18 Tachwedd 2019

 

Cyhoeddwyd enillwyr tair o wobrau arobryn Cyswllt Ffermio yr wythnos hon yn seremoni Gwobrau Diwydiannau Tir Lantra Cymru a gynhaliwyd ar achlysur eu pen-blwydd yn 25 oed mewn digwyddiad arbennig yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Roedd dros 120 o westeion yn bresennol, yn eu plith y rhai a enwebwyd ar gyfer gwobrau, rhanddeiliaid y diwydiant a chynrychiolwyr y sectorau sgiliau a hyfforddiant. Y tair gwobr Cyswllt Ffermio oedd Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn (dros 40 oed); Dysgwr Ifanc y Flwyddyn (o dan 40 oed) a Gwobr Arloeswr Ffermio.

Cyhoeddwyd mai enillydd gwobr Cyswllt Ffermio dros 40 oed oedd Steve Lewis, ffermwr defaid o Sir Benfro. Graddiodd Steve o Goleg Harper Adams ac mae bellach yn rhedeg fferm 30 erw sy’n berchen i’r cyngor, ger Hwlffordd.

Mae Steve wedi adeiladu ei ddiadell ei hun o 100 o famogiaid masnachol a defaid Texel pedigri ac mae wedi defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a gafodd ar ôl mynychu cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio, sef ‘Cynllunio a datblygu busnes’ a ‘Marchnata eich busnes’, i sefydlu ei fusnes gwerthu ar-lein newydd llwyddiannus. Mae’n gwerthu bocsys o’i gig oen, cig hesbin a chig dafad o’r ‘gât i’r plât’ yn uniongyrchol i’w gwsmeriaid.

Enwebwyd Steve gan Kelly Monroe, darparwr ei hyfforddiant Cyswllt Ffermio ac un o hyfforddwyr busnes ffermio arbenigol Really Pro. Mae Steve yn ddiolchgar am yr hyfforddiant sydd wedi bod o gymorth i droi ei weledigaeth fusnes yn realiti.  Yn ôl Kelly, mae Steve yn ddysgwr ymroddedig; gwnaeth ddefnydd llawn o’r hyfforddiant, a gafodd ei deilwra at ei ofynion o ran y cynnwys a dull cyflenwi, er mwyn gyrru’r fenter fusnes yn ei blaen.

Mark Thomas, ffermwr bîff a defaid o Sir Gaerfyrddin, oedd yn ail yn y categori hwn. Roedd Mark wedi mynychu sawl cwrs hyfforddiant Cyswllt Ffermio yng Ngholeg Sir Gâr er mwyn gwella a diweddaru ei wybodaeth, ac erbyn hyn mae’n rhoi’r syniadau newydd hyn ar waith bob dydd ar y fferm fynydd deuluol.  Cafodd Mark ei enwebu gan Mary Richards, Coleg Sir Gâr.

Enillydd Gwobr Dysgwr Ifanc ‘o dan 40 oed’ Cyswllt Ffermio oedd Gwen Price sy’n bwriadu datblygu’r fferm deuluol yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl cwblhau sawl cwrs hyfforddiant Cyswllt Ffermio a ddarparwyd gan ‘Simply the Best Training Consultancy’, mae Gwen erbyn hyn yn gwneud holl waith gweinyddol a chyfrifeg y fferm.   Ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar gyfer ei gradd Meistr mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr ac yn gweithio’n llawn amser, a phan fydd amser yn caniatáu bydd yn gwneud llawer o waith ar y fferm.

 

Yn ôl Julie Thomas, cyfarwyddwr ‘Simply the Best Training Consultancy’, a enwebodd Gwen, mae ganddi awydd naturiol i ddysgu ac yn derbyn syniadau a chysyniadau gan wneud defnydd da ohonyn nhw yn gyflym iawn.

Cyhoeddwyd mai Susan James, ffermwr bîff ac âr o Arberth, Sir Benfro, oedd yn ail ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio. Cafodd Susan ei henwebu gan Susie Morgan, ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol i gydnabod ei hymroddiad i ddatblygu ei gwybodaeth a’i sgilau personol a’u rhoi ar waith ar y fferm deuluol.

Cheryl Reeves, bio-gemegydd sy’n cadw gwartheg bîff ger Bangor Is-coed, oedd enillydd Gwobr Arloeswr Cyswllt Ffermio. Mae gan Cheryl duedd naturiol i ddysgu, roedd hi’n benderfynol o wella ei sgiliau busnes a manteisiodd ar nifer o gyrsiau hyfforddiant.

Enwebwyd Cheryl gan Julie Thomas, ei darparwr hyfforddiant. Dywedodd Mrs Thomas fod Cheryl yn fyfyriwr brwdfrydig a oedd eisoes yn defnyddio ei sgiliau a’i gwybodaeth newydd mewn ffordd flaengar iawn fel rhan o’i chynllun i arallgyfeirio’r busnes presennol a chynyddu elw’r fferm.     

Hefyd, cyhoeddwyd mai Steve Lewis, enillydd Gwobr ‘dros 40 oed’ Cyswllt Ffermio, oedd yn ail yn y categori Arloeswr y Flwyddyn, gan gydnabod ei lwyddiant wrth ddatblygu ei fusnes gwerthu cynnyrch cig oen ‘mewn bocsys’.

Wrth longyfarch pawb a gafodd eu henwebu eleni, dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, eu bod wedi dangos bod ganddynt ffocws, uchelgais ac ymrwymiad i ddysgu gydol oes.

 “Mae’n amlwg bod pob un ohonyn nhw wedi gwneud ymdrech fawr iawn o ran eu datblygiad personol a datblygiad eu busnes a bydd hyn o gymorth mawr iddyn nhw wrth i ni baratoi at ddyfodol sy’n dal i ymddangos yn eithaf ansicr i’n diwydiant.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd graddol yn nifer y ceisiadau am gyrsiau hyfforddiant ac mae hyn yn dangos parodrwydd y diwydiant i addasu a pharatoi ar gyfer y dyfodol.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites