newydd o bwys.

Cafodd John Yeomans, sy’n ymwneud â phrosiect tair blynedd Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru sy’n treialu ffyrdd o wella gwyndwn glaswellt ar yr ucheldiroedd, ei enwi’n Rheolwr Glaswelltir y Flwyddyn yn y National Arable & Grassland Awards cyntaf yng Ngwesty’r Hilton Bankside yn Llundain.

Roedd y wobr yn gydnabyddiaeth o sgiliau rheoli glaswelltir rhagorol Mr Yeomans yn Llwyn y Brain, ger y Drenewydd, lle mae’n ffermio defaid a gwartheg gyda’i wraig, Sarah.

Mae'r prosiect EIP yn gwneud defnydd da o'r sgiliau hynny drwy ymchwilio i weld a ellir cyflawni hyd yn oed mwy o'r porfeydd yn Llwyn y Brain; mae'n monitro perfformiad porfa ar gyfraddau cynhwysiant uchel ar y tir uchaf - pridd gwlyb, mawn dwfn sy'n codi i uchder o 430 metr.

Daw’r prosiect hwnnw i ben ym mis Mehefin 2022 ond mae’r canlyniadau hyd yma wedi bod yn addawol, dywedodd Mr Yeomans.

Roedd gwyndwn a sefydlwyd yn 2019 yn fwy na 12tDM/ha ar gyfartaledd yn 2021, gan ddarparu porthiant gwerthfawr i 58 o famogiaid ac ŵyn yr hectar am bron i dri mis ac yn ymestyn twf hwyr y tymor yn sylweddol.

“Cynyddodd cynhyrchiant yn aruthrol o fis Mai i ddiwedd mis Mehefin,” dywedodd Mr Yeomans.

Mae'r prosiect wedi dangos y gall rheoli glaswelltir yn dda, hyd yn oed mewn ardaloedd ymylol, arwain at borfeydd toreithiog, gan gynhyrchu dros 12tDM/ha a chynnal cyfraddau stocio uchel.

Yn 2021 cynyddodd canran y rhonwellt yn un o’r lleiniau i 17% - cynnydd o tua 10% yn 2020.

Dywed yr arbenigwr glaswelltir annibynnol Chris Duller, sydd wedi bod yn darparu cyfraniad technegol i’r prosiect EIP, fod cynnydd bach tebyg mewn rhonwellt i’w weld mewn rhai o’r lleiniau gwreiddiol eraill hefyd, y rhai oedd wedi profi 

amodau sefydlu heriol oherwydd lefelau eithriadol o uchel o law.

Fodd bynnag, nid oedd digon o rhonwellt yn bresennol o hyd i gael unrhyw effaith arwyddocaol ar berfformiad y borfa.

Yr heriau mwyaf wrth sefydlu’r gwyndwn pori newydd yn Llwyn y Brain yw cyflwr y tir a natur agored yr ucheldir, sy’n cyfyngu ar y cyfnod pori.

“Yn aml maen nhw’n gallu peryglu arferion pori delfrydol felly gall y defnydd gael ei effeithio, yn enwedig yn gynnar ac yn hwyr yn y tymor,” meddai Mr Duller.

Rhygwellt yw’r prif fath o laswellt yn y lleiniau gwreiddiol o hyd ond gydag ymlediad cynyddol o weunwellt a maeswellt rhedegog, yn enwedig yn y mannau gwlypach.

Mae statws mwynol y lleiniau rhonwellt yn debyg iawn i'r rheolaeth ac nid oes unrhyw wahaniaeth wedi'i gofnodi mewn statws elfennau hybrin.

Mae’r asesiadau ar garbon pridd yn awgrymu nad yw gwella porfeydd yr ucheldir drwy drin tir arwynebol, ar y math penodol o bridd yn Llwyn y Brain, yn niweidiol iawn i stociau carbon pridd.

Bydd cyfansoddiad y porfeydd terfynol yn cael eu hasesu ym mis Mai/Mehefin 2022 ond wrth grynhoi’r prosiect hyd yma, dywed Mr Duller mai canfyddiad allweddol yw bod rhonwellt wedi cael ei dyfu ym mhob un ond un o’r lleiniau a dyfwyd yn ogystal â rhygwellt.

Fodd bynnag, ychwanega mai dim ond yn hwyrach ymlaen y gellir dod i ddeall hirhoedledd rhonwellt o'i gymharu â rhygwellt – sy’n un o fanteision allweddol rhonwellt.

Mae amserlen tair blynedd y prosiect EIP yn un y mae Mr Yeomans yn ddiolchgar amdani. “Mae’n rhaid i chi dreialu rhywbeth am o leiaf tair blynedd i wybod a fydd yn gweithio ai peidio oherwydd mewn cyfnod byrrach gall canlyniadau gael eu gogwyddo gan flwyddyn eithriadol o dda neu flwyddyn eithriadol o wael.’’

Roedd y wobr, dywedodd, yn un oedd yn adlewyrchu cyfraniad pawb oedd yn ymwneud â’r fferm ac, yn wir, y prosiect EIP.

“Mae llawer o bobl wedi helpu a chynghori a rhoi cyfleoedd i ni, o Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio a roddodd gyfle i mi edrych ar sut mae ffermwyr yn tyfu a rheoli rhonwellt yn y Ffindir i’r cyfarfodydd a’r trafodaethau a gefais ag eraill.

“Mae’n bwysig bachu ar gyfleoedd i deithio a chwrdd â ffermwyr eraill a dysgu oddi wrthyn nhw. Gan nad yw Sarah na minnau yn dod o gefndiroedd ffermio, rydym wedi cael llawer o help ac wedi dysgu gan ein cymdogion hefyd.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i Nick Rider o OPICO a enwebodd ni ar gyfer y wobr. Roedd peiriant hau ‘air seeder’ OPICO yn un o’r dulliau o sefydlu trin tir arwynebol yn y prosiect.’’

Mae meibion y teulu Yeomans, Tom, Jack a Joe, a’u partneriaid, yn rhan o benderfyniadau mawr yn Llwyn y Brain er eu bod yn teithio ac yn gweithio o amgylch y byd.

Mae’r canlyniadau a gasglwyd hyd yma o’r prosiect EIP wedi’u dadansoddi ac yn y flwyddyn olaf bydd y canfyddiadau hyn yn cael eu defnyddio i dyfu gwyndwn sy’n perfformio orau o fewn amodau a system ffermio ei fferm. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu